Seilwaith Trafnidiaeth

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 6 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 1:59, 6 Gorffennaf 2021

Yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, mae'r ffordd A40 rhwng Caerfyrddin a Sanclêr yn un o'r hewlydd mwyaf peryglus yng Nghymru. Rhwng Ionawr 2010 ac Awst 2019, bu 359 o ddamweiniau ar y ffordd yma, gyda rhyw chwarter ohonyn nhw yn arwain at anafiadau, gan gynnwys marwolaeth merch pedair oed. Mae'r un darn o'r heol wedi gweld dau ddigwyddiad arall dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda marwolaethau dyn 20 oed ym mis Medi 2020 a phlismones 37 oed ym mis Chwefror eleni.

Nawr, mae'n amlwg bod angen gwneud rhywbeth ar frys i wella'r sefyllfa ac i drio atal digwyddiadau tebyg i hyn rhag digwydd eto yn y dyfodol. Rwy'n deall bod astudiaeth arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru, neu WelTAG, cam 1 wedi'i chwblhau, ac mae hyn i'w groesawu, wrth gwrs, ond mae yna ohirio wedi bod ar yr astudiaeth. Yn dilyn y profiadau diweddar, mae pobl, wrth gwrs, yn awyddus iawn i weld gwelliannau'n digwydd, a hynny ar frys. Felly, Weinidog, faint o sicrwydd allwch chi roi i bobl yr ardal y bydd yna ddim oedi pellach wrth fynd i'r afael â'r problemau hyn? Pryd allwn ni ddisgwyl gweld gwaith yn dechrau i wella'r sefyllfa?