7. Dadl Plaid Cymru: Hinsawdd a bioamrywiaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 30 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:02, 30 Mehefin 2021

Fi ydy pencampwr llinos y mynydd—aderyn bychan, hardd, prin. Ond, diolch i waith adfer cynefin y llinos yn Eryri gan amaethwyr ac eraill, mae yna arwyddion fod y rhywogaeth ar gynnydd unwaith eto. Felly, mae gobaith. O gynllunio, o wneud y gwaith adferol, o weithio mewn partneriaeth, mae modd adfer rhywogaethau prin. Mae'r sefyllfa sy'n wynebu natur yng Nghymru a'r byd yn glir i bawb, ac mae'r ystadegau yn sobreiddiol. Mi fydd pob sector, pob cymuned, a phob cornel o Gymru yn cael eu heffeithio'n ddifrifol gan ddirywiad natur. A'r rhai fydd yn teimlo'r effeithiau fwyaf fydd ein plant a'n pobl ifanc—y genhedlaeth nesaf. 

Mae llawer o bobl ifanc yn pryderu am y dyfodol, ac mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth unrhyw wlad i gynnig atebion, i ddangos fod yr argyfwng natur yn cael ei gymryd o ddifri ac, yn bwysicach na dim, i osod allan y camau clir y gellid eu dilyn i oresgyn y sefyllfa. Drwy adfer natur a chaniatáu mwy o gyfleoedd i blant gael mynediad at natur, fe fedrwn ni gynnig ystod eang iawn o fuddiannau i'n plant a'n pobl ifanc ni, i'w haddysg, eu hiechyd a'u lles, ac yn bwysicaf oll, mi fedrwn ni gynnig gobaith am y dyfodol. Ond mae'n rhaid i ni atal y dirywiad drwy osod targedau cyfreithiol i wyrdroi dirywiad bioamrywiaeth, ac yna dilyn hynny drwy greu cynnydd gwirioneddol mewn bioamrywiaeth.

Yn ôl ymchwil gan Estyn, mae'r rhan fwyaf o ymarferwyr yn nodi bod dysgu yn yr awyr agored yn hyrwyddo ymgysylltiad a mwynhad plant mewn dysgu. Ond er bod yna fanteision hollol glir i blant a phobl ifanc yn deillio o'u cyswllt â'r amgylchedd naturiol, mae ymchwil wedi dangos bod faint o amser mae plant yn ei dreulio ar brofi byd natur yn dirywio, heb sôn am y ffaith bod natur ei hun yn dirywio ac yn crebachu ar draws y wlad, gan ei gwneud hi'n anoddach fyth i blant a phobl ifanc fwynhau'r byd naturiol. Ac yn waeth fyth, mae'r dirywiad mewn natur a'r diffyg mynediad at natur sy'n deillio ohono, yn effeithio ar blant mewn tlodi yn fwy na neb arall, gan waethygu anghydraddoldeb cymdeithasol ac o ran iechyd ac addysg.

Mae bioamrywiaeth yn dirywio, does dim amheuaeth am y ffaith yna, ond mi fedrwn ni wneud rhywbeth amdano fo. Mae'n rhaid diogelu llinos y mynydd, mae'n rhaid i ni adfer natur er budd pobl Cymru i'r dyfodol ac er budd dyfodol Cymru. Felly, rydyn ni'n galw ar y Gweinidog a'r Llywodraeth i wneud y peth cywir er budd natur, er budd addysg, er budd iechyd ein plant a phobl ifanc ac er budd y genhedlaeth nesaf, a'r ffordd ymlaen ydy gosod fframwaith cadarn efo ffocws ac amcanion clir drwy gyflwyno targedau adfer natur. Diolch yn fawr.