Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 30 Mehefin 2021.
Diolch am eich cwestiwn. Credaf eich bod wedi gofyn y cwestiwn o chwith, y tu ôl ymlaen. Y cwestiwn yw: os ydych yn dymuno gosod cyfyngiadau a rhwystrau a gwrthbwysau o bob math, a gallech fynd ymhellach o lawer, mae'n rhaid ichi ddweud, 'Wel, mae'n rhaid cael rheswm dros wneud hynny.' Mae pob un ohonom yn dymuno gweld system etholiadol rydd, deg, agored a chadarn. Credaf fod gennym system etholiadol rydd, deg, agored a chadarn. Felly, ni allaf ond gofyn y cwestiwn: os nad oes sylfaen dystiolaethol dros gyflwyno newid a fydd yn ei gwneud yn anos i bobl bleidleisio, a allai beri rhwystrau ychwanegol i bobl rhag pleidleisio, pam fod hyn yn digwydd?