Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 6 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:47, 6 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gadewch i mi barhau â'r thema honno, a chloddio ychydig yn ddyfnach os caf i. Ers dros flwyddyn bellach, mae Plaid Cymru wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus ar gyfer Cymru yn unig. Mae eich Llywodraeth—ac rydych chi wedi ei gadarnhau nawr—wedi dewis cael pennod neu benodau yn trafod Cymru mewn ymchwiliad y DU gyfan. Rwy'n credu yn gwbl onest bod hynny yn eich gadael yn agored i'r cyhuddiad o osgoi craffu. Os ydych chi'n cymryd cyfrifoldeb, mae'n rhaid i chi fod yn barod i gael eich barnu ar sail eich gweithredoedd, da a drwg. Nawr, wrth gwrs, ceir y mater hefyd bod Boris Johnson ei hun yn San Steffan yn osgoi craffu wrth betruso ynghylch pryd i ddechrau ymchwiliad y DU gyfan. Mae'n amlwg nad yw ar frys i sefydlu'r ymchwiliad hwnnw ar gyfer y DU gyfan. Mynnodd Syr Robert Owen, y barnwr a gadeiriodd yr ymchwiliad cyhoeddus i farwolaeth Alexander Litvinenko, yn ddiweddar bod angen i'r gwaith ddechrau ar unwaith, a bod adroddiad sy'n cael ei oedi am amser maith yn golygu nad yw'n cyflawni swyddogaeth ddefnyddiol. A ydych chi'n cytuno â hynny?