Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Diolch am eich ateb. Yn anffodus, mae ychydig o anghysondeb o hyd o ran caniatáu gwylwyr i ddychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon a chlybiau chwaraeon ledled Cymru. Felly, wrth i gefnogwyr ddychwelyd i stadia mewn niferoedd llai, mae rhai o anghysondebau'r rheoliadau COVID yng nghyswllt chwaraeon hefyd wedi cael eu dwyn i fy sylw. Er ei bod yn wych gweld rhai o gefnogwyr Cymru yn dychwelyd i gefnogi tîm rygbi Cymru yn stadiwm Principality ar gyfer y set ddiweddaraf o gemau rhyngwladol, yn ogystal â rhai cefnogwyr yn dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon eraill, mae'r rheolau ynglŷn â hyn yn parhau i fod yn aneglur. Felly, er enghraifft, yn stadiwm Principality, gofynnir i gefnogwyr wisgo masgiau o gwmpas y lleoliad ond gallant eu tynnu pan fyddant yn eu seddau. Yn y cyfamser, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y gall hyd at 100 o gefnogwyr ddychwelyd i gemau Uwch Gynghrair Cymru. Maent hefyd wedi dweud bod yn rhaid gwisgo masgiau bob amser, yn ogystal â gwirio tymheredd a chwblhau holiadur meddygol wrth fynd i mewn, er nad yw hynny'n ofynnol gan Undeb Rygbi Cymru ar gyfer eu gemau hwy. Mae Criced Morgannwg wedi dweud nad oes angen gwisgo masgiau wrth eistedd, ond fel Undeb Rygbi Cymru, mae angen eu gwisgo wrth gerdded o gwmpas y stadiwm, yn ogystal â gwirio tymheredd wrth fynd i mewn, fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru ond yn wahanol i Undeb Rygbi Cymru. Felly, mae yna anghysondeb amlwg yno hefyd.
Ceir problem hefyd mewn perthynas â swigod aelwydydd. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn eu canllawiau ar gyfer Uwch Gynghrair Cymru, a Chriced Morgannwg wedi dweud na chaiff y rheini nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd eistedd gyda'i gilydd, ond dywed gwefan Undeb Rygbi Cymru ar gyfer deiliaid tocynnau ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn, 'Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, nid oes cyfyngiad ar bwy y gallwch fynychu gyda hwy', sy'n wahanol eto i'r rheol chwech, er enghraifft, mewn tafarndai a bwytai. Er fy mod yn deall mai cyfrifoldeb y Gweinidog iechyd yw llunio rheoliadau COVID, eich rôl chi fel y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am chwaraeon yw sicrhau bod gan sefydliadau chwaraeon ddealltwriaeth gyson o reoliadau Llywodraeth Cymru, ac ar hyn o bryd, mae rhai o'r sefydliadau chwaraeon mwyaf yng Nghymru yn dehongli rheoliadau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn mewn ffyrdd tra gwahanol. Felly, a gaf fi ofyn: pa gamau rydych yn eu cymryd nid yn unig i sicrhau bod gan bob corff chwaraeon ddealltwriaeth gyson o'r rheoliadau, ond hefyd fod cefnogwyr sy'n mynychu digwyddiadau chwaraeon yn cael eu trin yr un mor deg â phobl sy'n mynychu lleoliadau eraill, fel tafarndai a bwytai?