Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Nid wyf yn ymwybodol o'r llythyr yr ydych chi'n cyfeirio ato. Rwy'n tybio ei fod wedi ei gyfeirio at y Prif Weinidog a bydd y Prif Weinidog yn amlwg yn ymateb i hynny. Ond gadewch i mi ddweud bod y GIG yng Nghymru wedi gweithio yn eithriadol o galed drwy gydol y pandemig hwn, ac rydym ni fel Llywodraeth wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i'w gynorthwyo—os meddyliwch chi am y miliynau ar filiynau ar filiynau o ddarnau o gyfarpar diogelu personol y gwnaethom ni sicrhau eu bod nhw yn ein hysbytai ac yn ein cartrefi gofal. O ran 'A wnawn ni ddilyn cyngor meddygon Cymru?', dydw i ddim yn gwybod pwy yw'r meddygon hyn, nid wyf i'n gwybod dim am y llythyr hwnnw, ond rwy'n gwybod, fel bob amser, y bydd y Prif Weinidog yn ymateb i unrhyw lythyr y mae'n ei dderbyn.