4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 30 Mehefin 2021.
2. Yn sgil sylwadau a wnaed gan y Gweinidog mewn sesiwn friffio i'r wasg ar y coronafeirws ddydd Llun, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru i weithredu eu rheolau diogelwch COVID-19 eu hunain yn y tymor nesaf? TQ559
Roedd fy nghyhoeddiad ddydd Llun yn rhan o sgwrs a fydd yn parhau gyda'n partneriaid dros weddill y tymor hwn. Byddwn wedyn yn cyhoeddi'r fframwaith cyn dechrau'r flwyddyn ysgol newydd, a byddwn yn rhoi'r rhybudd angenrheidiol i ysgolion er mwyn iddynt allu symud at y ffordd newydd hon o weithio yn y tymor ysgol nesaf. Rydym yn cydnabod bod angen cynllunio gofalus er mwyn sicrhau ein bod sicrhau cymaint â phosibl o ddysgu ac yn cadw pawb mor ddiogel â phosibl.
Byddwn yn dweud 'Diolch', Weinidog, ond ni ddarparwyd yr eglurder y gwn y mae'r sector, y disgyblion a'r rhieni ei eisiau. Weinidog, mae'n ymddangos bod yna duedd gynyddol lle rydych chi a'ch Llywodraeth eisiau annerch y wasg yn gyntaf cyn dod i lawr y Siambr hon, sef y drefn briodol wrth wneud newidiadau polisi mawr yn y sector addysg.
Gwelwn duedd gynyddol yn y Llywodraeth yn hyn o beth ac nid dyma'r ffordd gywir o wneud pethau. Ddoe, roedd y Prif Weinidog yn ddigon haerllug i feirniadu diffyg parch Prif Weinidog y DU, ein Prif Weinidog Prydeinig, tuag at y Senedd hon, ac eto, drwy wneud hynny, a mynd at y wasg yn gyntaf heb ddod i lawr y Siambr hon, rydych yn dangos diffyg parch at y Senedd hon drwy beidio â dilyn y drefn briodol. Mae yna ffordd iawn o wneud pethau, Weinidog, a gweddill y Llywodraeth. Nid dyma'r ffordd iawn o'i wneud. Os ydym eisiau i'r Senedd hon gael ei pharchu i'r un graddau â Senedd y DU, nid dyma'r ffordd gywir o fynd ati.
A gaf fi ddiolch i'r Llywydd am gydnabod pa mor bwysig yw hi i'r Gweinidog sefyll gerbron y Senedd heddiw a'r angen amserol am hynny, a'r angen dybryd am hynny? Ac roedd angen mwy o eglurder arnom heddiw, Weinidog. Mae'r sector yn ysu am fwy o eglurder ar ôl eich sesiwn friffio i'r wasg, a dywedodd Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon ei bod yn gwbl ddryslyd, a dywedodd hefyd y gallai eich cynigion fod yn aflonyddgar iawn a chynyddu nifer y cysylltiadau agos yn hytrach na'u lleihau. Mae dryswch llwyr yn gyffredinol ynglŷn â'r hyn y mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd. A ydych yn rhoi'r pwerau i ysgolion unigol? A ydych yn eu rhoi i awdurdodau lleol? Beth ydych chi'n ei wneud, Weinidog? Dyma roeddwn yn gobeithio ei glywed gennych heddiw.
Nid yw'n iawn eich bod am drosglwyddo'r cyfrifoldeb, y bai a phopeth i benaethiaid. Os yw hynny'n wir, nid yw honno'n sefyllfa y dylai penaethiaid fod ynddi, yn enwedig ar ôl y pandemig hwn a'r holl straen sydd wedi bod arnynt. Nid yw'n iawn. Chi ddylai fod yn gyfrifol am hyn, Weinidog, ac os nad ydych eisiau bod yn gyfrifol, os ydych eisiau datganoli peth o'r cyfrifoldeb, dylai fynd i awdurdodau lleol, fel bod ysgolion yn ardaloedd yr awdurdodau lleol yn gwneud y peth cywir o leiaf. Weinidog, mae'n—
A allwch chi ofyn cwestiwn yn awr?
Iawn. Yn olaf, ar fasgiau, Weinidog, dylech fod yn arwain yn genedlaethol ar hynny. Nid yw masgiau mewn ystafelloedd dosbarth yn angenrheidiol mwyach. Nid oes unrhyw effaith ar wahân i'r effaith ar lesiant y plentyn a'r gallu i gyfathrebu yn y dosbarth; mae eich cynghorwyr gwyddonol eich hun wedi dweud eu bod yn gwneud mwy o niwed nag o les. Felly, Weinidog, os gwelwch yn dda, a allwch chi ddod i'r Siambr hon gyda datganiad llawn yn rhoi eglurder? Mae pythefnos ar ôl tan ddiwedd y tymor hwn ac mae angen i athrawon ac ysgolion baratoi ar gyfer y tymor newydd ym mis Medi.
Diolch i Laura Anne Jones am y cwestiwn pellach hwnnw. Nid wyf yn cydnabod y darlun dryslyd y mae'n ei ddisgrifio. Yn ein trafodaethau gyda'n partneriaid yn y sector addysg yn uniongyrchol, rydym wedi bod yn glir iawn y byddwn am gael trafodaethau gyda hwy mewn perthynas â datblygiadau wrth iddynt ddigwydd mewn ysgolion, a byddwn bob amser am gael y trafodaethau hynny ymlaen llaw. Fel y dywedais yn fy ateb cynharach, rydym yn cael y trafodaethau hynny yn ystod y tymor hwn, ac o ran yr amseru, sef y pwynt y gorffennodd ag ef, fel y dywedais, byddwn yn cyhoeddi'r fframwaith yn seiliedig ar y trafodaethau gyda'n partneriaid cyn dechrau'r flwyddyn ysgol newydd. Bydd ysgolion yn cael y rhybudd y byddant ei angen er mwyn gallu cyflwyno'r trefniadau hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol. Bydd angen cynllunio ar gyfer gwneud hynny, a byddant yn cael amser i wneud hynny.
