Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 30 Mehefin 2021.
Weinidog, nid yw profi mai ni yw pwy a ddywedwn ydym ni mor anarferol â hynny, boed er mwyn profi ein hoedran i brynu diod neu dân gwyllt o siop, neu brawf i agor cyfrif banc, neu drwydded yrru i logi car, mae'n rhan o fywyd modern ac yn rhywbeth y mae pob un ohonom yn gyfarwydd â'i wneud. Os yw'n ddigon da ar gyfer y gweithgareddau hynny, pam ddim ar gyfer rhywbeth mor bwysig â phleidleisio? Weinidog, gwn fod y rheini ar y chwith gwleidyddol yn ystyried hyn yn sarhad ar ein democratiaeth, er mai er mwyn gwarchod a diogelu'r broses ddemocrataidd y caiff cardiau adnabod gyda llun eu hystyried. Os ydych yn erbyn y syniad o bleidleiswyr yn profi pwy ydynt, pa gamau eraill y credwch y dylid eu cymryd i sicrhau cadernid ein proses ddemocrataidd?