Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 6 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:49, 6 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Rydych chi ei eisiau yn weddol fuan, ond gadewch i mi fod yn eglur: trwy wrthod ymchwiliad penodol i Gymru, rydych chi'n cytuno i bob pwrpas â'r oedi hwnnw, ac mae'n anochel y bydd y sylw ar yr hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru yn gwanhau o geisio cyfeirio'r sylw hwnnw, gyda'r un manylder fforensig, ledled y DU gyfan. Mae angen i ni ateb cwestiynau am yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru. Ddeuddydd yn ôl, ymunodd y Coleg Nyrsio Brenhinol â'r GMB ac eraill i alw ar Lywodraeth yr Alban i lansio ymchwiliad ar wahân ar gyfer yr Alban—yr un egwyddorion yn y fan yna. Pe byddai galwadau am ymchwiliad ar wahân ar gyfer Cymru yn cael eu gwneud gan gyrff blaenllaw sydd â'r genhadaeth o gynrychioli buddiannau gweithwyr iechyd a gofal a chleifion yma, beth fyddai eich neges iddyn nhw?