Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Mae'r newid i garbon isel yn gymhleth ac yn bellgyrhaeddol. Mae'n gofyn am gydweithio ar draws llywodraethau, diwydiant a'r gweithlu dros y degawd nesaf a thu hwnt. Yn y tymor byr, gellir gwneud rhai gwelliannau—er enghraifft gwella effeithlonrwydd ynni ac effeithlonrwydd adnoddau. Fodd bynnag, dim ond wrth wneud newidiadau mawr mewn prosesau cynhyrchu ac ystyried y potensial ar gyfer technolegau newydd fel dal a storio carbon, newid tanwydd i drydan ac i hydrogen yn y tymor hwy y gellir cyflawni'r gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau sydd eu hangen. Mae'r llwybr carbon isel priodol a chymysgedd o dechnolegau ar gyfer ein cwmnïau cynhyrchu dur yn cael eu hystyried gan gyflogwyr, undebau llafur a llywodraethau. Bydd angen buddsoddiad mawr ar ba bynnag lwybr a gymerir o fewn gweithfeydd cynhyrchu unigol ac mewn cynhyrchu a seilwaith ynni ehangach.
Un o'r heriau mwyaf i gyrraedd sero net ar draws yr economi yw'r newid sydd ei angen i gyflenwad trydan. Mae'r Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi dweud wrthym fod angen i ni gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr bron i sero o ran trydan erbyn 2035. Ar yr un pryd, mae amcanestyniadau amrywiol yn awgrymu y bydd trydaneiddio trafnidiaeth, adeiladau a diwydiant yn golygu y bydd y galw am drydan yng Nghymru yn fwy na dyblu erbyn 2050. Bydd y penderfyniadau y bydd y diwydiant dur yn eu gwneud ar ei lwybr datgarboneiddio yn cael effaith enfawr ar ein hanghenion trydan.
Bydd ein llwybr tuag at Gymru sero net yn anodd, ond bydd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer twf cynaliadwy a busnesau mwy cydnerth. Rydym yn byw mewn byd lle mae economïau eisoes yn blaenoriaethu datgarboneiddio. Trwy ddefnyddio dull mwy effeithlon o ddefnyddio adnoddau, gallwn gwtogi cadwyni cyflenwi a hybu cydnerthedd economaidd. Mae cynhyrchu'r cynhyrchion carbon is sydd eu hangen arnom yn golygu y gellir cadw mwy o werth economaidd yma yn economi Cymru. Er enghraifft, rydym ni wedi buddsoddi £1 biliwn mewn seilwaith ailgylchu sy'n casglu deunyddiau, gan gynnwys dur, o bob cartref yng Nghymru. Rydym ni hefyd yn cyflwyno gofynion ar fusnesau i wahanu eu hailgylchu, a bydd hynny hefyd yn cefnogi'r cyflenwad o ddur wedi'i ailgylchu i'w ailddefnyddio.
Serch hynny, mae hon yn her na all y sector dur ei bodloni ar ei ben ei hun. Mae diwydiant yn ei gyfanrwydd wedi dod at ei gilydd drwy Glwstwr Diwydiannol De Cymru ac mae wedi cael cyllid drwy her datgarboneiddio diwydiannol y DU. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r diwydiannau hynny ar eu dull cyfannol o drawsnewid diwydiant ar gyfer dyfodol sero net. Mae datblygiadau hefyd yn cyflymu'r potensial i ddefnyddio seilwaith hydrogen ledled Cymru, ac yn arbennig y gogledd, ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu trawsffiniol â HyNet yn Ellesmere Port, sy'n datblygu rhwydwaith integredig dal a storio hydrogen a charbon yng ngogledd-orllewin Lloegr a gogledd-ddwyrain Cymru.
