– Senedd Cymru am 5:03 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Dyma ni nawr, felly, yn cyrraedd datganiad gan Weinidog yr Economi ar ddyfodol y diwydiant dur. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Mae gan y diwydiant dur hanes hir a balch yma yng Nghymru. Rwyf i wedi ymrwymo i weithio i sicrhau dyfodol hir, balch a chynaliadwy i'n diwydiant dur. Yn ogystal â chefnogi miloedd lawer o swyddi yng Nghymru, mae'r sector dur hefyd yn galluogi popeth gan gynnwys ein hadeiladau, trafnidiaeth, cyfleustodau a systemau cyfathrebu, a llawer o'n cynnyrch defnyddwyr. Mae datblygu sector dur cynaliadwy a charbon isel yn sylfaen hynod bwysig i'n diwydiannau gweithgynhyrchu ac adeiladu. Mae pwysigrwydd ein sector dur yn fwy pwysig, nid llai, ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Ers dod yn Weinidog yr Economi, rwyf i wedi ymgysylltu â'r sector sawl gwaith. Yn wir, un o'r digwyddiadau cyntaf i mi oedd bod yn bresennol yng Nghyngor Dur y DU ar 19 Mai. Mae'n amlwg iawn i mi fod y sector yn parhau i wynebu heriau uniongyrchol a thymor hwy. Fodd bynnag, mae gennym ni gyfle i weithio gyda'n gilydd tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. Mae'r holl bartïon yr wyf i wedi cwrdd â nhw yn gosod pwysigrwydd hollbwysig ar drosglwyddo i gynhyrchu dur carbon isel. Mae arweinyddion busnes ac undebau llafur yn cydnabod bod angen i ni leihau allyriadau carbon er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau ar y cyd o ran newid yn yr hinsawdd. Yng Nghymru rydym ni wedi ymrwymo i drosglwyddo i allyriadau sero net erbyn 2050. Roedd y diwydiant yn cyfrif am 36 y cant o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru yn 2018, ac o hyn, roedd y sectorau haearn a dur yn cynrychioli 43 y cant o gyfanswm allyriadau'r diwydiant yn y flwyddyn honno.
Mae'r newid i garbon isel yn gymhleth ac yn bellgyrhaeddol. Mae'n gofyn am gydweithio ar draws llywodraethau, diwydiant a'r gweithlu dros y degawd nesaf a thu hwnt. Yn y tymor byr, gellir gwneud rhai gwelliannau—er enghraifft gwella effeithlonrwydd ynni ac effeithlonrwydd adnoddau. Fodd bynnag, dim ond wrth wneud newidiadau mawr mewn prosesau cynhyrchu ac ystyried y potensial ar gyfer technolegau newydd fel dal a storio carbon, newid tanwydd i drydan ac i hydrogen yn y tymor hwy y gellir cyflawni'r gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau sydd eu hangen. Mae'r llwybr carbon isel priodol a chymysgedd o dechnolegau ar gyfer ein cwmnïau cynhyrchu dur yn cael eu hystyried gan gyflogwyr, undebau llafur a llywodraethau. Bydd angen buddsoddiad mawr ar ba bynnag lwybr a gymerir o fewn gweithfeydd cynhyrchu unigol ac mewn cynhyrchu a seilwaith ynni ehangach.
Un o'r heriau mwyaf i gyrraedd sero net ar draws yr economi yw'r newid sydd ei angen i gyflenwad trydan. Mae'r Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi dweud wrthym fod angen i ni gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr bron i sero o ran trydan erbyn 2035. Ar yr un pryd, mae amcanestyniadau amrywiol yn awgrymu y bydd trydaneiddio trafnidiaeth, adeiladau a diwydiant yn golygu y bydd y galw am drydan yng Nghymru yn fwy na dyblu erbyn 2050. Bydd y penderfyniadau y bydd y diwydiant dur yn eu gwneud ar ei lwybr datgarboneiddio yn cael effaith enfawr ar ein hanghenion trydan.
Bydd ein llwybr tuag at Gymru sero net yn anodd, ond bydd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer twf cynaliadwy a busnesau mwy cydnerth. Rydym yn byw mewn byd lle mae economïau eisoes yn blaenoriaethu datgarboneiddio. Trwy ddefnyddio dull mwy effeithlon o ddefnyddio adnoddau, gallwn gwtogi cadwyni cyflenwi a hybu cydnerthedd economaidd. Mae cynhyrchu'r cynhyrchion carbon is sydd eu hangen arnom yn golygu y gellir cadw mwy o werth economaidd yma yn economi Cymru. Er enghraifft, rydym ni wedi buddsoddi £1 biliwn mewn seilwaith ailgylchu sy'n casglu deunyddiau, gan gynnwys dur, o bob cartref yng Nghymru. Rydym ni hefyd yn cyflwyno gofynion ar fusnesau i wahanu eu hailgylchu, a bydd hynny hefyd yn cefnogi'r cyflenwad o ddur wedi'i ailgylchu i'w ailddefnyddio.
Serch hynny, mae hon yn her na all y sector dur ei bodloni ar ei ben ei hun. Mae diwydiant yn ei gyfanrwydd wedi dod at ei gilydd drwy Glwstwr Diwydiannol De Cymru ac mae wedi cael cyllid drwy her datgarboneiddio diwydiannol y DU. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r diwydiannau hynny ar eu dull cyfannol o drawsnewid diwydiant ar gyfer dyfodol sero net. Mae datblygiadau hefyd yn cyflymu'r potensial i ddefnyddio seilwaith hydrogen ledled Cymru, ac yn arbennig y gogledd, ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu trawsffiniol â HyNet yn Ellesmere Port, sy'n datblygu rhwydwaith integredig dal a storio hydrogen a charbon yng ngogledd-orllewin Lloegr a gogledd-ddwyrain Cymru.
Er mwyn darparu'r ynni carbon isel sydd ei angen arnom, rydym ni hefyd wedi ymrwymo i ystyried cyfleoedd i ddatblygu ynni adnewyddadwy morol ac i gefnogi arloesedd mewn heriau ynni adnewyddadwy newydd, gan gynnwys yr her o ran morlynnoedd llanw. Rydym ni'n gweithio'n agos ar draws y sector ynni adnewyddadwy ar y môr, yn enwedig ynni gwynt ar y môr a morol. Mae 4 GW o wynt alltraeth sefydlog eisoes yn cael eu cynllunio neu eu datblygu oddi ar arfordir gogledd Cymru, ac mae'r prosiectau hyn yn debygol o gael eu datblygu erbyn dechrau'r 2030au. Er bod hyn yn sylweddol, nid yw'n ddigon yn y tymor byr i ddatgloi'r buddsoddiad seilwaith gofynnol. Mae hyn yn gofyn am gefnogaeth Llywodraeth y DU i ddatblygu marchnad arfaethedig ochr yn ochr ag offer ariannol cysylltiedig a gorfodi rheol cynnwys y DU o 60 y cant i ategu'r gwaith o ddarparu nwyddau a gwasanaethau gwerth ychwanegol yn lleol.
