1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Gorffennaf 2021.
5. Pa bolisïau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu dilyn i fynd i'r afael â lefelau tlodi hirsefydlog yng Nghymru? OQ56775
Mae lefelau tlodi yng Nghymru wedi eu gwaethygu gan weithredoedd Llywodraethau Ceidwadol olynol ers 2010. Bydd y penderfyniad i beidio ag ymestyn yr ychwanegiad wythnosol o £20 at gredyd cynhwysol o fis Medi ymlaen yn amddifadu miloedd o deuluoedd yng Nghymru pan fydd angen cymorth arnyn nhw fwyaf. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i liniaru'r datblygiadau hyn i'r graddau llwyraf posibl.
Prif Weinidog, rwy'n cytuno yn llwyr â chi o ran effaith y polisïau hynny gan Lywodraeth y DU. Mae llawer o dlodi sefydledig wedi ei wreiddio mewn dosbarth cymdeithasol, ac mae cymunedau dosbarth gweithiol mewn ardaloedd lle mae dirywiad diwydiannol yn y Cymoedd ac ar ein hystadau tai cymdeithasol yn dioddef anfantais rhwng y cenedlaethau, sydd wedi bodoli, yn anffodus, ers blynyddoedd lawer. Mae hyn yn effeithio ar bob cam o addysg, cyflogaeth ac, wrth gwrs, safonau byw. Weithiau mae'n arwain at iechyd a lles gwael, ac weithiau at ddieithrwch ac anobaith. Mae wedi bod ac mae yn anodd iawn i unrhyw Lywodraeth ac i'n holl wasanaethau cyhoeddus fynd i'r afael â'r materion hyn. Prif Weinidog, pa bolisïau y bydd y Llywodraeth Cymru hon yn eu dilyn i fynd i'r afael â materion blynyddoedd cynnar, materion addysg, datblygu economaidd, datblygu cymunedol a gwasanaethau ieuenctid?
Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd John Griffiths ynghylch pwysigrwydd parhaus dosbarth cymdeithasol wrth bennu cyfleoedd pobl mewn bywyd yng Nghymru. Nid mater o ddosbarth yn unig ydyw, fel y gwyddom; mae'n aml yn fater o ryw ac ethnigrwydd hefyd. Mae John Griffiths yn iawn, wrth gwrs, Llywydd, fod tystiolaeth gronnol o'r heriau y mae dynion gwyn ifanc dosbarth gweithiol yn eu hwynebu wrth sicrhau dyfodol economaidd i'w hunain, ac yn sicr mae angen ymdrechion ychwanegol ar fenywod ifanc i sicrhau eu bod yn gwybod bod yr ystod ehangaf o bosibiliadau ar gael iddyn nhw yma yng Nghymru.
Mae'n debyg na allaf i ymdrin â'r holl feysydd polisi y tynnodd yr Aelod sylw atyn nhw, Llywydd, ond i ddynion ifanc, rwyf i wedi meddwl erioed bod y cyfnod sylfaen a'r rhaglen Dechrau'n Deg yn enghraifft wirioneddol o'r hyn yr ydym ni'n cyfeirio ato fel cyffredinoliaeth flaengar yng Nghymru. Ceir y cyfnod sylfaen, gwasanaeth cyffredinol sydd wedi ei gynllunio i wneud i bobl ifanc o'r oedran cynharaf posibl fod wrth eu boddau â'r syniad o fynd i'r ysgol a dysgu—bod dysgu i'w fwynhau ac i fod yn werth chweil. I'r bechgyn hynny sy'n dod o'r cefndiroedd y mae'r Aelod wedi cyfeirio atyn nhw, mae'r cyfnod sylfaen, yn fy marn i, mor bwysig i wneud iddyn nhw deimlo o ddechrau cyntaf eu bywydau y bydd yr ysgol yn rhywbeth y byddan nhw'n cael llawer o fudd ohoni ac a fydd yn rhoi'r cyfleoedd hynny iddyn nhw.
I fenywod ifanc, fel y dywedais i, mae'n rhaid i ni wneud mwy i sicrhau nad ydyn nhw'n wynebu cyfres o ddewisiadau y gallan nhw eu gwneud sy'n ystrydebol o ran rhyw. Yn gynharach eleni, ym mis Ebrill, fe es i gyda'r Aelod dros Flaenau Gwent i Thales yn ei etholaeth ef a chlywais stori wych am y ffordd y mae'r cwmni hwnnw yn sicrhau bod menywod ifanc yn yr ardal honno yn gwybod bod gyrfaoedd ar eu cyfer nhw yn y diwydiannau newydd hynny. Cafodd y rhaglen ei harwain gan ddwy fenyw ifanc wych, a eglurodd wrthym ni bopeth yr oedden nhw'n ei wneud i sicrhau bod y cyfleoedd hynny yn hysbys i fenywod ifanc yn etholaeth Blaenau Gwent.
