Part of the debate – Senedd Cymru am 6:19 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Gaf i groesawu'r ddadl yma, a diolch i'r Gweinidog, wrth gwrs, am gynnig y ddadl yma yn absenoldeb y ffaith bod y Pwyllgor Cyllid heb ei sefydlu mewn pryd i allu gwneud hynny?
Y peth cyntaf dwi eisiau dweud a'r hyn dwi eisiau gwneud yw jest ategu'r hyn a wnes i ddweud yn y ddadl flaenorol: nawr yw'r amser i Lywodraeth Cymru fod yn fwy creadigol ac yn fwy uchelgeisiol o safbwynt ei chyllideb am y flwyddyn nesaf. Mae'r amgylchiadau o safbwynt ymateb i'r argyfwng hinsawdd, o safbwynt dod allan o'r pandemig ac o safbwynt parhau ymateb i Brexit yn golygu bod angen i'r Llywodraeth wneud popeth sy'n bosib i arloesi gyda'i chynlluniau gwariant.
Nawr, mi wnaethom ni fel plaid amlinellu opsiynau yn ein maniffesto, wrth gwrs, ar gyfer yr etholiad diweddar, ond rhan fawr o hyn i gyd, wrth gwrs, yw gwneud popeth y gallwn ni i osgoi jest gweithredu mwy o lymder ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru, a defnyddio'r pwerau sydd gennym ni, ond hefyd mynnu pwerau ychwanegol i fedru buddsoddi yn yr adferiad rŷn ni i gyd eisiau ei weld.
Nawr, mi gyfeiriais at fenthyca gynnau, a dwi'n mynd i ategu'r pwynt eto: mae benthyca wedi'i gyfyngu i £150 miliwn y flwyddyn—dwi'n gwybod hynny—ond, dros y pum mlynedd diwethaf, dim ond £59 miliwn allan o'r £0.75 biliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fenthyca. Dwi'n credu bod amgylchiadau nawr yn mynnu ein bod ni'n symud o'r fan yna, achos nawr, yn fwy nag erioed, mae angen cyllideb i drawsnewid bywydau pobl Cymru sy'n canolbwyntio ar y tymor hir, sy'n canolbwyntio ar agenda ataliol ac nid busnes fel arfer.
Nawr, dyna oedd y newid diwylliannol radical roedd nifer ohonom ni'n gobeithio byddai'n cael ei sbarduno gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ond, yn ei hanfod, wrth gwrs, dyw'r newid sylweddol hwnnw ddim wedi digwydd. Ar y cyfan, mae dosraniad neu ddosraniadau cyllideb Llywodraeth Cymru i bob pwrpas yr un peth heddiw ac roedden nhw efallai 10 mlynedd yn ôl. Dwi eisiau gweld sifft fwy pendant a ffocws cryfach flwyddyn nesaf ar ddelifro yn erbyn nodau llesiant Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Dwi hefyd eisiau gweld ffocws mwy didrugaredd ar drosglwyddo i economi werdd—transition i economi werdd—fydd yn helpu, wrth gwrs, i liniau'r risg o sioc economaidd yn y dyfodol, ac a fydd, hefyd, yn creu Cymru fwy gwydn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Nawr, mae'r oedi ac adolygu ar brosiectau ffyrdd y mae'r Llywodraeth wedi'i gyhoeddi yn arwydd i mi, neu'n signal, fod y Llywodraeth eisiau symud fwyfwy i'r cyfeiriad yna, ond y litmus test i mi bob tro yw'r gyllideb. Os nad ydw i'n gweld y neges yna yn cael ei hategu a'i thanlinellu'n glir yng nghyllideb flwyddyn nesaf—nid dim ond yng nghyd-destun ffyrdd, ond ar draws cyllideb gyfan y Llywodraeth—yna fydd hynny ddim yn arwain at y newid go iawn dwi eisiau ei weld, ac mae'r amgylchiadau erbyn hyn yn mynnu dyw busnes fel arfer ddim yn opsiwn rhagor.
Nawr, mi fydd rhai o'm cyd-Aelodau i ar y meinciau yma yn amlinellu rhai materion penodol yn y ddadl; dwi eisiau jest cyffwrdd ar un neu ddau yn yr amser sydd ar ôl. Rŷn ni oll, wrth gwrs, eisiau gweld sicrhau gwell tâl ac amodau i staff y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, ac mae Plaid Cymru'n cefnogi'r alwad am godiad cyflog ystyrlon i staff nyrsio sy'n cydnabod gwerth eu gwaith nhw. Dwi'n mawr obeithio y gwelwn ni ymateb Llywodraeth Cymru yn debycach i'r ymateb sydd wedi'i gytuno yn yr Alban—y 4 y cant—yn hytrach na'r awgrym o 1 y cant gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, oherwydd, heb roi cynnydd haeddiannol yng nghyflog ein nyrsys ni, mi fydd problem cadw a recriwtio nyrsys o fewn y gwasanaeth iechyd, wrth gwrs, yn dwysáu. Felly, buddsoddi nawr er mwyn sicrhau gweithlu digonol a'r sylfaen i wasanaeth mwy cydnerth a chynaliadwy yn y dyfodol. Byddai unrhyw beth llai na hynny yn wrth-gynhyrchiol.
Mae'r un peth yn wir o safbwynt cyflogau gofalwyr hefyd, wrth gwrs. Fel cymdeithas, rŷn ni wedi dirprwyo gofal i'r rhai sydd ar y lefel isaf o dâl a chyda'r gefnogaeth isaf, ac yn wyneb y toriadau parhaus i gyllidebau awdurdodau lleol dros y blynyddoedd—lawr bron chwarter mewn termau real ers 2010—mae'n rhaid i'r Llywodraeth weithredu ar yr agenda yna.
Mae tai, wrth gwrs, yn faes pwysig. Rŷn ni wedi clywed cyfeiriad at hynny eisoes—nid dim ond yr argyfwng tai a'r angen i weithredu yn y cyd-destun cyllidebol pan fo'n dod i daclo rhai o'r materion sy'n ymwneud â'r farchnad dai, ond hefyd, wrth gwrs, yr angen i gynyddu'r uchelgais o ran adeiladu tai. Mae'r pandemig wedi dangos bod modd dod â digartrefedd i ben os ydy'r ewyllys gwleidyddol yna; mae angen cynnal y momentwm penodol yna nawr. Ac, wrth gwrs, mae ymchwil wedi dangos y byddai buddsoddiad ataliol i atal digartrefedd yn creu arbedion yn ei sgîl, ac mae hynny'n rhywbeth byddwn i'n awyddus iawn i weld y Llywodraeth yn dwysáu o safbwynt eu ffocws gyllidol.
Mae'r argyfwng hinsawdd, wrth gwrs, yn treiddio i bob rhan, gobeithio, o gyllideb y Llywodraeth ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn gyrru elfen bwysig iawn, neu elfennau pwysig iawn, o'r gwaith yna, ac rŷn ni'n gwybod am y trajectory anghynaliadwy o safbwynt ariannu sydd yn crebachu o flwyddyn i flwyddyn, tra bod dyletswyddau a disgwyliadau yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Mae angen datrys hynny unwaith ac am byth.
Felly, fy mhle i yw'r Llywodraeth yw: os fydd eich cyllideb nesaf chi yn gyllideb busnes fel arfer, yna does dim awydd ar y meinciau yma i hwyluso hynny; ond, os byddwch chi'n ddewr, os byddwch chi'n radical, os byddwch chi'n uchelgeisiol, yna fe gerddwn ni'r llwybr yna gyda chi.