Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Beth sydd ar gymdeithas i'w phlant? Mae hynny'n sicr yn un o'r cwestiynau mawr sy'n rhannu gwleidyddion. Yn fy marn i, mae gan gymdeithas a Llywodraeth gyfrifoldeb ar y cyd dros fywydau a lles plant, a bydd eraill o'r farn fod syniad o'r fath yn warthus. Yn wir, mae'n ymddangos bod rhai gwleidyddion, gwleidyddion cyfoethog, sydd wedi cael yr holl lwc yn y byd, yn meddwl y dylid cosbi plant am dlodi eu rhieni, fod y pethau gwirioneddol braf yn rhy dda iddynt, ac er y gall rhai plant dyfu i fyny mewn cartrefi gyda digonedd o fwyd a phapur wal euraid, rhaid i'r gweddill wneud y tro gyda gweddillion neu friwsion oddi ar fwrdd y dyn cyfoethog.
Os oes un ddelwedd yn aros o'r llanast prydau ysgol am ddim yn Lloegr y llynedd, y ffotograffau a rennir ar y cyfryngau cymdeithasol o'r parseli bwyd annigonol yw honno: y llysiau wedi'u torri yn eu hanner a'u lapio mewn cling ffilm, am nad oedd y plant hynny'n haeddu llysiau cyfan, mae'n ymddangos, sy'n gwneud i chi ystyried yr ymdrech y byddai wedi'i chymryd i dorri a gwahanu'r darnau hynny o lysiau, yr amser a fuddsoddwyd er mwyn amddifadu plant o'r gyfran gyfan. Creulondeb di-hid y weithred ddiflas honno a'r diffyg ots neu bryder. Pasta a thiwna wedi'u tynnu o duniau a'u gosod yn y cydau tila rheini i sicrhau na allai gweddill y teulu elwa o'r prydau. Roedd fel pe bai'r holl beth i fod i ddileu pob gronyn o urddas i'r sawl a'i derbyniai. Roedd y ffotograffau hynny'n destun cywilydd i ni am eu bod yn datgelu rhywbeth dwfn yn ein cymdeithas, ein bod wedi cael ein magu gyda'n gilydd i dderbyn tlodi, cyhyd â'i fod yn digwydd draw acw. Ac os yw pobl yn dlawd, maent yn ei haeddu rywsut. Ac fe gymerodd bêl-droediwr, Marcus Rashford, dyn sy'n arwr o Sais, i godi digon o gywilydd ar y Llywodraeth Dorïaidd i wneud iddi newid ei pholisi.
Nawr, nid wyf yn gwadu am eiliad fod y sefyllfa'n well yng Nghymru, ond nid yw'n ddigon o hyd, a byddwn yn methu gwneud fy swydd pe na bawn yn tynnu sylw at hynny. Lywydd, rwyf wedi codi cwestiynau'n ddiweddar am effaith newyn plentyndod ar iechyd meddwl, y niwed cudd a grëir yn seice'r plentyn, y cysylltiadau ag euogrwydd a chywilydd sy'n datblygu o gwmpas bwyd oherwydd tlodi, gan fod a wnelo newyn cronig â mwy na boliau gwag yn unig; mae a wnelo â diffyg maeth i hunan-barch, methiant i fwydo dyheadau a llwgu potensial. Mae'n ymwneud â methu fforddio'r darn o pizza sydd gan eich ffrindiau, teimlo embaras am eich cinio, mynd i giwio ar yr ochr arall i'r neuadd oddi wrth eich cyd-ddisgyblion gyda'r plant eraill sy'n cael pryd ysgol am ddim, colli cinio'n gyfan gwbl efallai am nad ydych am wynebu'r gwawd. Fel y mae'r ymchwiliad i fwyd plant yn ei wneud yn glir, mae newyn yn niwed cymdeithasol. Mae'n achosi trallod, arwahanrwydd; gall sbarduno iselder, anobaith a straen i rieni a phlant. Mae'n effeithio ar bresenoldeb a chyrhaeddiad yn yr ysgol.
Nid yw'r lwfans prydau ysgol am ddim yng Nghymru yn ddigon. Edrychodd siarter ar gyfer newid y comisiynydd plant ar hyn, a chanfu ei swyddfa nad oedd gan blant sy'n cael £2.05 y dydd ddigon o arian ar gyfer byrbryd amser egwyl yn ogystal â phryd o fwyd amser cinio. Y darn o pizza y soniais amdano, mewn un ysgol mae'n costio £1.95, gan adael dim ond 10c ar gyfer byrbryd amser egwyl neu ddiod. Nid oedd yn ddigon ar gyfer y naill na'r llall. Dywedodd plentyn arall, ac rwy'n dyfynnu, 'Y cyfan y gallwn ei fforddio oedd un frechdan neu ffrwyth a diod, byth bryd o fwyd.' Dywedodd trydydd plentyn wrthynt eu bod yn gorfod llwgu tan amser cinio tra gallai pawb arall brynu'r hyn roeddent ei eisiau. Gorfod llwgu.
Ni ddylid ystyried bwyd yn achubiaeth neu'n foethusrwydd. Dylai fod yn llinell sylfaen, yr hyn sy'n hanfodol, yr hyn a rennir a'r hyn sy'n gymunedol. Hyd nes y cyflwynwn brydau ysgol am ddim i bawb, bydd y stigma'n parhau. Bydd gennych y ddau giw cinio yn y ffreutur. Bydd gennych y rhai sydd â modd o gael, a'r rhai sydd heb fodd o gael. Bydd gennym rai plant yn tyfu i fyny yn cysylltu bwyd ag embaras a chywilydd, a bydd gennym gymdeithas sy'n dal i gredu ei bod yn dderbyniol i anfon cydau o lysiau wedi'u torri i blant yn y man lle dylai tosturi fod.