Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 7 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:56, 7 Gorffennaf 2021

Dwi am gwblhau, os caf i, Llywydd, drwy droi at COVID hir. Mae o'n bryder mawr i fi. Mae gen i bryderon mawr am bobl ifanc, a dweud y gwir, ar hyn o bryd, wrth i gyfyngiadau gael eu codi. Mi gawn ni gyfle i drafod hynny eto. Ond dwi eisiau edrych yn benodol, yn sydyn, ar effaith COVID hir ar y gweithlu iechyd a gofal. O fy ngwaith i fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar COVID hir, dwi'n gweld cyfran ryfeddol o uchel o'r bobl dwi'n siarad â nhw yn bobl sydd wedi mynd yn sâl drwy eu gwaith nhw mewn iechyd a gofal. Mae eisiau edrych ar hyn. Mae eisiau cynnig cefnogaeth iddyn nhw, a dwi eisiau gwybod beth mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud i'w cefnogi nhw, achos maen nhw'n haeddu'r gefnogaeth yna am y gwaith maen nhw wedi ei wneud a'r ffaith eu bod nhw wedi rhoi eu hunain mewn perig yn ystod y pandemig yma. Ond pan fyddwn ni'n edrych ar y gwaith adfer hefyd, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni beth mae hi'n mynd i'w wneud i wthio am sicrwydd bod y rhain yn cael cefnogaeth i ddod yn ôl i'r gwaith, achos dŷn ni angen sicrhau bod ein gweithlu ni'n llawn, ac mae dioddefwyr COVID hir o fewn y gweithlu iechyd a gofal eisiau mynd yn ôl i'r gwaith i wneud yr hyn maen nhw wedi cael eu hyfforddi i'w wneud? Allwn ni ddim aros yn rhagor am sicrwydd bod yna driniaeth a thegwch yn mynd i gael eu rhoi i'r nifer uchel, dwi'n ofni, o weithwyr sydd yn dioddef yn y ffordd yma.