Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Diolch yn fawr am y diweddariad, a diolch yn fawr am y Papur Gwyn. A gaf i'ch annog chi, plis, i beidio aros i Lywodraeth Prydain i wneud unrhyw beth? Maen nhw wedi addo o'r blaen ac wedi cyflawni dim. Mi wnaeth Cymru arwain y gad gyda'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol—Tredegar, Cymru, a chi yn y Blaid Lafur, er tegwch. Pe byddai Nye Bevan wedi aros i'r Torïaid, byddai'r gwasanaeth iechyd heb gael ei sefydlu. Felly, plis, gweithredwch nawr.