Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 7 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:58, 7 Gorffennaf 2021

Diolch yn fawr. Byddwch chi'n ymwybodol, yn ein cyhoeddiad ni am y cynllun newydd ar adferiad, mi roesom ni sylw arbennig i'r rheini oedd yn dioddef o COVID hir a oedd yn gweithio yn ein system iechyd a gofal ni, a sicrhau bod canllawiau ar gael i roi syniad i gyflogwyr i sicrhau eu bod nhw'n gwybod sut ddylai'r gwasanaeth iechyd a'r gwasanaeth gofal fod yn ymateb i'r rheini sydd yn dioddef o COVID hir. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n glir yn yr adroddiad yna.