2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 7 Gorffennaf 2021.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio gofal cymdeithasol? OQ56719
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar ein Papur Gwyn, 'Ailgydbwyso gofal a chymorth', ar 29 Mehefin. Roedd y Papur Gwyn yn nodi cynigion i ddiwygio gofal cymdeithasol a gwella llesiant. Mae ein rhaglen lywodraethu'n cynnwys ymrwymiadau i fwrw ymlaen â'r cynigion hyn, mewn partneriaeth â'r sector.
Diolch yn fawr am y diweddariad, a diolch yn fawr am y Papur Gwyn. A gaf i'ch annog chi, plis, i beidio aros i Lywodraeth Prydain i wneud unrhyw beth? Maen nhw wedi addo o'r blaen ac wedi cyflawni dim. Mi wnaeth Cymru arwain y gad gyda'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol—Tredegar, Cymru, a chi yn y Blaid Lafur, er tegwch. Pe byddai Nye Bevan wedi aros i'r Torïaid, byddai'r gwasanaeth iechyd heb gael ei sefydlu. Felly, plis, gweithredwch nawr.
Weinidog, hoffwn holi am fater brys mewn perthynas â'r system gofal cymdeithasol, y gellir ei ddatrys yn awr, ac mae hwn yn fater personol i mi. Mewn ymateb i fy nghyd-Aelod Gareth Davies yr wythnos diwethaf, dywedasoch na fu gwaharddiad cyffredinol ar ymweliadau â chartrefi gofal. Yn dechnegol, efallai fod hynny'n wir, ond roedd y realiti'n wahanol iawn a gallaf ddweud hynny o safbwynt personol, gan fod fy nhad, a oedd yn Aelod yma am ddau dymor, yn byw mewn cartref gofal cyfagos yma ym Mae Caerdydd. Mae ganddo ddementia datblygedig. Nid anghofiaf byth mo'r dydd Mawrth cyn gêm yr Alban, pan euthum yno a chael gwybod gan dderbynnydd dagreuol fod y cartref gofal wedi cael ei gau hanner awr ynghynt, a bu ar gau wedyn tan fis Awst. Wrth gwrs, fe’i caewyd eto dros yr ail don, ac mae wedi bod ar gau eto yn awr am y ddau fis diwethaf oherwydd profion COVID positif ymhlith preswylwyr a gweithwyr y cartref gofal, er bod pob un wedi cael dau bigiad, er nad oeddent yn dangos unrhyw symptomau ac er nad oeddent wedi gorfod mynd i'r ysbyty.
Ddirprwy Weinidog, rwy'n deall ei bod hi'n anodd iawn; rwy'n deall yr angen i ddiogelu preswylwyr fel fy nhad, ond rydym am weld ein hanwyliaid. Rwy'n ymwybodol o'r pryderon am yr amrywiolyn delta, rwy'n ymwybodol o'r pryderon am y drydedd don, ond os gwelwch yn dda, a allwch edrych eto ar ganllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn ag ymweld â chartrefi gofal, fel y gall pobl fel fi a llawer o bobl eraill ymweld â'u hanwyliaid? Diolch yn fawr.
Diolch. A diolch i Rhys ab Owen am ei gwestiwn teimladwy iawn. Gan ddechrau gyda'i sylwadau agoriadol am beidio ag aros am Lywodraeth y DU, byddai'n well gennym gael ateb ar gyfer Cymru a Lloegr, ond rwy'n cytuno'n llwyr na allwn aros am byth. Hoffem gael ateb ar y cyd oherwydd y cysylltiad â'r system fudd-daliadau a'r system drethi. Felly, dyna pam yr hoffem hynny. Ond rydym wedi bod yn aros ers peth amser, ac rwy'n llwyr gydnabod hynny.
Ar yr ymweliadau â chartrefi gofal, dyna rai o'r penderfyniadau anoddaf a wnaed, ac mae'n sefyllfa anodd iawn. Rwy'n deall yn iawn pa mor anodd y bu pethau, mae'n rhaid, o ran ymweld â'i dad, rhywun roeddwn yn ei adnabod yn dda, a bûm yn gweithio gydag ef pan oedd yn Aelod yma. Yr hyn rydym wedi ceisio ei wneud yw cydbwyso diogelwch y preswylwyr â'u hangen i weld eu teulu, ac wrth gwrs, gydag angen y teulu i weld y preswylwyr. Drwy gydol y pandemig, ar bob cam, nid yw ein canllawiau wedi cynnwys gwaharddiad cyffredinol ar unrhyw ymweliadau—mae'r posibilrwydd o gael ymweliadau wedi bod yno o'r cychwyn pan fo'r sefyllfa'n anodd iawn neu'n anobeithiol. Felly, mae'r opsiwn hwnnw wedi bod yno o'r cychwyn.