Roeddwn i'n falch o glywed ymrwymiad cadarn gan adran Llywodraeth y DU, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yn y Cyngor Dur ar 19 Mai i gefnogi'r sector gyda'i heriau allweddol, gan gynnwys prisiau ynni a datgarboneiddio. Mae'n ffaith syml bod gan Lywodraeth y DU lawer o'r pwerau sy'n gysylltiedig â datgarboneiddio diwydiant, gan gynnwys y modelau busnes ar gyfer datblygu hydrogen, dal a storio carbon, cost trydan, ac ysgogwyr allweddol y farchnad fel dull addasu posibl ar y ffin garbon. Byddwn yn parhau i wneud y cyfan o fewn ein gallu i weithio gyda nhw, a'r undebau llafur, i sicrhau bod ein cwmnïau dur yng Nghymru yn parhau i fod mor gystadleuol â phosibl.
Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, busnesau ac undebau llafur i sicrhau bod ein diwydiant dur yn fodern, yn gystadleuol ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Mae'r gweithlu dawnus sydd gennym ni yma yng Nghymru yn sbarduno llwyddiant diwydiant dur y DU, a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i baratoi'r ffordd ar gyfer trosglwyddiad teg. Llywydd, gan fod llawer o gynnydd i'w wneud a chymaint yn y fantol, mae angen i ni weld Llywodraeth y DU yn cymryd camau cynnar. Mae cyfarfod nesaf Cyngor Dur y DU, yr adolygiad cynhwysfawr o wariant eleni, a COP26 yn darparu profion allweddol bellach i Lywodraeth y DU a'u hymrwymiad ymarferol i'r sector a'i ddyfodol.
Serch hynny, roeddwn i hefyd yn falch o benderfyniad Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf i wneud rheoliadau newydd i amddiffyn diwydiant dur y DU gan ymestyn mesurau diogelu dur dros dro. Roedd yn ymddangos i mi fod penderfyniad cychwynnol yr Adran Masnach Ryngwladol yn groes i'r cyfeiriad a'r gefnogaeth a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn BEIS. Rwy'n croesawu'r newid meddwl a gwrthdroi safbwynt yr Adran Masnach Ryngwladol i sicrhau bod mesurau diogelu yn parhau i fod ar waith, fel y mae'n ei wneud o fewn gwledydd yr Undeb Ewropeaidd. Dylai hynny helpu i osgoi gwaredu dur i'r DU.
Ers dod yn Weinidog economi Cymru, rwyf i wedi ei gwneud yn glir i Lywodraeth y DU fod ymestyn y mesurau diogelu dur presennol yn gwbl hanfodol er mwyn diogelu diwydiant dur y DU. Mae'r atebion i lawer o'r heriau y mae'r sector dur yn eu hwynebu yn gymhleth a bydd angen iddyn nhw fod yn drawsnewidiol. Byddaf i'n parhau i hyrwyddo'r sector ac edrychaf ymlaen at weithio ar y cyd â'r diwydiant, y gweithlu, a Llywodraeth y DU ar y technolegau trawsnewidiol, y seilwaith ac ysgogiadau'r farchnad a fydd yn sail i weithrediad y sector a'n holl fusnesau i gyflawni ein dyheadau sero net yn y tymor hwy.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Mae'r datganiad hwn, wrth gwrs, yn amserol, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf i gefnogi diwydiant dur y DU drwy ymestyn mesurau diogelu. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cadarnhau ei bod yn adolygu'r fframwaith camau adferol masnach fel mater o flaenoriaeth frys, a'i bod hefyd yn datblygu system fonitro a gwyliadwriaeth, a fydd yn galluogi'r DU i ymateb yn gyflym ac yn bendant i ymchwydd mewnforio, dympio a chystadleuaeth annheg. Rwy'n falch bod y Gweinidog wedi croesawu'r datblygiad hwn yn y datganiad heddiw, ac, wrth i ni symud ymlaen, mae'n hanfodol bod trafodaethau yn parhau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, o ystyried yr heriau cymhleth y mae'r sector yn eu hwynebu. Felly, Gweinidog, efallai y gallwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau diweddaraf sy'n digwydd gyda San Steffan a Llywodraeth y DU ynglŷn â mesurau diogelu dur a datgarboneiddio diwydiant yn ehangach.
Gweinidog, rydym ni i gyd yn awyddus i weld diwydiant dur Cymru yn ffynnu ar gyfer y dyfodol, ac felly mae'n bwysig bod y ddwy Lywodraeth yn cydweithio i gefnogi'r sector rhag arferion masnachu annheg, ymchwydd sydyn o fewnforion, ac i sicrhau y gall ein diwydiant gystadlu ar delerau teg. Rwy'n gwerthfawrogi'r swyddogaeth sydd gan Lywodraeth y DU o ran ategu'r sector hefyd o ran sicrhau buddsoddiad strategol uwch ac o ran prisio ynni, a dyna pam mae cydweithredu mor bwysig, er mwyn sicrhau bod y sector yn gynaliadwy ac yn gystadleuol ar gyfer y dyfodol.
Mae eich datganiad yn ailgadarnhau bod Llywodraeth Cymru, yng Nghymru, wedi ymrwymo i drosglwyddo i allyriadau sero net erbyn 2050, a gwyddom fod rhai ffyrdd posibl ymlaen o ran dal a storio carbon, toddi dur sgrap a defnyddio hydrogen yn hytrach na glo. Gweinidog, rydych chi'n iawn wrth ddweud mai un o'r heriau mwyaf i gyrraedd sero net ar draws yr economi yw'r newid sydd ei angen i gyflenwad trydan, ac felly, a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i ddechrau gwneud cynnydd yn hyn o beth?
Mae eich datganiad yn sôn am gyfleoedd i ddatblygu ynni adnewyddadwy morol a chefnogi arloesedd mewn technolegau ynni adnewyddadwy newydd, y mae angen eu datblygu ymhellach. Wrth gwrs, mae'r dewisiadau hyn yn galw am lawer iawn o fuddsoddi a chydweithredu rhwng llywodraethau, diwydiant ac, yn wir, y byd academaidd, ac mae'n rhaid cael digon o fuddsoddiad nid yn unig i'r sector yn uniongyrchol ond hefyd mewn meysydd fel ymchwil ac arloesi, er mwyn sicrhau bod pob cyfle yn cael ei archwilio. Felly, Gweinidog, efallai y gallwch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am lefelau'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, nid yn unig i'r sector yn uniongyrchol, ond hefyd o ran ymchwil ac arloesi, fel bod Cymru ar flaen y gad o ran unrhyw ddatblygiadau byd-eang a thechnolegol.
Mae datganiad heddiw yn sôn am gadernid economaidd Cymru, ac mae pandemig COVID wedi dangos i ni bwysigrwydd datblygu ein sector gweithgynhyrchu domestig a chreu cadwyni cyflenwi cryf. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei ysgogiadau i fanteisio i'r eithaf ar unrhyw gyfleoedd caffael. A gyda'r newyddion bod Nissan yn ehangu ei waith cynhyrchu cerbydau trydan yn ei ffatri geir yn Sunderland, mae'n hanfodol bod trafodaethau'n cael eu cynnal i sicrhau bod cynhyrchiant dur Cymru yn elwa ar y cyhoeddiad hwnnw. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am strategaeth gaffael Llywodraeth Cymru a'r camau sy'n cael eu cymryd i fanteisio i'r eithaf ar unrhyw gyfleoedd caffael, yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r DU?
Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni sicrhau bod gwneuthurwyr dur yn cael pob cyfle i fod yn rhan o gadwyni cyflenwi ar gyfer prosiectau a ariennir yn gyhoeddus sydd â gofyniad dur, ac eto mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau yn ddiweddar ei bod yn bwriadu symud gwariant tuag at gynnal a chadw ein ffyrdd presennol yn well, yn hytrach nag adeiladu rhai newydd. Byddai'r cyhoeddiad hwnnw yn sicr yn cael effaith ar y sector, a fyddai wedi chwarae rhan sylweddol mewn cefnogi'r datblygiadau seilwaith mawr newydd hynny. Ac felly efallai, Gweinidog, y gallwch chi ddweud wrthym ni pa asesiad a wnaed o effaith rhewi prosiectau ffyrdd newydd ar y sector dur, ac yng ngoleuni hynny, pa gyfleoedd eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu harchwilio i wneud y defnydd gorau posibl o ddur Cymru?
Nawr, mae hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn datblygu'r gweithlu ac nad yw'n anwybyddu'r cyfleoedd yn y sector dur o ran prentisiaethau a sgiliau. Mae Tata Steel, er enghraifft, wedi chwarae rhan enfawr yn y maes penodol hwn, gan gynnig prentisiaethau i'w weithwyr am y tro cyntaf yn ôl yn y 1950au. Felly, byddwn i'n ddiolchgar o gael gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau o fewn y sector dur, a pha raglenni a datblygiadau eraill sy'n cael eu hystyried.
Llywydd, rydym ni i gyd yn cydnabod bod amodau economaidd byd-eang yn parhau i fod yn heriol i'r sector dur, a dyna pam y mae hi mor bwysig bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i'w gefnogi i fod yn ddiwydiant cynaliadwy a modern. Er mwyn sicrhau bod ein diwydiant dur yn llwyddiant, mae cydweithredu yn hanfodol—cydweithredu rhwng Llywodraethau, y sector ei hun, y gymuned fusnes ehangach a gyda phartneriaid ymchwil. Diolch.
Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Rwy'n falch bod yr Aelod yn croesawu ac yn cydnabod y newid y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i'w hymagwedd o ran mesurau diogelu dur. Rwy'n credu bod hwnnw yn gam cymesur a gymerwyd, ac rwyf i yn croesawu'r camau sydd wedi eu cymryd, fel y gwyddoch chi, rydym ninnau wedi galw amdanyn nhw hefyd.
O ran y gwaith rhwng y Llywodraethau yn y dyfodol, mae ein prif ymgysylltiad gydag adran Kwasi Kwarteng yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Yn anffodus, nid oedd Kwasi Kwarteng yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod yr oeddwn i fod i'w gael gyda fe ddoe, felly rydym yn aildrefnu hynny i ddigwydd yn y dyddiau nesaf. Mae hynny'n ymgysylltiad pwysig, ac mae'r ohebiaeth gychwynnol rhwng ein swyddogion yn wirioneddol adeiladol. Mae llawer o feysydd yr ydym yn anghytuno â Llywodraeth y DU yn eu cylch, ond rydym yn cydnabod bod hwn yn faes lle y byddem ni i gyd yn elwa ar ddull adeiladol, oherwydd ein bod yn cydnabod bod gan bob un ohonom rywbeth i'w ychwanegu ac i'w ennill, ac mae'n newid mewn gonestrwydd sydd i'w groesawu o'i gymharu â barn Llywodraeth y DU ychydig flynyddoedd yn ôl ar y sector dur. Erbyn hyn, rwy'n credu bod barn fwy cadarnhaol ar gyfer dyfodol y sector, ac mae'n bwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle y mae hynny'n ei gynnig.
Bydd hynny hefyd yn arwain ymlaen at y gwaith sy'n cael ei wneud gan fusnesau ac undebau llafur—felly, grŵp cyflogwyr y Cyngor Dur. Felly mae UK Steel, y grŵp o gyflogwyr, wedi cyflwyno cynigion i'w hystyried o ran symud tuag at ddatgarboneiddio'r sector, ac maen nhw bellach yn gweithio trwy hynny gydag undebau llafur. Felly, efallai y cawn ni gynnig mwy unedig gan y sector ei hun, o'r ddwy ochr, i ddeall sut y gellid cyflawni'r trawsnewid hwnnw, a sut i fuddsoddi mewn ffordd nad yw'n aberthu llawer o swyddi. Felly, rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod y Cyngor Dur a fydd yn cael ei gynnal yn ystod yr haf, lle gallwn gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion yno a'r gwaith y mae ein swyddogion yn ei wneud i geisio cefnogi hynny, ac rydych yn sôn am nifer o feysydd y byddaf i'n dod iddyn nhw pan all hynny fod o gymorth. Rwyf i, yn ogystal â chyfarfod â UK Steel yn gyffredinol yn y Cyngor Dur, eisoes wedi cwrdd â chynhyrchwyr Cymru hefyd, yn ogystal â'r undebau llafur.
Fe wnaethoch chi sôn am y pwynt pwysig am y cyflenwad trydan yr ymdriniais ag ef yn fy natganiad. Os gallwn ni sicrhau'r cyflenwad mwyaf posibl a'i wella, mae gennym ni gyfleoedd gwirioneddol arwyddocaol yng Nghymru gydag ynni adnewyddadwy, ond hefyd sgwrs heb ei gorffen am y rhan y gallai'r diwydiant niwclear ei chwarae yn y ffordd y gallwn ni gynhyrchu trydan ei hun. Yna mae gennym ni ddewisiadau buddsoddi sylweddol i'w gwneud, neu yn hytrach ar y cyd â phobl sy'n gyfrifol am fuddsoddi yn y grid, i sicrhau y gallwn ni ddarparu'r capasiti cynyddol hwnnw i'r lle y mae ei angen, i'r sector dur a sectorau eraill hefyd. Ac mae hynny wedi bod yn nodwedd o'r sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael gydag amrywiaeth o bobl, pa un a ydyn nhw'n ymwneud â'r diwydiant ynni adnewyddadwy, neu yn wir mewn cyflenwi batris hefyd. Felly, rydym ni eisoes yn gweithio gydag Ofgem a pherchnogion rhwydweithiau i gael dealltwriaeth gyffredin o sut bydd y grid yn edrych erbyn 2050, ac i sicrhau y gellir cysoni penderfyniadau cynllunio a gwario er mwyn sicrhau bod capasiti yno ac yn cael ei wireddu.
