Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Rwy'n credu bod angen cynnal yr ymchwiliad yn weddol fuan. Nid wyf i'n credu bod hynny yn osgoi craffu; rwy'n siŵr y bydd y sylw yn gadarn iawn ar bob un o'r pedair gwlad. Nid wyf i'n meddwl y gallaf i ychwanegu unrhyw beth o ran barn y Prif Weinidog at yr hyn a ddywedais yn fy atebion i Andrew R.T. Davies. Yn amlwg, yng Nghymru, rydym ni wedi cynnal adolygiad. Mae'r Gweinidog iechyd wedi arwain, o fewn ei hadran hi—neu mae swyddogion wedi arwain o fewn ei hadran hi—pan edrychwn ni ar yr hyn a ddigwyddodd yn y don gyntaf, ac yna yn amlwg yn yr ail don ar hyn o bryd. Ond nid wyf i'n credu, am y rhesymau yr wyf i wedi eu datgan eisoes, bod ymchwiliad penodol i Gymru—. Ond yn sicr nid wyf i'n credu bod hynny yn osgoi craffu.