Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Wel, dwi eisiau gwneud yn siŵr nad ydym ni'n colli'r cyfle yma o'r pandemig i newid pethau. Mae lot wedi newid eisoes ac mae eisiau i ni glymu mewn yr hyn sy'n dda o ran y newidiadau sydd wedi bod yn y ffordd mae'r gweithlu yn ymddwyn, ond hefyd y systemau rŷm ni'n eu defnyddio. Roeddwn i'n falch i fod yn rhan o gynhadledd dros y penwythnos gyda chymdeithas orthopaedig o India. Mae lot fawr o'n orthopaedic surgeons ni yn dod o India yng Nghymru, ac roedd e'n dda i glywed eu syniadau nhw ynglŷn â sut ddylen ni fod yn cyflymu'r broses. Ac, wrth gwrs, bydd hynny, efallai, yn cynnwys y posibilrwydd o gael canolfannau yn uniongyrchol, efallai'r canolfannau oer yma—y canolfannau uniongyrchol roeddwn i'n sôn amdanyn nhw. Felly, rydym ni jest yn analeiddio i weld sut byddai hynny'n digwydd yn ymarferol a sut byddai hynny'n gallu cael ei ariannu. Ond rŷm ni yn awyddus iawn i weld sut allwn ni ddefnyddio'r achlysur yma i ymdrin â'r broblem ond hefyd i'n cael ni i le gwahanol yn ystod y tymor canolig.