10. Dadl Plaid Cymru: Prydau ysgol am ddim

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 14 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 6:03, 14 Gorffennaf 2021

Mewn byd ôl-COVID-19, dylai darparu bwyd ysgol am ddim fod yn fwy o flaenoriaeth nag erioed o'r blaen, am ei fod yn helpu ein cymdeithas ni i adeiladu yn ôl yn well. Mae rhaglenni bwyd ysgol effeithiol yn gallu helpu ein plant ni nid yn unig yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf o'u bywyd, ond hefyd y 7,000 diwrnod nesaf ar eu taith i fod yn oedolion. Ac rŷm ni wedi clywed y ffaith yma o'r blaen gan Luke Fletcher, ond rwy'n mynd i ailadrodd rhywbeth tebyg: mae ymchwil gan y GENIUS School Food Network yn 2020 yn dangos bod ansawdd deiet yn ystod plentyndod yn effeithio ar ddatblygiad pobl ifanc, yn effeithio hefyd ar eu cyflawniad addysgol, iechyd a lles yn y dyfodol, a hefyd yn dylanwadu ar ddeiet a risg o glefydau fel diabetes a chancr yn ddiweddarach mewn bywyd. Rhaid i ni felly gael ffyrdd effeithiol a chynaliadwy o helpu pobl ifanc, yn enwedig mewn ardaloedd o anfantais economaidd gymdeithasol, i gael deiet gwell.

Ond yn ogystal â hyn, Llywydd, mae yna fanteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Nododd yr Athro Roberta Sonnino o Brifysgol Caerdydd fod caffael cyhoeddus yn un o'r offerynnau mwyaf pwerus sydd ar gael i lywodraethau i lunio economïau bwyd cynaliadwy. Mae caffael bwyd yn ganran enfawr o'n GDP ni—rhyw 13 i 14 y cant, fel arfer, yng ngwledydd Ewrop. Felly, mae hi'n gyfle euraidd i ni benderfynu pa fath o farchnadoedd bwyd rŷm ni am eu creu, i bwy, a sut. Byddai sicrhau bod y Llywodraeth, awdurdodau lleol, a sefydliadau eraill yn prynu bwyd sy'n cael ei dyfu'n lleol ar gyfer prydau ysgol am ddim yn cryfhau yr economi leol hefyd. Gall cefnogi'r economi fwyd leol hefyd ddod â manteision economaidd ac amgylcheddol pwysig. Mae'r manteision yn cynnwys defnyddio tir fferm i dyfu llysiau a hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr i fod yn dyfwyr yn ogystal â bod yn gynhyrchwyr bwyd, a chig yn arbennig, o safon. Mae modd creu swyddi da drwy gynhyrchu, prosesu a gwerthu bwyd yn lleol. Byddai hyn yn creu hwb i'r economi leol ac yn sicrhau bod y bunt yn aros yn lleol.

Gwrandewch ar y data yma: mae'r sector cyhoeddus yn cyfrannu'n sylweddol at y gwariant ar fwyd a diod yng Nghymru—£78 miliwn y flwyddyn, yn ôl yr archwilydd cyffredinol. Dychmygwch y gwahaniaeth y gallai £78 miliwn ei wneud i'n cymunedau ni pe bai'r gyllideb gaffael gyfan yn cael ei gwario yng Nghymru ar gynnyrch o Gymru. Mae ymchwil ddiweddar gan y New Economics Foundation yn dangos bod buddsoddi £1 mewn cynlluniau caffael lleol yn rhoi gwerth £3 mewn gwerth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.