Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Credaf fod y canllawiau a roddwyd i'r holl sefydliadau hyn yn gyson. Mater i'r sefydliadau eu hunain yw cynnal eu hasesiadau risg eu hunain yn seiliedig ar eu lleoliadau, eu niferoedd a sut y byddant yn diogelu yn erbyn yr haint. Felly, boed yn ddigwyddiad dan do neu'n ddigwyddiad awyr agored, mae'r canllawiau'n gyson. Yr hyn nad yw'n gyson, o reidrwydd, yw'r penderfyniadau y mae trefnwyr y digwyddiadau hynny'n eu gwneud ynglŷn â'r lleoliadau a'r niferoedd dan sylw, gan fod hynny'n dibynnu ar yr asesiad risg unigol ar gyfer pob digwyddiad.