Rwy'n falch o'i chlywed yn siarad am lesiant yn ei chwestiwn. Rydym i gyd, ym mhob rhan o'r system ysgolion, wedi ymrwymo i lesiant a chynnydd ein dysgwyr, a rhai o'r ymyriadau a fu ar waith o anghenraid. Soniodd am orchuddion wyneb mewn ysgolion yn ei chwestiwn, a gwyddom fod hynny'n effeithio ar lesiant a phrofiad addysgol pobl ifanc yn yr ysgol, ac felly rydym am sicrhau bod y rheini, yn amlwg, yn cael eu lleihau, yn gyson â lefel y risg. Y gwir bellach yw bod ysgolion yn gwasanaethu gwahanol gymunedau mewn gwahanol rannau o Gymru, a bydd gwahanol lefelau o drosglwyddiad mewn gwahanol gymunedau. Felly, pan ddywedwn fod angen lleihau'r camau hynny yn gyson â'r risg, mae'r risg honno hefyd yn amrywio mewn gwahanol rannau o Gymru, ac felly roedd yr hyn a gyhoeddais ddydd Llun yn ddull gwahanol o weithredu, a fydd yn hwyluso'r defnydd o gyfres o fesurau mewn ysgolion gan adlewyrchu'r risg leol. Ond fel y dywedais hefyd ddydd Llun, nid yw hyn yn rhyw fath o—os caf ei ddisgrifio fel hyn—ryddid di-ben-draw i bawb; nid dyna yw'r bwriad. Bydd fframwaith cenedlaethol yn berthnasol mewn amgylchiadau lleol, a thrafodir y fframwaith hwnnw gyda'n partneriaid dros weddill tymor yr haf, a bydd ysgolion yn gallu cael gafael ar gyngor proffesiynol ar iechyd y cyhoedd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan eu timau rheoli digwyddiadau lleol, ac yn y blaen. Felly, bydd set glir iawn o rolau a chyfrifoldebau'n cael ei chyfleu'n glir, a bydd ysgolion yn cael y cymorth a'r arweiniad a'r hyblygrwydd i gael y mesurau sy'n adlewyrchu eu proffil risg lleol.
Mae angen i Lywodraeth arwain ac nid gadael penderfyniadau cymhleth i ysgolion ac athrawon sydd dan bwysau anferth yn barod. Mae hynny'n annheg, yn anghyfrifol ac yn creu anghysondeb mawr. Felly, mi fyddwn i'n erfyn arnoch chi i wrando ar y gri gynyddol sy'n dod o'n hysgolion ni a rhoi arweiniad clir a chyson.
A gaf i ofyn i chi am gynlluniau brechu plant a phobl ifanc? Yn amlwg, mae'n rhaid dilyn cyngor y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwnedd o ran brechu plant a phobl ifanc, ond fydd y cyngor yna ddim ar gael tan ddiwedd Gorffennaf. Os bydd y gwyddonwyr yn dweud y bydd brechu yn ddiogel, ac mae hi'n edrych yn debyg mai dyna fyddan nhw yn ei ddweud, oes gennych chi drefniadau ar waith rŵan er mwyn rowlio'r brechlynnau allan yn ystod mis Awst? Mae disgwyl tan fis Medi yn gadael pethau'n hwyr iawn, ac mae yna gyfle i wneud rhywbeth penodol dros yr haf. Mae'r dystiolaeth ar effeithiolrwydd brechu yn erbyn trosglwyddiad y feirws yn awgrymu mai rhaglen frechu oed ysgol ydy un o'r atebion amlycaf.
Diolch am y cwestiwn. Gaf i sicrhau Siân Gwenllian fod arweiniad cenedlaethol clir yn y maes hwn? Bydd y fframwaith yn fframwaith cenedlaethol a fydd yn dangos ystod o ymyraethau sydd yn berthnasol i risg. Mae amgylchiadau lleol, wrth gwrs, yn berthnasol i hynny, fel byddwn i'n sicr y byddai hi'n cydnabod, a bydd cyngor ar gael ar lefel leol a hefyd ar lefel genedlaethol er mwyn sicrhau nad oes ymyraethau yn digwydd sydd yn ormodol o ran y risg. Rwy'n sicr yn rhannu'r nod o fod yn moyn gweld cyn lleied o effaith ar ddysgwyr ag sydd yn gyson â lefel y risg, a realiti'r sefyllfa yw bod hynny yn amrywio. Felly, mae'r cynllun cenedlaethol fydd yn cael ei ddatgan yn cefnogi ysgolion i ymateb i'r risg hynny mewn ffordd gyson, sydd yn seiliedig ar ganllawiau ac ar gyngor.
O ran brechu, dydyn ni ddim yn gwybod eto beth fydd y cydbwyllgor yn cynghori, ac mae'n rhaid aros tan ein bod ni'n cael y cyngor hwnnw cyn fy mod i'n gallu ateb ei chwestiwn hi ynglŷn â beth yn union fyddwn ni'n ei wneud, ond fe wnaf i roi'r sicrwydd iddi fod gennym ni gynlluniau wrth gefn beth bynnag fydd y cyngor ddaw allan oddi wrth y cydbwyllgor.
Diolch, Gweinidog.