Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 7 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:54, 7 Gorffennaf 2021

Mi wnaf i droi nesaf at wasanaethau orthopedig. Mae yna her enfawr o'ch blaen chi yn adeiladu capasiti. Dwi a phob Aelod yn fan hyn, dwi'n siŵr, wedi clywed am lawer gormod o gleifion yn aros yn llawer rhy hir mewn poen. Ym mis Ebrill eleni, mi oedd yna 88,000 o bobl yn aros am driniaeth trawma ac orthopedig, gyda 60 y cant yn aros dros 36 wythnos. Rhyw 11 y cant oedd y ffigur yn ôl yn 2019. Mae dros hanner bellach yn aros dros flwyddyn. Wrth gwrs, mi oedd y rhestrau aros yna eto yn rhy hir cyn y pandemig, felly pa sicrwydd allwch chi ei roi i ni y byddwch chi, wrth drio delio efo'r broblem acíwt o backlog ychwanegol y pandemig, yn gwneud llawer mwy na thrio adfer gwasanaethau i sut oedden nhw o'r blaen? Sut byddwch chi rŵan yn llwyddo i drio creu gwasanaethau mwy cynaliadwy i'r hirdymor, achos dyna dŷn ni'n chwilio amdano fo wrth ddod allan o'r pandemig yma?