Ar hyn o bryd, mae'r canllawiau'n glir y gall dau ymwelydd ymweld â phreswylydd cartref gofal. Nid oes rhestr gymeradwy o bobl a all fynd i mewn yn awr; mae pethau'n fwy agored na hynny. Ond yn amlwg, mae cartrefi gofal unigol yn dehongli'r canllawiau yn y ffordd y credant sydd fwyaf diogel i'w preswylwyr. Credaf mai'r peth pwysig yw edrych ar sut y caiff hyn ei ddehongli mewn cartrefi gofal unigol. Ond yn sicr, rydym am i deuluoedd allu gweld eu hanwyliaid, ac rydym am i anwyliaid weld eu teuluoedd, oherwydd yn amlwg, dyna hanfod bywyd teuluol. Gwn pa mor ofnadwy y mae'r sefyllfa wedi bod i gymaint o breswylwyr a'u teuluoedd.
Diolch am eich sylwadau hyd yma, Ddirprwy Weinidog. A gaf fi ychwanegu fy nghefnogaeth i'r Aelod dysgedig dros Ganol De Cymru mewn perthynas ag ymweliadau â chartrefi gofal hefyd? Mae'n sicr yn brofiad rhwystredig i lawer o unigolion ar hyn o bryd. Weinidog, yn ystod y pandemig, rydym wedi gweld pwysigrwydd a gwaith anhygoel llawer o weithwyr gofal, sydd wedi mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n ddisgwyliedig i ddarparu gwasanaeth eithriadol o gefnogaeth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed, yn enwedig y rhai ar y rheng flaen mewn cartrefi gofal, a'r rhai sy'n darparu cymorth gofal cartref hefyd. Rwy'n credu bod y pandemig wedi tynnu sylw at werth a phwysigrwydd ein gweithwyr gofal cymdeithasol, ond hefyd y cyfleoedd i wella gyrfaoedd yn y sector, drwy uwchsgilio’r gweithwyr hyn, a allai, yn eu tro, leddfu rhywfaint o’r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd. Fel rhan o'ch adolygiad a diwygio cynlluniau ar gyfer y sectorau gofal cymdeithasol, hoffwn ofyn beth yw eich barn ar gylch gwaith y gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen hynny. Pa gefnogaeth y byddech yn ei darparu er mwyn eu huwchsgilio ac er mwyn gwella’r gweithlu pwysig hwn? Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Rwy'n credu bod y pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gweithwyr gofal cymdeithasol, ac nid wyf yn credu bod llawer o'r cyhoedd yn ymwybodol o werth y gwaith y maent yn ei wneud. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni fanteisio ar y cyfle hwn i sicrhau ein bod yn defnyddio pob cyfle i'w huwchsgilio, fel y dywedodd yr Aelod, a hefyd i sicrhau eu bod yn cael tâl gwell am yr hyn y maent yn ei wneud. Dyna pam ein bod yn cyflwyno’r cyflog byw go iawn i weithwyr gofal cymdeithasol wrth gwrs. Rydym wedi sefydlu fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, sef grŵp sy'n cynnwys undebau llafur, cyflogwyr a sefydliadau perthnasol eraill. Bydd y grŵp hwnnw'n edrych ar yr holl faterion hyn sy'n ymwneud â gweithwyr gofal cymdeithasol. Oherwydd, yn ogystal â chynyddu’r cyflog y maent yn ei ennill, rydym eisiau i bobl werthfawrogi swydd gweithiwr gofal cymdeithasol a chydnabod y gwaith pwysig y maent yn ei wneud. Felly bydd y grŵp hwnnw'n edrych ar yr holl faterion hyn, ac yn sicr, mae hyfforddiant yn y swydd a mathau eraill o hyfforddiant yn rhan bwysig iawn o hynny. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle i geisio sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol—fod eu statws proffesiynol yn gwella, a bod llawer mwy o ymwybyddiaeth o'r swydd y maent yn ei gwneud.