Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Mae'r datganiad hwn, wrth gwrs, yn amserol, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf i gefnogi diwydiant dur y DU drwy ymestyn mesurau diogelu. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cadarnhau ei bod yn adolygu'r fframwaith camau adferol masnach fel mater o flaenoriaeth frys, a'i bod hefyd yn datblygu system fonitro a gwyliadwriaeth, a fydd yn galluogi'r DU i ymateb yn gyflym ac yn bendant i ymchwydd mewnforio, dympio a chystadleuaeth annheg. Rwy'n falch bod y Gweinidog wedi croesawu'r datblygiad hwn yn y datganiad heddiw, ac, wrth i ni symud ymlaen, mae'n hanfodol bod trafodaethau yn parhau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, o ystyried yr heriau cymhleth y mae'r sector yn eu hwynebu. Felly, Gweinidog, efallai y gallwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau diweddaraf sy'n digwydd gyda San Steffan a Llywodraeth y DU ynglŷn â mesurau diogelu dur a datgarboneiddio diwydiant yn ehangach.
Gweinidog, rydym ni i gyd yn awyddus i weld diwydiant dur Cymru yn ffynnu ar gyfer y dyfodol, ac felly mae'n bwysig bod y ddwy Lywodraeth yn cydweithio i gefnogi'r sector rhag arferion masnachu annheg, ymchwydd sydyn o fewnforion, ac i sicrhau y gall ein diwydiant gystadlu ar delerau teg. Rwy'n gwerthfawrogi'r swyddogaeth sydd gan Lywodraeth y DU o ran ategu'r sector hefyd o ran sicrhau buddsoddiad strategol uwch ac o ran prisio ynni, a dyna pam mae cydweithredu mor bwysig, er mwyn sicrhau bod y sector yn gynaliadwy ac yn gystadleuol ar gyfer y dyfodol.
Mae eich datganiad yn ailgadarnhau bod Llywodraeth Cymru, yng Nghymru, wedi ymrwymo i drosglwyddo i allyriadau sero net erbyn 2050, a gwyddom fod rhai ffyrdd posibl ymlaen o ran dal a storio carbon, toddi dur sgrap a defnyddio hydrogen yn hytrach na glo. Gweinidog, rydych chi'n iawn wrth ddweud mai un o'r heriau mwyaf i gyrraedd sero net ar draws yr economi yw'r newid sydd ei angen i gyflenwad trydan, ac felly, a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i ddechrau gwneud cynnydd yn hyn o beth?
Mae eich datganiad yn sôn am gyfleoedd i ddatblygu ynni adnewyddadwy morol a chefnogi arloesedd mewn technolegau ynni adnewyddadwy newydd, y mae angen eu datblygu ymhellach. Wrth gwrs, mae'r dewisiadau hyn yn galw am lawer iawn o fuddsoddi a chydweithredu rhwng llywodraethau, diwydiant ac, yn wir, y byd academaidd, ac mae'n rhaid cael digon o fuddsoddiad nid yn unig i'r sector yn uniongyrchol ond hefyd mewn meysydd fel ymchwil ac arloesi, er mwyn sicrhau bod pob cyfle yn cael ei archwilio. Felly, Gweinidog, efallai y gallwch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am lefelau'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, nid yn unig i'r sector yn uniongyrchol, ond hefyd o ran ymchwil ac arloesi, fel bod Cymru ar flaen y gad o ran unrhyw ddatblygiadau byd-eang a thechnolegol.
Mae datganiad heddiw yn sôn am gadernid economaidd Cymru, ac mae pandemig COVID wedi dangos i ni bwysigrwydd datblygu ein sector gweithgynhyrchu domestig a chreu cadwyni cyflenwi cryf. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei ysgogiadau i fanteisio i'r eithaf ar unrhyw gyfleoedd caffael. A gyda'r newyddion bod Nissan yn ehangu ei waith cynhyrchu cerbydau trydan yn ei ffatri geir yn Sunderland, mae'n hanfodol bod trafodaethau'n cael eu cynnal i sicrhau bod cynhyrchiant dur Cymru yn elwa ar y cyhoeddiad hwnnw. Felly, Gweinidog, a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am strategaeth gaffael Llywodraeth Cymru a'r camau sy'n cael eu cymryd i fanteisio i'r eithaf ar unrhyw gyfleoedd caffael, yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r DU?
Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni sicrhau bod gwneuthurwyr dur yn cael pob cyfle i fod yn rhan o gadwyni cyflenwi ar gyfer prosiectau a ariennir yn gyhoeddus sydd â gofyniad dur, ac eto mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau yn ddiweddar ei bod yn bwriadu symud gwariant tuag at gynnal a chadw ein ffyrdd presennol yn well, yn hytrach nag adeiladu rhai newydd. Byddai'r cyhoeddiad hwnnw yn sicr yn cael effaith ar y sector, a fyddai wedi chwarae rhan sylweddol mewn cefnogi'r datblygiadau seilwaith mawr newydd hynny. Ac felly efallai, Gweinidog, y gallwch chi ddweud wrthym ni pa asesiad a wnaed o effaith rhewi prosiectau ffyrdd newydd ar y sector dur, ac yng ngoleuni hynny, pa gyfleoedd eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu harchwilio i wneud y defnydd gorau posibl o ddur Cymru?
Nawr, mae hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn datblygu'r gweithlu ac nad yw'n anwybyddu'r cyfleoedd yn y sector dur o ran prentisiaethau a sgiliau. Mae Tata Steel, er enghraifft, wedi chwarae rhan enfawr yn y maes penodol hwn, gan gynnig prentisiaethau i'w weithwyr am y tro cyntaf yn ôl yn y 1950au. Felly, byddwn i'n ddiolchgar o gael gwybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau o fewn y sector dur, a pha raglenni a datblygiadau eraill sy'n cael eu hystyried.
Llywydd, rydym ni i gyd yn cydnabod bod amodau economaidd byd-eang yn parhau i fod yn heriol i'r sector dur, a dyna pam y mae hi mor bwysig bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i'w gefnogi i fod yn ddiwydiant cynaliadwy a modern. Er mwyn sicrhau bod ein diwydiant dur yn llwyddiant, mae cydweithredu yn hanfodol—cydweithredu rhwng Llywodraethau, y sector ei hun, y gymuned fusnes ehangach a gyda phartneriaid ymchwil. Diolch.