Gofal Cymdeithasol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 7 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:28, 7 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, hoffwn holi am fater brys mewn perthynas â'r system gofal cymdeithasol, y gellir ei ddatrys yn awr, ac mae hwn yn fater personol i mi. Mewn ymateb i fy nghyd-Aelod Gareth Davies yr wythnos diwethaf, dywedasoch na fu gwaharddiad cyffredinol ar ymweliadau â chartrefi gofal. Yn dechnegol, efallai fod hynny'n wir, ond roedd y realiti'n wahanol iawn a gallaf ddweud hynny o safbwynt personol, gan fod fy nhad, a oedd yn Aelod yma am ddau dymor, yn byw mewn cartref gofal cyfagos yma ym Mae Caerdydd. Mae ganddo ddementia datblygedig. Nid anghofiaf byth mo'r dydd Mawrth cyn gêm yr Alban, pan euthum yno a chael gwybod gan dderbynnydd dagreuol fod y cartref gofal wedi cael ei gau hanner awr ynghynt, a bu ar gau wedyn tan fis Awst. Wrth gwrs, fe’i caewyd eto dros yr ail don, ac mae wedi bod ar gau eto yn awr am y ddau fis diwethaf oherwydd profion COVID positif ymhlith preswylwyr a gweithwyr y cartref gofal, er bod pob un wedi cael dau bigiad, er nad oeddent yn dangos unrhyw symptomau ac er nad oeddent wedi gorfod mynd i'r ysbyty.

Ddirprwy Weinidog, rwy'n deall ei bod hi'n anodd iawn; rwy'n deall yr angen i ddiogelu preswylwyr fel fy nhad, ond rydym am weld ein hanwyliaid. Rwy'n ymwybodol o'r pryderon am yr amrywiolyn delta, rwy'n ymwybodol o'r pryderon am y drydedd don, ond os gwelwch yn dda, a allwch edrych eto ar ganllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn ag ymweld â chartrefi gofal, fel y gall pobl fel fi a llawer o bobl eraill ymweld â'u hanwyliaid? Diolch yn fawr.