Ac wrth sôn am ymchwil dur, rydym ni eisoes yn cefnogi amrywiaeth o fentrau ymchwil yma yng Nghymru: yr ymchwil yr ydym ni wedi ei wneud i Brifysgol Abertawe, ond sydd hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o bobl eraill, felly mae'r Sefydliad Dur a Metelau yn Abertawe yn cael ei gydnabod ar draws y sector am y gwerth y mae'n ei ychwanegu, ond hefyd y gwaith y mae Abertawe'n ei wneud mewn cydweithrediad â phrifysgolion Sheffield a Warwick, ac mae hynny ar sail cyllid y DU—cymorth gan y cyngor ymchwil. Felly, mae gwaith eisoes yn edrych ar sut yr ydym yn gwneud hynny, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod hynny'n cael ei gefnogi gan ein prif weithgynhyrchwyr yma yng Nghymru, yn Tata, Celsa a mannau eraill.
Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â chaffael, gan ei fod yn un o'r materion a godir yn rheolaidd gan gynhyrchwyr dur. Rhan o'u pryder, er enghraifft, oedd mai dim ond tua 25 y cant o'r dur sy'n cael ei ddefnyddio mewn rheilffyrdd cyflymder uchel dwy linell oedd yn tarddu o'r DU ac wedi'i gynhyrchu yn y DU. Mae her o ran yr hyn y mae ein rheolau'n ei ddweud ynghylch pa un a yw'n tarddu o ffynonellau'r DU, lle gall ddod i mewn o ran arall o'r byd ond ei fod yn wedi ei ffynnonellu gan brynwr yn y DU, neu wedi ei gynhyrchu yn y DU, sydd, wrth gwrs, yn wahanol. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym yn gweithio trwyddo wrth weithredu'r siarter dur, felly mae gwaith yn cael ei wneud ac mae cynnydd yn cael ei wneud. Mae mwy i ni ei wneud, ond yma yng Nghymru mae gennym ni gynllun 10 pwynt eisoes ar gyfer gwella caffael cyhoeddus, ac mae hwnnw'n sicr yn ystyried o ble y daw'r dur mewn prosiectau datblygu newydd, ac rwy'n falch o ddweud bod Trafnidiaeth Cymru, er enghraifft, wedi ymrwymo'n llawn. Felly, wrth iddyn nhw ehangu eu gweithrediadau a'r cyfleoedd i ehangu cledrau, fel y maen nhw'n ei ystyried yn rhan o'u strategaeth gaffael, rwy'n credu mai her allweddol i ddatblygu'r weledigaeth fydd sut y byddan nhw'n chwilio am ddur a gynhyrchir ym Mhrydain yn rhan o hyn, oherwydd gall caffael fod yn ysgogydd mawr iawn i sector gwirioneddol gynaliadwy ac un sy'n ystyried sut y cynhyrchir dur yn y lle cyntaf, sut y mae'n cyrraedd y pwynt mynediad yn y DU, neu, mewn gwirionedd, os caiff ei gynhyrchu yn y DU, sut y caiff ei gynhyrchu hefyd. Fel arall, gallem ni yn y pen draw alw pethau yn ddur gwyrdd heb ystyried y carbon ychwanegol o ran ei fewnforio o bosibl o rannau eraill o'r byd.
Mae dealltwriaeth dda o'ch pwynt ynglŷn â phrentisiaethau. Mae her onest yn y fan yma, a byddaf i'n ceisio mynegi hyn mor dyner, ond mor onest, â phosibl. Mae'r ffordd yr ydym ni'n darparu prentisiaethau yng Nghymru yn dibynnu ar yr hyn a oedd yn gronfeydd strwythurol Ewropeaidd, ac mae cyfran sylweddol o'r cyllid ar gyfer hynny wedi dod trwy'r llwybr hwnnw. Felly, mae'r dewisiadau a wneir ynglŷn â sut y defnyddir y cronfeydd olynol hynny yn berthnasol iawn i gefnogi sgiliau ar draws yr economi gyfan, gan gynnwys darparu prentisiaethau, ac os bydd gennym ni ddull gweithredu yn y pen draw nad yw'n caniatáu prosiectau strategol rhanbarthol neu genedlaethol sylweddol, yna mae hynny'n risg wirioneddol gan gynnwys yn y maes hwn. Fodd bynnag, dylwn i ddweud bod y sicrwydd ynglŷn â'r llwybr i'r diwydiant dur yn rhan o gyflawni'r sicrwydd hwnnw, er mwyn sicrhau y gellir buddsoddi mewn prentisiaethau. Serch hynny, byddwn i'n dweud bod gan y cyflogwyr yma yng Nghymru, yn fy marn i, hanes da, ac yn y sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael â nhw, maen nhw yn sicr wedi ymrwymo i sicrhau eu bod yn parhau i ailfuddsoddi yn eu gweithlu, i chwilio am weithwyr newydd i ddod i mewn i'r diwydiant, a hefyd i ddeall o ble maen nhw'n dod, i sicrhau ei fod yn ddiwydiant dur mwy amrywiol o ran ei gyfansoddiad a'i weithlu.
Wrth gwrs, diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a'r copi o'i ddatganiad ymlaen llaw. Mae rhywfaint o newyddion da yn y diwydiant dur ar hyn o bryd. Rwy'n clywed bod y farchnad ar ei lefel uchaf ers 15 mlynedd, felly nawr yw'r amser perffaith i edrych ar ddatblygu'r sector ar gyfer y dyfodol, a dyna pam rwy'n credu bod y datganiad hwn i'w groesawu'n fawr.
Ychydig o gwestiynau a phwyntiau. Yn gyntaf, a fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi strategaeth hirdymor ar gyfer datblygu gwaith ymchwil a datblygu ar gyfer y sector dur yng Nghymru? Rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol bod Tata Steel yn ystyried gwahanu ochrau'r DU a'r Iseldiroedd y busnes ar hyn o bryd. Yn wir, rwy'n credu bod hynny'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, felly, hyd y gwn i, yn rhan o unrhyw strategaeth bosibl, byddai'n bwysig gweld sut y byddai hyn yn effeithio ar ddiwydiant y DU pe bai'n mynd rhagddo. O gofio ein bod ni wedi datgan argyfwng hinsawdd, bydd ymchwil a datblygu yn arbennig yn hanfodol i'r sector, yn enwedig o ystyried, fel y mae pethau ar hyn o bryd, nad yw'r llwybr at ddatgarboneiddio ar gyfer y maes dur mor eglur â sectorau eraill, er bod ynni adnewyddadwy, wrth gwrs, yn dibynnu'n fawr ar ddur yn y lle cyntaf. I'r perwyl hwnnw, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch pa gyllid fyddai ar gael, boed hynny drwy gyd-fuddsoddi neu drwy Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU yn unig?
Mae ystyriaeth bwysig arall, wrth gwrs, yn ymwneud ag ynni a phrisio, fel y nododd y Gweinidog. Byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud prisiau yn fwy cystadleuol i'r diwydiant dur, yn debyg i'r hyn a wnaed eisoes yn yr Almaen. Mae i'w groesawu, wrth gwrs, clywed bod y Gweinidog wedi codi ynni adnewyddadwy morol, ac rwy'n edrych ymlaen at weld uchelgais y Llywodraeth yma a'r gobaith yw y bydd hynny yn arwain at forlyn llanw bae Abertawe yn y tymor hir. Byddai gen i ddiddordeb hefyd mewn gwybod pa ran y mae'r Gweinidog yn meddwl fydd gan brosiectau ynni a arweinir gan y gymuned, nid yn unig o ran creu prisiau mwy cystadleuol, ond hefyd o ran cynyddu capasiti ar y grid lleol ar gyfer y sector yng Nghymru.
