1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 7 Gorffennaf 2021.
3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith technoleg arloesol ar y gweithlu? OQ56729
Diolch am eich cwestiwn. Mae ein cenhadaeth i ailadeiladu'r economi yn adeiladu ar ganfyddiadau adolygiad yr Athro Phillip Brown yn 2019, gyda ffocws ar gyflymu trawsnewid diwydiannol drwy fanteisio ar dechnolegau newydd a tharfol, megis deallusrwydd artiffisial.
Diolch, Weinidog. Yn ôl Cyngres yr Undebau Llafur, dywed un o bob pedwar gweithiwr yng Nghymru fod monitro a gwyliadwriaeth yn y gwaith wedi cynyddu ers dechrau argyfwng COVID-19. Mae hyn yn cynnwys olrhain a logio gweithwyr wrth iddynt symud gyda strapen arddwrn, gan gynnwys pan fyddant yn mynd i'r toiled; gorfodi gyrwyr i wneud dŵr mewn poteli gan fod algorithm wedi gosod nifer amhosibl o gyflenwadau i'w dosbarthu mewn diwrnod, fel na allant fforddio cymryd seibiant; a'r defnydd o dechnoleg adnabod wynebau ar bobl sy'n gweithio gartref drwy eu gliniadur heb eu caniatâd.
Wrth gyflawni fy ymchwil fy hun gyda'r Athro Lina Dencik yn y labordy cyfiawnder data ym Mhrifysgol Caerdydd, gwnaethom gyfweld â dros 10 undeb llafur gwahanol a chanfod bod y wyliadwriaeth ormesol a helaeth hon yn gwneud i weithwyr deimlo dan straen ac yn ddigymhelliad, ac nad yw eu cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi nac yn ymddiried ynddynt, gan chwalu'r parch angenrheidiol rhwng gweithwyr a chyflogwyr. Sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau wrth i dechnoleg newydd gael ei chyflwyno i'r gweithle ei bod yn gwella bywydau gweithwyr yn hytrach na'u hamddifadu o urddas?
Credaf mai dyna'r pwynt pwysig y mae'r Aelod yn ei wneud ar y diwedd, gan y gall technoleg, o'i defnyddio'n gyfrifol, roi mwy o hyblygrwydd i weithwyr a'u galluogi i fod yn fwy cynhyrchiol, fel y mae llawer o fusnesau wedi'i ddarganfod yn ystod y pandemig. Mae'r defnydd arloesol o dechnoleg wedi rhoi rhyddid a gallu i bobl weithio o bell mewn ffordd y maent yn ei gwerthfawrogi.
Nawr, nid yw hynny'n gweithio i bob gweithiwr neu bob busnes, ond gall y defnydd amhriodol o dechnoleg fel y mae'r Aelod yn ei nodi, gyda chyflogwyr diegwyddor, greu amgylchedd o ofn a diffyg ymddiriedaeth. Nid yw Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld ac ni fyddwn yn cefnogi'r defnydd o arferion gwaith technolegol a chysylltiedig â COVID sy'n dod i'r amlwg i greu amgylchedd gormesol neu fygythiol i reoli gweithwyr.
Wrth inni barhau i gael ein trafodaethau yn y dull partneriaeth gymdeithasol rydym wedi'i adeiladu, sydd wedi bod o fudd sylweddol i Gymru drwy'r pandemig, gallaf ddweud y byddwn yn parhau i nodi ein disgwyliadau ar gyfer economi gwaith teg, lle rydym yn cydbwyso anghenion busnesau i wneud elw, ond hefyd eu cyfrifoldebau i ofalu am eu gweithwyr eu hunain. Dyna pam ein bod yn parhau i weithio gyda busnesau eu hunain a chydag undebau llafur sy'n cynrychioli buddiannau'r gweithlu, a byddaf yn sicrhau fy mod yn rhoi mwy o sylw i'r maes penodol hwn, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dynnu sylw at yr ymchwil a wnaed ganddi eisoes ar y mater hwn.
Weinidog, mae'r sgwrs ynghylch deallusrwydd artiffisial yn aml wedi canolbwyntio ar ei effaith ar y gweithlu a sut y gall arwain at lai o swyddi. Fodd bynnag, y gwir amdani yw bod dros 96 y cant o'r holl weithgynhyrchu yng Nghymru yn dod o fentrau busnes bach, ac rydym ni fel gwlad ar ei hôl hi o ran cynhyrchiant o gymharu â chystadleuwyr ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Mae technoleg arloesol yn rhoi cyfle perffaith i leihau’r costau buddsoddi sydd eu hangen ar gwmnïau er mwyn eu gwneud yn gystadleuol, ac mae gan Gymru fusnesau gwych sydd mewn sefyllfa dda i allu gwneud hyn, fel Nightingale HQ ym Mhontypridd. A all y Gweinidog nodi pa gynigion y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i helpu busnesau bach i integreiddio deallusrwydd artiffisial yn eu busnesau a'u helpu i gynyddu eu cynhyrchiant?
Rydym yn edrych ar arloesi digidol ym maes gweithgynhyrchu. Rydym eisoes wedi creu hyb yng Nghymru a gefnogir gennym hefyd, felly rydym yn edrych ar sut y mae hyn yn gweithio i wahanol fusnesau mewn gwahanol sectorau. Mae hefyd yn rhan o'r gwaith rydym yn bwriadu ei ddatblygu ar ddull hollol ranbarthol o ddeall beth fydd yn gweithio mewn gwahanol rannau o Gymru, ac mae a wnelo hynny â grymuso gwahanol ranbarthau yng Nghymru i wneud penderfyniadau gyda'i gilydd. Felly, y gwaith a wnaeth Julie James yn ei rôl weinidogol flaenorol yn creu cyd-bwyllgorau—sut y mae'r gwaith hwnnw'n sail i'r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar ddatblygiad economaidd rhanbarthol hefyd.
Yr her yw sicrhau nad yw ein gallu i fuddsoddi yn y penderfyniadau a wneir ar y lefel fwyaf priodol yn cael ei danseilio gan newidiadau yn y ffordd y mae strwythurau cyllido'n gweithio hefyd. Felly, mae heriau i Lywodraeth Cymru o ran yr hyn y gallwn ei wneud, ond hefyd dulliau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth a'r gwahaniaethau barn rhyngom ni a Llywodraeth y DU ar sut y defnyddir y ffynonellau cyllid hynny a ddaw yn lle'r cronfeydd Ewropeaidd—bydd hynny'n hanfodol bwysig er mwyn gwneud gwahaniaeth ymarferol i gefnogi mwy o fusnesau a mwy o swyddi yma yng Nghymru.