Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 6 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:50, 6 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Nid oes dim byd o'i le ar gael ymchwiliad yn edrych ar sut yr oedd y rhyngddibyniaeth yn gweithio. Rydych chi'n dweud na allaf i gyhuddo Llywodraeth Cymru o osgoi craffu ar hyn. Gadewch i mi ei gwneud hi'n gwbl eglur: rwy'n cyhuddo Llywodraeth Cymru o osgoi'r craffu mwyaf trwyadl posibl ar hyn drwy wrthod ymchwiliad Cymru yn unig. Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yr ydym ni wedi clywed cyfeiriadau atyn nhw eisoes, am y ffaith fod chwarter y marwolaethau COVID yng Nghymru o ganlyniad i heintiau a ddaliwyd yn bendant neu fwy na thebyg yn yr ysbyty—siawns bod hynny ar ei ben ei hun yn deilwng o ymchwiliad sy'n benodol i Gymru.

Yn gynnar yn y pandemig, gofynnais i Lywodraeth Cymru wrando ar bledion gan feddygon a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yng Nghymru i gyflwyno trefn gwisgo masgiau eang mewn ysbytai—galwadau a wrthwynebwyd, yn rhyfeddol, ar y pryd. Wel, heddiw, bydd rhai o'r un meddygon a gweithwyr iechyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru mewn llythyr agored sefydlu ymchwiliad ymdrin â COVID penodol i Gymru ar unwaith, er mwyn craffu yn briodol ar benderfyniadau a wnaed fel y gellir dysgu gwersi nawr. Mae eich Llywodraeth wedi dweud, a hynny'n briodol, y byddwch chi'n dilyn yr wyddoniaeth wrth wneud penderfyniadau. A wnewch chi nawr ddilyn cyngor y meddygon hyn?