Yn ychwanegol at hyn, pa gymorth fydd Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi o ran dur wedi'i ailgylchu? Cyfeiriodd y Gweinidog ato yn ei ddatganiad, ond mae'n ymddangos bod problem ar hyn o bryd o ran ansawdd y sgrap sy'n cael ei dderbyn, yn benodol materion yn ymwneud â halogi o fudreddi, plastigau a metelau eraill. Rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol hefyd, wrth gwrs—ac rwy'n eithaf sicr ei fod wedi cyfeirio ato, eto, yn ei ddatganiad—o brosiect SUSTAIN, trwy Brifysgol Abertawe, sydd wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol iawn yn ymwneud â gwahanu metelau mewn sgrap. Mae gan y prosiect, wrth gwrs, ran bwysig i'w chwarae o ran dur wedi'i ailgylchu, felly byddai gen i ddiddordeb mewn clywed a yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw sgyrsiau eraill gyda'r sector a'r tîm y tu ôl i SUSTAIN i weld sut y gellir bwrw ymlaen â'u gwaith.
Ac yn olaf, rwyf i wedi sôn amdano sawl gwaith yn y Siambr o'r blaen, ond pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd ar drywydd sefydlu trefn debyg i Lywodraeth yr Alban trwy sefydlu comisiwn pontio cyfiawn? Fel y soniais ar ddechrau fy nghyfraniad, nid oes gan ddiwydiannau fel dur lwybr eglur at ddatgarboneiddio, ac felly mae gweithwyr yn y diwydiannau hynny mewn mwy o berygl o ansicrwydd swyddi, yn y dyfodol, wrth i ni geisio datgarboneiddio. Rwy'n siŵr y byddai strategaeth i ddiogelu gweithwyr yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr. Diolch yn fawr.
Diolch am y cwestiynau. Fe wnaf i ymdrin ag ymchwil a datblygu nid yn unig yn y sector dur ond yn fwy cyffredinol, a dyma un o'r heriau yn gyffredinol ar gyfer ein dyfodol economaidd, oherwydd pan ddaw'n fater o ddosbarthu cyllid arloesi ac ymchwil a datblygu, nid yw Cymru mewn gwirionedd, yn fy marn i, yn sicrhau cyfran deg o gronfeydd y DU gyfan ar hyn o bryd. A dweud y gwir, mae'r Alban yn gwneud yn well na'i chyfran ar hyn o bryd, o ran poblogaeth. Dyna un o fy mlaenoriaethau, i newid y ffordd y mae hynny yn gweithio. Ac eto, os yw'r agenda codi'r gwastad i gael ei gwireddu, mae hwn yn faes lle gallai Llywodraeth y DU wneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Nid yw fel pe baem ni'n gofyn i Lywodraeth y DU fuddsoddi mewn rhan o'r DU lle nad yw'r gallu i wneud defnydd da o'r cyllid arloesi ac ymchwil a datblygu hwnnw yn bodoli.
Ond mae Abertawe yn enghraifft dda o ble mae hynny eisoes yn gweithio. Fel y soniais yn fy natganiad, y gwaith y maen nhw'n ei wneud, ochr yn ochr â Warwick ac eraill, yw'r prosiect SUSTAIN. Dyna'r hyn yr oeddwn i'n cyfeirio ato. Ac felly mae yn dangos bod mwy y gellir ei wneud gyda'r arbenigedd gwirioneddol sy'n bodoli o amgylch y diwydiant yma yng Nghymru. Felly, rwyf i eisiau gweld mwy o wariant ymchwil a datblygu yn digwydd yng Nghymru, a cheir mentrau cydweithredol lle mae hynny eisoes yn gweithio ac y gellid buddsoddi ynddyn nhw ymhellach. A bydd hynny yn bwysig iawn nid yn unig i'r pwyntiau yr ydych chi'n eu gwneud ynglŷn ag ailgylchu.
Mae'n un o'r pethau yr wyf i'n sicr wedi eu trafod gyda'r sector yn barod. Fe'i codwyd ganddyn nhw yn y cyfarfodydd unigol yr wyf i wedi eu cael gydag amrywiaeth o weithredwyr yn ogystal â chyda'n gilydd o amgylch y Cyngor Dur, ac mae gennym ni her—her wirioneddol—ledled y DU ein bod ni'n dal i allforio sgrap ar hyn o bryd. Rydym ni'n allforiwr net. Ac mae hynny ynddo'i hun, os ydym ni'n bwriadu gwneud mwy o ddefnydd o ffwrneisi trydan—mae'n rhaid i ni feddwl o ble y mae'r sgrap yn dod, i'w ystyried yn ddeunydd crai, ei ansawdd. Nawr, ar hyn o bryd, nid wyf i'n credu y gallech chi ddweud wrth fusnes allforio, 'O haelioni calon, dylech chi roi'r gorau i weithredu.' Mae'n rhaid meddwl rhywfaint am sut i gymell y llwybr sy'n arwain at allforio ar hyn o bryd, gan arwain at gadw'r nwyddau hynny yma i'w defnyddio yn y DU yn ogystal â gwneud yn siŵr wedyn bod gennym ni ddeunyddiau o ansawdd uchel i'w defnyddio o fewn y sector ei hun hefyd.
Mae hynny yn rhan o'r hyn yr ydym ni'n bwriadu mynd i'r afael ag ef, ac mae hyn mewn gwirionedd yn ymwneud â'r arbenigedd sy'n bodoli o fewn y sector, am sut y gallwn ni wneud hynny. Ac mae'n dod yn ôl at y pwynt yr wyf i eisiau ei wneud ynglŷn â'ch pwynt ynghylch a oes cynllun, a ydym ni'n dymuno llunio strategaeth. Mewn gwirionedd, o ran datgarboneiddio a phontio cyfiawn, mae'r ddau yn mynd law yn llaw, oherwydd gallech chi ddatgarboneiddio'r broses cynhyrchu dur mewn ffordd a fyddai'n costio llawer o swyddi yn gyflym iawn, nid yn unig yn uniongyrchol o fewn y sector, ond swyddi sy'n dibynnu arno. Ac mae hon yn broblem benodol i etholaeth David Rees, ym Mhort Talbot. A'r her mewn gwirionedd yno yw y gallwch chi gael proses bontio gyfiawn sy'n rhoi'r amser i feddwl am sut y mae'r dechnoleg yn cael ei datblygu, ac mae hynny wedyn yn golygu y gallwch chi gadw llawer o swyddi o ansawdd uchel ond hefyd y gwerth ehangach y mae cynhyrchu dur o'r cychwyn yn ei roi i chi mewn gwirionedd. Nawr, mae hynny yn golygu bod angen i ni feddwl sut y bydd proses pontio cyfiawn yn edrych, i weithwyr ac i'r wlad ehangach hefyd. Bydd angen i ni ddeall beth yw'r cynllun eang ar gyfer y diwydiant fel bod cynllun i fuddsoddi ynddo ac o'i amgylch, a bydd hynny yn arwain at drafodaethau ymarferol rhyngom ni a'r DU ynglŷn â'r gwahanol ysgogiadau a chyllidebau sydd gennym ni i wneud yn union hynny.
