Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Diolch, Llywydd. Mae effaith ddigynsail COVID wedi codi drych ar ein cymdeithas. Yr hyn a welwn yn yr adlewyrchiad yw nid yn unig effaith y misoedd anodd diwethaf ar bawb, ond hefyd y gwahaniaeth yn yr effaith ar wahanol rannau o'n cymdeithas—y gwahaniaeth sy’n deillio o anghydraddoldeb economaidd. A dyw’r darlun a welwn ddim yn un newydd chwaith. Mae’n drasig o gyfarwydd, yn gywilyddus o gyfarwydd.
Rŷm ni wedi clywed cymaint gan wleidyddion o bob plaid am yr awydd i greu normal newydd, am y cyfle cwbl unigryw a achoswyd gan y pandemig i weld y craciau yn y systemau, y tyllau yn y rhwyd sydd i fod i gadw'r mwyaf bregus rhag syrthio i’r ffos. Dylai’r ffocws newydd hwn ar y problemau sydd wedi creu sefyllfa argyfyngus i ormod o deuluoedd Cymru arwain at drwsio’r systemau, gwella’r arfer, cau'r bylchau cyllido i sicrhau adferiad cynhwysol, sy’n rhoi gwerth cyfartal ar bob bywyd ym mhob cymuned yng Nghymru. Mae’n gyfle y mae’n rhaid i ni ei fachu.
Mae ymchwil diweddar wedi tanlinellu pam fod angen i ni weithredu nawr. Mae'r sefydliad astudiaethau cyllid, yr IFS, yn amcangyfrif y bydd 27 y cant o boblogaeth Cymru yn byw mewn tlodi cymharol, ac y bydd 39 y cant o blant yn byw mewn tlodi erbyn diwedd y flwyddyn. Mae adroddiad ar ôl adroddiad wedi amlygu sut mae tlodi yn cyfyngu cyfleon bywyd plant, yn gallu eu niweidio yn gorfforol, yn feddyliol, yn medru creu cadwyn anodd ei thorri am genedlaethau o broblemau iechyd, o ddiffyg cyfleon economaidd ac addysgiadol, o anawsterau personol a chymdeithasol.
Wedi i ni gael ein gorfodi drwy lens COVID i weld sut mae amddifadedd yn llythrennol yn gwestiwn o fyw a marw, mae'r ystadegau hyn yn codi mwy na chywilydd. Mae'n codi cyfog. Mae nifer y plant dros y Deyrnas Gyfunol sy'n byw mewn tlodi wedi cynyddu dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Polisïau llymder creulon Llywodraethau Torïaidd olynol San Steffan sy'n rhannol gyfrifol am hynny. Ond rhaid hefyd edrych yn fanylach ar y darlun yma yng Nghymru, lle bu, ac y mae, Llywodraeth Lafur mewn grym.
Mae lefel cyflogau yn ffactor bwysig yn y darlun. Nododd gwaith ymchwil gan Sefydliad Joseph Rowntree ym mis Ebrill y llynedd bod cyflogau yng Nghymru yn is nag ym mhob rhan arall bron o'r Deyrnas Gyfunol, gan gyfrannu at y lefelau cymharol uchel o dlodi mewn gwaith a chymaint o weithwyr allweddol a rheng flaen yn ennill llai na'r cyflog byw go iawn. A nawr, wedi i'r pandemig rwygo drwy ein cymunedau, y tlotaf o'n pobl sydd wedi dioddef waethaf. Mae ymchwil gan y Senedd hon wedi datgelu mai pobl o aelwydydd incwm isel sydd wedi bod yn fwyaf tebygol o golli eu swyddi ac o golli incwm.
Yn ddiweddar, tynnodd Sefydliad Bevan sylw at y ffaith bod chwarter aelwydydd Cymru wedi gweld eu hincwm yn gostwng yn ystod y pandemig ac, ar yr un pryd, mae costau byw wedi cynyddu mewn mwy na phedair o bob 10 aelwyd. O ganlyniad, mae nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau sy'n cefnogi'r rhai ar incwm isel wedi cynyddu'n sylweddol. Ym mis Ebrill, roedd dros 125,000 yn fwy o bobl yng Nghymru yn hawlio credyd cynhwysol nag ar ddechrau'r pandemig. Mae mwy a mwy o'n pobl yn disgyn i dlodi, ac mae'r ffaith bod Llywodraeth San Steffan am dynnu'r cynnydd o £20 yr wythnos i'r credyd cynhwysol yn ôl yn debyg o weld hyd yn oed yn fwy o aelwydydd yn profi trafferthion ariannol enbyd. Ac nid gor-ddweud yw hyn. Sefyllfa enbyd yw cael hi'n anodd talu am hanfodion bob dydd. Dyna yw'r sefyllfa ar gyfer 110,000 o aelwydydd—tua'r un faint â nifer yr aelwydydd yn Abertawe. Eto, aelwydydd â phlant sydd wedi cael eu taro'n drwm.
Felly, sut mae pobl wedi ymdopi â'r bwlch cynyddol rhwng incwm is a chostau byw uwch? Mae pobl yn mynd heb fwyd. Ac mae llawer o'r aelwydydd tlotach yn disgwyl y bydd yn rhaid iddynt wneud toriadau pellach yn y dyfodol: mynd heb wres, heb ddillad, heb olau neu drydan.
Beth, felly, medd y rhai sy'n dadansoddi'r ymchwil a'r ystadegau brawychus yma y dylid ei wneud? Beth sydd o fewn gallu Llywodraeth Cymru i'w newid? Mae un mesur, un cam penodol, fforddiadwy a syml i'w gyflawni yn dod i frig y mesurau posib dro ar ol tro: ehangu cymhwysedd a sicrhau mynediad at brydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn tlodi.
Nid yw dros 70,000 o blant sy'n byw o dan y llinell dlodi yng Nghymru ar hyn o bryd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Maen nhw'n colli mas ar rywbeth a fyddai yn gwneud gwahaniaeth sylfaenol a thrawiadol i'w bywydau ac yn lleddfu pwysau economaidd ar eu teuluoedd. Roedd dileu tlodi plant yn darged gan Lywodraeth Cymru—targed a ollyngwyd. Onid dyma'r darged bwysicaf a allai fod i unrhyw Lywodraeth?
Mae'r Llywodraeth hefyd wedi anwybyddu ei hadolygiad tlodi plant ei hun a oedd wedi canfod mai ehangu cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim i ystod ehangach o blant a phobl ifanc oedd yr un peth a fyddai'n helpu fwyaf.
Felly, mae'r dystiolaeth o blaid y mesur hwn yn gadarn. Ond mae'r record yn warthus. Mae Cymru yn darparu llai o brydau wedi'u coginio am ddim i'w phlant ysgol ar hyn o bryd nag unrhyw genedl arall yn y Deyrnas Gyfunol.
Mae'n siomedig hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ymestyn prydau ysgol am ddim yn barhaol i blant mewn teuluoedd heb unrhyw hawl i gael arian cyhoeddus oherwydd statws mewnfudo. Dyma rai o deuluoedd mwyaf bregus ein cenedl. Byddai hwn yn ddatganiad gwrth-hiliol pwerus ac yn helpu i gynyddu'r pwysau ar Lywodraeth Dorïaidd San Steffan i ddileu'r polisi anghyfiawn hwn. Mae'r gefnogaeth ar gyfer y mesur yn eang.