Seilwaith Trafnidiaeth

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 6 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:01, 6 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn sicr yn codi rhai ystadegau trist iawn yn ei gyfraniad. Nid wyf yn hollol siŵr a yw'r ffordd yr ydych chi'n cyfeirio ati yn rhan o'r cynllun A40 hwnnw, ond, yn amlwg, mae hwnnw ar y gweill. Byddwch yn ymwybodol o'r adolygiad y mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ei gynnal o ran ffyrdd. Rwy'n ymwybodol y bydd cadeirydd y panel yn cael ei gyhoeddi cyn toriad yr haf—cyn diwedd yr wythnos nesaf—ac mae'n disgwyl adroddiad. Rwy'n credu y bydd yr adroddiad interim ymhen tua thri mis ac yna'r adroddiad llawn naw mis yn ddiweddarach. Felly, os yw'n rhan o'r adolygiad hwnnw, dyna'r amserlen ar gyfer hynny.