O ran eich pwynt ynglŷn ag ynni cymunedol, rwy'n siŵr y bydd gan Julie James lawer i'w ddweud am y rhan y gall ynni cymunedol ei chwarae a'r enillion y gellir eu creu i'r cymunedau unigol hynny, yn ogystal â darparu symiau ychwanegol sylweddol i'r grid. Ac fe wnaf i, rwy'n credu, roi sylw i'ch pwynt olaf o bopeth yr ydych chi wedi ei drafod, ac mae hwnnw yn ymwneud â phrisiau ynni. Mae hwn wedi bod yn destun pryder rheolaidd, a bydd Aelodau sydd wedi bod yma ers cryn amser wedi clywed Prif Weinidogion blaenorol yn siarad yn faith am yr her sy'n wynebu'r sector dur yn y DU pan fo gan gynhyrchwyr dur y DU brisiau llawer uwch i'w talu am ynni, o'u cymharu â'r prif gystadleuwyr yn yr Almaen a Ffrainc, lle mae 86 y cant yn fwy nag yn yr Almaen ar gyfartaledd a 62 y cant yn fwy nag yn Ffrainc. Felly, mae'r prisiau presennol hynny yn rhwystr gwirioneddol i fuddsoddiad, a dim ond Llywodraeth y DU a all ddatgloi hynny ac mae honno yn her uniongyrchol sydd wedi cael ei chyflwyno i Lywodraeth y DU, nid yn unig gan y Llywodraeth hon ond gan bobl ar bob ochr i'r sector, ac mae'n fater y bydd yn rhaid i ni ddychwelyd ato dro ar ôl tro ym mhob cyfarfod y Cyngor Dur, oherwydd gallai hynny anghymell buddsoddiad yn y sector a'r ymrwymiad sylweddol sydd ei angen i symud i ddyfodol gwirioneddol ddi-garbon i'r diwydiant dur.
Diolch yn fawr, Llywydd, ac mae'n anrhydedd i mi fod yn is-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddur. Mae'n sector eithriadol o bwysig i Gymru a ledled y Deyrnas Unedig ac rwy'n diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod gennym ni draddodiad balch o gynhyrchu dur yn fy etholaeth i, sef Alun a Glannau Dyfrdwy, ac rydym ni'n dathlu 125 mlynedd o gynhyrchu dur yn Shotton Steel eleni. Mae cynhyrchu dur lleol yn Alun a Glannau Dyfrdwy yn anghenraid os ydym ni am fynd i'r afael â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd a chynhyrchu'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion gwyrdd. I mi, mae dwy ffordd y gallwn ni helpu i gyflawni hyn: un yw bod y safle carbon-niwtral cyntaf yn y Deyrnas Unedig, a'r ail yw lleoli canolfan logisteg ar safle Shotton i adeiladu'r genhedlaeth nesaf o gartrefi modiwlaidd carbon isel.
Gyda'r ddau bwynt hynny mewn golwg, Gweinidog, a wnewch chi ddod gyda mi ar ymweliad â Shotton Steel i weld y safle, i gyfarfod â'r gweithlu ymroddedig a hynod fedrus a'u cynrychiolwyr undebau llafur, i drafod sut yn union y gall Llywodraeth Cymru gefnogi ymhellach cynlluniau cynaliadwy Shotton Steel ar gyfer y dyfodol?
Rwy'n credu bod dau gwestiwn yn y fan yna, Llywydd, yn ogystal â'r gwahoddiad. Y cwestiwn ynghylch y gwahoddiad: mewn egwyddor, gwnaf, a byddaf yn hapus i weithio gyda chi i geisio dod o hyd i gyfle priodol i ddod i Shotton. Rwy'n credu bod y cwestiwn arall yn ymwneud â sut yr ydym ni'n edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i fuddsoddi o amgylch hynny, yr hyn y mae cwmnïau yn fodlon ei wneud eu hunain, a pha sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei roi, a byddwch chi wedi clywed Julie James yn siarad am ddulliau adeiladu modern ar sawl achlysur yn y gorffennol, cyn yr etholiad blaenorol ac ers yr etholiad hefyd. Rwy'n credu bod cyfleoedd gwirioneddol yn y ffordd yr ydym ni'n ystyried gwahanol rannau o weithgareddau'r Llywodraeth a sut y gallan nhw fod o fudd i'r diwydiannau yma yng Nghymru, felly byddaf yn hapus i roi sylw i elfennau ffurfiol digwyddiadau dyddiadur a gweithio gyda chi i ymweld â Shotton a'r ymgysylltu ehangach yr edrychaf ymlaen at barhau ag ef yn y gogledd.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, ac a gaf i hefyd groesawu'r naws adeiladol yr wyf i o'r farn eich bod chi wedi ei roi yn eich datganiad a'ch atebion hyd yn hyn? Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod sector dur bywiog yng Nghymru yn y dyfodol yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio pan fo hynny'n bosibl, felly hoffwn groesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud yr hyn a all ei wneud i sicrhau sector dur mwy gwyrdd. Ac i'r sector dur yng Nghymru, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, bydd hynny yn golygu gwneud pethau yn wahanol a chroesawu gwahanol arferion. Felly, mae gen i ddiddordeb mawr yn eich ateb i gwestiwn Luke Fletcher, pan wnaethoch chi sôn am drosglwyddo i'r math mwy gwyrdd hwnnw o gynhyrchu dur a sut y byddai hynny yn edrych mewn gwirionedd. Felly, fel y gwnaethoch chi ei ddweud i ryw raddau, rwy'n siŵr mai'r peth olaf y byddech chi ei eisiau yw i unrhyw newidiadau fygwth swyddi mewn lleoedd fel Port Talbot yn fy rhanbarth i neu danseilio gallu'r diwydiant dur i gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol. Felly, a gaf i ofyn: sut ydych chi'n rhagweld y bydd y newid hwnnw yn digwydd a pha gamau wnewch chi eu cymryd i sicrhau bod amddiffyn y gweithlu a'r swyddi mewn lleoedd fel Port Talbot, yn ogystal â datgarboneiddio a swyddi gwyrdd, yn ganolog i unrhyw newidiadau sy'n digwydd yn y sector?
Wel, dyma'r union faterion yr wyf i wedi cael sgyrsiau rheolaidd yn eu cylch, nid yn unig â David Rees yn nhymhorau blaenorol y Senedd, ond ar ddechrau'r un yma ac yn wir yn fy sgyrsiau â Community, sef y prif undeb dur ar y Cyngor Dur. Mae amrywiaeth o swyddi o ansawdd uchel yn y fantol yn y diwydiant a dyna pam mae angen i chi feddwl yn wirioneddol o ddifrif am yr hyn sy'n digwydd yn y dyfodol ar gyfer dal a storio carbon neu dechnoleg hydrogen hefyd. Ac yma, mae gan Lywodraeth y DU gyfle gwirioneddol i fuddsoddi i wneud yn siŵr bod dyfodol gwirioneddol i'r swyddi hynny, a dyna'r her wirioneddol.