I ddynion ifanc a menywod ifanc, bydd y warant cyflogaeth ieuenctid y mae'r Llywodraeth hon yn ei chynnig yn floc adeiladu sylfaenol o ran sicrhau, wrth i'r economi adfer ar ôl canlyniadau economaidd y coronafeirws, nad yw'r bobl ifanc hynny y mae John Griffiths yn cyfeirio atyn nhw yn cael eu gadael ar ôl, bod ganddyn nhw gyfleoedd gwirioneddol, ein bod ni'n gweithio gyda nhw i sicrhau y gallan nhw weld cadwyn—cadwyn o ble y mae eu bywydau heddiw i ble yr hoffen nhw i'w bywydau fod yn y dyfodol.
Prif Weinidog, diolch yn fawr iawn am sôn am fenywod a phobl ifanc yn eich ateb blaenorol, ond hoffwn i ganolbwyntio ar bobl hŷn. Nododd comisiynydd pobl hŷn Cymru, yn 2018, yr amcangyfrifir bod tua 112,500 o bobl hŷn mewn gwirionedd yn byw mewn tlodi yma yng Nghymru, a bod 50,000 o bobl yn byw mewn tlodi difrifol. Y llynedd, lluniodd yr elusen Independent Age adroddiad yn dweud y gallai cannoedd ar filoedd o bobl oedrannus gael eu codi allan o dlodi wrth i'r nifer llawn fanteisio ar gredyd pensiwn. Dywedodd Independent Age fod 61 y cant o'r rhai hynny sy'n gymwys yn cael y budd-dal ac y gallai tua 450,000 o bensiynwyr symud allan o dlodi yn y Deyrnas Unedig pe byddai'r niferoedd sy'n manteisio arno yn cynyddu i 100 y cant, gan leihau tlodi pensiynwyr i'w lefel isaf erioed. Cyfeiriodd strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl hŷn at y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf fel dull o fynd i'r afael â chynhwysiant ariannol pobl hŷn a gwella eu gallu i gael gafael ar gyngor a gwasanaethau ariannol priodol. Mae'r nifer isel parhaus sy'n manteisio ar hawliau ariannol yn awgrymu bod y rhaglen wedi methu â chyflawni ei tharged. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl hŷn yn ymwybodol o'u hawliau, yn gwybod sut i wneud cais gyda chymorth a chefnogaeth wedi'u targedu, a bod ganddyn nhw yr hyder i hawlio eu hawliadau? Diolch.
Yn sicr, mae Natasha Asghar yn nodi mater pwysig. Y person yng Nghymru sydd leiaf tebygol o fanteisio ar ei hawl i fudd-daliadau lles yw menyw sengl sy'n byw ar ei phen ei hun ac sydd dros 75 oed. Mae llawer iawn o resymau dros hynny, ac mae llawer ohonyn nhw wedi eu gwreiddio yn y profiad o rywedd y cyfeiriais ato yn fy ateb cynharach. Maen nhw'n fenywod y mae eu gwŷr wedi marw, ac a oedd yn dibynnu ar rywun arall yn y gorffennol i ofalu am faterion ariannol yn y cartref. Felly, mae llawer o waith y mae'n rhaid ei wneud i geisio rhoi hyder i'r bobl hynny i ddod ymlaen i hawlio'r pethau y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw. Dyna pam yr ydym ni'n buddsoddi symiau mor fawr o arian yn ein gwasanaeth cynghori sengl; cododd £42 miliwn mewn buddion heb eu hawlio yng Nghymru yn y cyfnod diweddar, sy'n dangos y gellir ei wneud, er bod angen llawer o ymdrech i'w wneud. Gyda rhai pobl hŷn yn arbennig, rydych chi'n ymdrin â materion balchder hefyd, a gall materion yn ymwneud â pheidio ag eisiau mynd i'r afael â system y maen nhw'n ofni y bydd yn eu gadael yn waeth eu byd yn hytrach na gwell eu byd. Wrth gwrs, un ffordd y gall pobl hŷn yng Nghymru fod yn well eu byd yw i Lywodraeth Geidwadol y DU beidio â thorri addewid etholiad arall a pheidio â bwrw ymlaen â'r clo triphlyg ar godi hawliau pensiwn, addewid y gwnaethon nhw siarad llawer amdano yn ystod ymgyrch etholiadol 2019—gwarant y byddai pensiynau yn codi yn unol a pha un bynnag o'r tri mesur hynny fyddai'r uchaf. Erbyn hyn, mae'n ymddangos nad yw'n gyfleus i'r Canghellor. Nid oedd yn gyfleus iddo dalu cymorth rhyngwladol, nid yw'n gyfleus iddo dalu credyd cynhwysol, ac erbyn hyn mae'n anghyfleus iddo dalu pensiynwyr hefyd. Bydd pobl yn ffurfio eu casgliadau eu hunain, Llywydd, ynghylch ble y mae gwerthoedd Llywodraeth o'r fath.