Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 13 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:59, 13 Gorffennaf 2021

Diolch. Gofyn i chi roi'ch barn ar beth ydych chi'n meddwl sy'n gyfrifol neu'n anghyfrifol yng Nghymru ydw i, wrth gwrs, a dwi yn eich annog chi i gadw'r angen i orfod gwisgo gorchudd wyneb ym mhob lleoliad lle mae pobl yn dod i gyswllt agos â'i gilydd, yn cynnwys mewn siopau. Mi ddarllenais i un senario dros y Sul: y byddai'n od iawn, meddai'r Cynghorydd Gwynfor Owen o Wynedd, pe bai gweithiwr siop yn gorfod gwisgo masg i fynd i syrjeri y doctor ond y doctor ddim yn gorfod gwisgo masg i fynd i'r siop.

Mi ydych chi wedi dweud na fydd disgyblion yn gorfod gwisgo masg mewn dosbarthiadau ysgol o fis Medi. Mae gen i gonsýrn am hyn, o ystyried mor agos at ei gilydd mae disgyblion, ac rydw i'n annog y Llywodraeth i fod yn ddigyfaddawd wrth wthio am warchodaeth i blant a phobl ifanc drwy bethau fel strategaethau ar sicrhau digon o awyr iach mewn dosbarthiadau a hefyd drwy wthio brechu i blant a phobl ifanc. Ac un gyrrwr yn hyn o beth i fi ydy pryder cynyddol am effaith COVID hir ac effaith COVID hir ar blant a phobl ifanc. Mae degau o filoedd o blant a phobl ifanc ar draws Prydain yn dioddef. Gaf i ofyn, ydy’r Prif Weinidog yn cytuno efo’r consýrn yna sydd gen? A gaf i ofyn am gamau pendant i ddatblygu arbenigedd yn y maes yma er mwyn gwarchod plant a phobl ifanc yn benodol o COVID hir?