Er mwyn darparu'r ynni carbon isel sydd ei angen arnom, rydym ni hefyd wedi ymrwymo i ystyried cyfleoedd i ddatblygu ynni adnewyddadwy morol ac i gefnogi arloesedd mewn heriau ynni adnewyddadwy newydd, gan gynnwys yr her o ran morlynnoedd llanw. Rydym ni'n gweithio'n agos ar draws y sector ynni adnewyddadwy ar y môr, yn enwedig ynni gwynt ar y môr a morol. Mae 4 GW o wynt alltraeth sefydlog eisoes yn cael eu cynllunio neu eu datblygu oddi ar arfordir gogledd Cymru, ac mae'r prosiectau hyn yn debygol o gael eu datblygu erbyn dechrau'r 2030au. Er bod hyn yn sylweddol, nid yw'n ddigon yn y tymor byr i ddatgloi'r buddsoddiad seilwaith gofynnol. Mae hyn yn gofyn am gefnogaeth Llywodraeth y DU i ddatblygu marchnad arfaethedig ochr yn ochr ag offer ariannol cysylltiedig a gorfodi rheol cynnwys y DU o 60 y cant i ategu'r gwaith o ddarparu nwyddau a gwasanaethau gwerth ychwanegol yn lleol.
Roeddwn i'n falch o glywed ymrwymiad cadarn gan adran Llywodraeth y DU, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yn y Cyngor Dur ar 19 Mai i gefnogi'r sector gyda'i heriau allweddol, gan gynnwys prisiau ynni a datgarboneiddio. Mae'n ffaith syml bod gan Lywodraeth y DU lawer o'r pwerau sy'n gysylltiedig â datgarboneiddio diwydiant, gan gynnwys y modelau busnes ar gyfer datblygu hydrogen, dal a storio carbon, cost trydan, ac ysgogwyr allweddol y farchnad fel dull addasu posibl ar y ffin garbon. Byddwn yn parhau i wneud y cyfan o fewn ein gallu i weithio gyda nhw, a'r undebau llafur, i sicrhau bod ein cwmnïau dur yng Nghymru yn parhau i fod mor gystadleuol â phosibl.
Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, busnesau ac undebau llafur i sicrhau bod ein diwydiant dur yn fodern, yn gystadleuol ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Mae'r gweithlu dawnus sydd gennym ni yma yng Nghymru yn sbarduno llwyddiant diwydiant dur y DU, a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i baratoi'r ffordd ar gyfer trosglwyddiad teg. Llywydd, gan fod llawer o gynnydd i'w wneud a chymaint yn y fantol, mae angen i ni weld Llywodraeth y DU yn cymryd camau cynnar. Mae cyfarfod nesaf Cyngor Dur y DU, yr adolygiad cynhwysfawr o wariant eleni, a COP26 yn darparu profion allweddol bellach i Lywodraeth y DU a'u hymrwymiad ymarferol i'r sector a'i ddyfodol.
Serch hynny, roeddwn i hefyd yn falch o benderfyniad Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf i wneud rheoliadau newydd i amddiffyn diwydiant dur y DU gan ymestyn mesurau diogelu dur dros dro. Roedd yn ymddangos i mi fod penderfyniad cychwynnol yr Adran Masnach Ryngwladol yn groes i'r cyfeiriad a'r gefnogaeth a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn BEIS. Rwy'n croesawu'r newid meddwl a gwrthdroi safbwynt yr Adran Masnach Ryngwladol i sicrhau bod mesurau diogelu yn parhau i fod ar waith, fel y mae'n ei wneud o fewn gwledydd yr Undeb Ewropeaidd. Dylai hynny helpu i osgoi gwaredu dur i'r DU.
Ers dod yn Weinidog economi Cymru, rwyf i wedi ei gwneud yn glir i Lywodraeth y DU fod ymestyn y mesurau diogelu dur presennol yn gwbl hanfodol er mwyn diogelu diwydiant dur y DU. Mae'r atebion i lawer o'r heriau y mae'r sector dur yn eu hwynebu yn gymhleth a bydd angen iddyn nhw fod yn drawsnewidiol. Byddaf i'n parhau i hyrwyddo'r sector ac edrychaf ymlaen at weithio ar y cyd â'r diwydiant, y gweithlu, a Llywodraeth y DU ar y technolegau trawsnewidiol, y seilwaith ac ysgogiadau'r farchnad a fydd yn sail i weithrediad y sector a'n holl fusnesau i gyflawni ein dyheadau sero net yn y tymor hwy.