Felly, ychydig flynyddoedd yn ôl, nid oedd yn edrych fel y byddai'r gweithredu angenrheidiol gan Lywodraeth y DU er mwyn i hyn ddigwydd; mae'n ymddangos erbyn hyn y bu newid i flaenoriaeth a pholisi, sydd i'w groesawu. Ond mae'n rhaid cyflawni'r broses. Felly, mae angen i'r sgyrsiau sy'n cael eu cynnal nawr arwain at fuddsoddiad uniongyrchol. Ac mae'r gwaith ar y dechnoleg hydrogen bosibl yng ngogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr i'w groesawu yn fawr, ond mewn gwirionedd, o ystyried ble mae'r ffwrnais chwyth yng Nghymru, pan fyddwch chi'n gweld beth mae hynny yn ei olygu i sut y gellir defnyddio technoleg yn rhan ddeheuol Cymru ac i gael dealltwriaeth o ba mor agos yw'r dechnoleg honno at gael ei darparu, boed yn hydrogen neu'n ddal carbon, i wneud yn siŵr eich bod chi'n datgarboneiddio'r ffordd y mae dur yn cael ei gynhyrchu wedyn.
Felly, dyna'r sgwrs rydym ni'n ei chael, ac yn gyffredinol, does dim byd cyfrinachol am hynny. Fodd bynnag, yr her yw sut gallwn ni gyrraedd yno, ac yna'r dewisiadau y mae Llywodraeth y DU yn barod i'w gwneud i wneud yn siŵr bod buddsoddiad yn digwydd, gan fod hwn yn faes lle dim ond nhw all ddewis buddsoddi ar y raddfa sydd ei hangen i wneud yn siŵr ei fod yn digwydd. Ac o wneud hynny, rwy'n credu y byddan nhw'n darganfod diwydiant dur sy'n barod ac yn fodlon ymateb, ac mewn ffordd sy'n bodloni'r ffordd y mae'r undebau llafur yn ddealladwy yn awyddus i wneud yn siŵr nad yw swyddi o ansawdd uchel yn cael eu colli wrth drosglwyddo. A dyna lle yr hoffwn i fod, a dyna safbwynt Llywodraeth Cymru yn sicr, ac mae pobl ar bob ochr i'r ddadl yn ei ddeall yn iawn.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma ac am yr atebion y mae wedi eu rhoi? Oherwydd mae wedi ei gwneud yn gwbl eglur ei fod yn deall yn iawn yr heriau y mae'r diwydiant dur yn eu hwynebu heddiw, wrth symud tuag at ddatgarboneiddio, a'ch cydnabyddiaeth y bydd yn costio swyddi os na fyddwn ni'n ofalus, os na fyddwn ni'n ei wneud yn gywir ac yn briodol, a'r amser a gymerir i roi'r technolegau newydd ar waith a sut rydym ni'n prosesu hynny.
Felly, a gaf i ofyn un neu ddau o gwestiynau i chi yn gyflym? Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda chwmnïau dur Cymru ynglŷn â'u strategaethau ar gyfer y dyfodol, a sut mae cynllun Llywodraeth Cymru yn cydblethu â'u strategaethau i sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd? A pha drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r cyllid, gan ein bod ni'n sôn am y buddsoddiad, ac ni fydd y cyllid hwn yn fach? Bydd angen cyllid mawr i gyflawni'r gwahanol lwybrau ar gyfer datgarboneiddio i sicrhau bod y busnesau hyn yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol—rydych chi wedi sôn am drydan—oherwydd, cofiwch, bydd ffwrneisi arc yn defnyddio llawer o drydan, ac mae angen i ni ystyried sut y byddwn ni'n llwyddo i gyflawni hynny mewn gwirionedd, gan gadw'n wyrdd ar yr un pryd.
Rwy'n credu bod yr heriau hynny yn hollol deg, ac roeddwn i'n edrych ar y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol wrth sôn am y gofynion ynni gan y cwmnïau hyn—oherwydd, wrth gwrs, fel y bydd Aelodau Caerdydd yn gwybod, mae llawer iawn o'r galw sy'n mynd i drydan yma yng Nghaerdydd yn dod o Celsa—a'r hyn y mae hynny yn ei olygu yn ymarferol i allu'r grid i barhau i wneud hynny. Felly, ceir heriau ymarferol gwirioneddol iawn i'r diwydiant, ond, mewn gwirionedd, i bob gweithgaredd arall hefyd. A dyna pam roeddwn i'n cyfeirio yn gynharach at yr angen i fod â chynllun gydag Ofgem ac eraill i ddeall sut y bydd angen i'r grid edrych yn 2050. Ac rydych chi'n iawn, mae'r rhain yn symiau sylweddol o fuddsoddiad y mae angen eu gwneud, ond ceir cyfle gwirioneddol wrth wneud hynny hefyd—nid y cyfle i wneud yn siŵr bod y diwydiant dur yn fwy cynaliadwy yn unig, ond yr hyn y mae hynny yn ei olygu o ran galluogi datblygu economaidd arall i ddigwydd hefyd, a'r cyfleoedd gwirioneddol sydd gennym ni yng Nghymru o ran sut rydym ni'n cynhyrchu trydan gyda'n holl adnoddau naturiol hefyd. Mae hynny wedi bod yn rhan o'r sgwrs yr wyf i wedi ei chael eisoes gyda Llywodraeth y DU, ac mae fy swyddogion wedi ei chael. Mae'n rhan o'r sgwrs yr wyf i eisiau ei chael gydag Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol pan fyddaf i'n cael cyfarfod ag ef yn uniongyrchol, a'r sgyrsiau rheolaidd yr ydym ni wedi eu cael eisoes gyda Gweinidogion BEIS.
Nawr, yr her wedyn yw a ydym ni'n gweld, yn y cyfnod cyn a thu hwnt i COP26, dewisiadau yn cael eu gwneud i ganiatáu i'r buddsoddiad hwnnw ddigwydd er mwyn caniatáu i sector dur mwy di-garbon ddod i'r amlwg. Mae hefyd yn real iawn i'r heriau sy'n gysylltiedig â'r adolygiad cynhwysfawr o wariant ddiwedd eleni, oherwydd os nad ydym ni'n barod i weld buddsoddiad ledled y DU yn hyn trwy gyfnod hwnnw yr adolygiad nesaf o wariant, bydd yr amserlen i allu gwneud hynny yn llwyddiannus yn fwy tynn byth, ac yna bydd mwy o risg i'r swyddi yr oedd Tom Giffard yn sôn amdanyn nhw. Ac, mewn gwirionedd, gallem ni weld rhai o'r swyddi hynny yn diflannu os na fydd dewisiadau buddsoddi yn cael eu gwneud, oherwydd bydd angen sicrwydd i'r diwydiant fuddsoddi ei hun, er mwyn deall yr hyn y mae'r Llywodraethau yn ei wneud hefyd. Ac mae hynny wedi bod yn rhan fawr o'r sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael gyda chwmnïau cynhyrchu dur Cymru yn barod. Yn y sgyrsiau uniongyrchol hynny, mae cwmnïau dur Cymru yn ei gwneud yn eglur eu bod nhw'n mwynhau, ac yn dymuno parhau i fwynhau, perthynas adeiladol gyda'u hundebau llafur ar y safle, oherwydd mae'r aelodau a'u hundebau yn deall yr angen i'r sector newid, ond i newid mewn ffordd nad yw'n aberthu eu swyddi yn y cyfnod pontio, i weld mwy o fuddsoddiad yn y dyfodol—y pwynt a wnaed am brentisiaethau, y posibilrwydd o greu swyddi yn y dyfodol a'r ffordd y gall y sector dur edrych i'r dyfodol gyda rhywfaint o hyder a dyfodol gwirioneddol gynaliadwy, a'i arwyddocâd economaidd ehangach.
