Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 13 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:00, 13 Gorffennaf 2021

Wel, Llywydd, dwi yn rhannu y consýrn, ac mae mwy o dystiolaeth gyda ni nawr am effaith COVID hir ar bobl ifanc, ac mae'n bwysig i ni fwrw ymlaen i gasglu mwy o wybodaeth a chael mwy o gyngor gan bobl sy'n gweithio yn y maes. Yn y llythyr anfonodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at yr ysgolion yng Nghymru, beth roedd e'n ei ddweud oedd doedd dim rhaid defnyddio mygydau mewn dosbarth 'as a matter of routine'.