Felly, rwy'n gadarnhaol bod gan y cwmnïau dur eu hunain strategaeth ar gyfer y dyfodol a fydd yn cynnwys eu gweithlu eu hunain, ac yna mae'n fater o'r Llywodraeth yn gallu cyd-fynd â hynny er mwyn gwneud y buddsoddiadau sylweddol sydd eu hangen. Ac, ar hyn o bryd, rwy'n credu y gallwn ni fod â rhywfaint o optimistiaeth ofalus am hynny.
Gweinidog, ar draws fy rhanbarth i, sef Dwyrain De Cymru, mae cymunedau wedi cael eu llunio gan orffennol a phresennol diwydiannol Cymru. Rwy'n falch felly o weld y datganiad yn ail-bwysleisio eich cefnogaeth i sector dur Cymru, ac yn cydnabod y rhan hanfodol y bydd yn ei chwarae wrth sicrhau ein dyfodol carbon isel.
Ond, Gweinidog, o safbwynt addysgol—ac rydych chi wedi cyffwrdd ar y pwynt eisoes wrth ymateb i gwestiwn fy nghyd-Aelod Tom, a Luke—pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i wneud yn siŵr bod gweithlu presennol y sector dur a gweithlu'r dyfodol wedi ei ddiogelu at y dyfodol a bod ganddyn nhw'r sgiliau trosglwyddadwy ac y byddan nhw'n cael eu hail-addysgu yn y rhai y bydd eu hangen arnyn nhw i barhau i addasu a rheoli'r newid hwn i gynhyrchu carbon isel a'r ffyrdd newydd o weithio? Diolch.
Wel, mae hwn yn bwynt mewn gwirionedd ynglŷn â sut yr ydym yn parhau i fuddsoddi yn y gweithlu. Ac mae hwn yn faes lle nad yw'r gwaith y byddech chi wedi ei wneud yn y diwydiant dur 20 mlynedd yn ôl y gwaith yr ydych chi'n ei wneud heddiw o reidrwydd ac ni fydd y gwaith y byddwch chi'n ei wneud ymhen 20 mlynedd, ac mae cyflogwyr yn cydnabod hynny eu hunain. Ac, unwaith eto, caiff ei gydnabod nid yn unig gan gyflogwyr ond gan yr undeb llafur hefyd—yr angen i edrych eto'n gyson ar sut y mae'r gwaith yn cael ei wneud a'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl. A dyna pam rwyf i'n credu bod optimistiaeth ynglŷn â'r ffaith bod y cwmnïau hynny yn dymuno buddsoddi nid yn unig yn eu gweithlu presennol ond yn eu dyfodol. Felly, mae'n ymwneud yn rhannol â'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ymuno â'r gweithlu hwnnw, i fod yn brentis, i gael eich cyflogi, ond wedyn beth fydd angen i chi barhau i'w wneud.
Felly, rwy'n credu ein bod ni'n ymdrin â chyflogwyr sy'n cydnabod bod ganddyn nhw gyfrifoldebau i allu buddsoddi, a dyna pam rwy'n gwneud y pwynt ynglŷn â sut y caiff cyllid olynol Ewropeaidd ei ddefnyddio. Os na allwn ni ddefnyddio hynny mewn ffordd sy'n ein galluogi i gael buddsoddiad strategol priodol mewn sgiliau mewn gwahanol sectorau o'r economi, gallem ni wario arian yn wael yn y pen draw a pheidio â rhoi mantais i'r busnesau a'r gweithwyr hynny gael y math o ddyfodol y byddem ni i gyd, o'r datganiad heddiw, yn dymuno iddyn nhw ei gael. Felly, mae dewisiadau gwirioneddol i'w gwneud nad ydyn nhw'n ymwneud dim ond â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn anghytuno—mae effaith ymarferol, wirioneddol yn y dewisiadau yr ydym yn eu gwneud o ran buddsoddi mewn sgiliau.
Yn olaf, John Griffiths.
Gweinidog, ymysg ardaloedd Cymru sydd â thraddodiadau dur cryf, wrth gwrs, mae Casnewydd, a fy etholaeth i yn Nwyrain Casnewydd, gyda safle Llanwern, er enghraifft, ac, yn fwy diweddar, Liberty Steel. Mae gan Liberty Steel, wrth gwrs, anawsterau mawr ar hyn o bryd, a hoffwn i gael eich sicrwydd, Gweinidog, eich bod chi'n rhan o'r sefyllfa honno yn Liberty, o ran cadw golwg ar ddatblygiadau, ac wrth gwrs gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r undebau llafur yn ogystal â Liberty a phrynwyr posibl. Ac un pwynt allweddol, rwy'n credu, Gweinidog, yw bod Liberty yn gweithredu fel gwerthwr cyfrifol a bod proses dryloyw sy'n ymgysylltu'n llawn â'n hundebau llafur, a bod craffu ar gynlluniau unrhyw brynwr posibl, gan gynnwys eu hymrwymiad i'r gweithlu ac, yn wir, y diwydiant. Mae'r rhain yn faterion hollbwysig i fy etholaeth i, sef Dwyrain Casnewydd, a hoffwn i gael sicrwydd gennych chi ar y materion hyn.
Rwy'n hapus i roi sicrwydd i'r Aelod ein bod ni'n parhau i ymgysylltu cymaint ag y gallem ni ac y dylem ni fod yn ei wneud â'r cwmni mewn trafodaethau ynghylch eu dyfodol. Mae tua 180 o swyddi rhwng y ddau safle. Mae'r swyddi hynny'n werthfawr, ac rydym ni eisiau gallu eu diogelu a'u gweld yn cael dyfodol gwirioneddol, wrth symud ymlaen. Gwn fy mod i wedi cael sgyrsiau â'ch cymydog etholaethol, Jayne Bryant, i'r un perwyl, ac, os yw'n ddefnyddiol, byddaf i'n hapus i gael sgwrs arall â chi o ran yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i geisio cefnogi'r gweithlu yn Liberty Steel, wrth iddyn nhw geisio symud ymlaen yn y dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog.