Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Byddaf yn pleidleisio yn erbyn cynnig Plaid Cymru heddiw oherwydd fy mod yn gwrthwynebu prydau ysgol am ddim i bawb. Ni chredaf mai darparu prydau ysgol am ddim i blant sy'n cael addysg breifat yw'r peth iawn i'w wneud na'r defnydd cywir o adnoddau—os edrychwch ar eich cynnig, mae'n dweud 'pawb'; nid yw'n dweud 'pawb yn y sector cyhoeddus', mae'n dweud 'pawb' ac mae 'pawb' yn cynnwys plant mewn addysg breifat—nid yn awr, ac nid yn y dyfodol. Ond pe bai Plaid Cymru yn dychwelyd gyda chynnig sy'n dweud 'diwygio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim fel bod pob disgybl ysgol mewn teulu sy'n cael credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol yn gymwys, ac ymestyn hawliau prydau ysgol am ddim yn barhaol i ddisgyblion mewn teuluoedd nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt', fe bleidleisiaf dros hynny.
Weithiau, gellir symleiddio dadl yn ôl yr hyn sy'n iawn a'r hyn nad yw'n iawn. Mae'n iawn cynnig prydau ysgol am ddim i blant ar gredyd cynhwysol a'r rhai nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt. Nid yw'n iawn i beidio â gwneud hynny. Crëwyd y Blaid Lafur i sefyll dros y tlawd a'r rhai y camfanteisir arnynt mewn cymdeithas. Bydd yna blant sy'n llwglyd. Mewn cymunedau dosbarth gweithiol fel fy un i, gelwir y pryd o gwmpas hanner dydd yn 'ginio' ('dinner')—i lawer o blant, dyma fydd prif bryd y dydd. Mae gormod o blant yn mynd i'r gwely'n llwglyd yn y nos. Mae un pryd da y dydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i blentyn. Hefyd, mae bod yn llwglyd yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol.
Mae'r hawl i fwyd wedi ei diogelu yn y DU gan y cyfamod rhyngwladol ar hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Mae'r confensiwn ar hawliau'r plentyn hefyd yn ategu cyfrifoldeb y DU i sicrhau bod gan bob plentyn safon byw ddigonol, gan gynnwys yr hawl i fwyd. Er bod y DU wedi cadarnhau'r ddau gonfensiwn, nid yw wedi'u hymgorffori mewn cyfraith ddomestig, yn anffodus. Mae hynny'n golygu na ellir eu gorfodi'n gyfreithiol yn llysoedd y DU. Serch hynny, mae newyn plentyndod yn dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y mae ein Llywodraeth dan rwymedigaeth i fynd i'r afael ag ef gan ddefnyddio cymaint o adnoddau ag sydd ar gael iddi. Mae'r hawl i fwyd hefyd yn ymwneud â sicrhau bod pawb yn gallu cael bwyd heb golli urddas.
Rwy'n siŵr y bydd y Llywodraeth yn sôn am y gost a'r anhawster y mae'n eu hwynebu. Rwyf wedi gwrando'n astud ers dros flwyddyn bellach pan ddywedir wrthym mai ni sydd wedi rhoi'r cymorth ariannol mwyaf hael ym Mhrydain i fusnesau yn ystod y pandemig. Rydym wedi darparu rhyddhad ardrethi busnes i fanwerthwyr bwyd llai. Rydym wedi mynd ati i ddod o hyd i arian i gefnogi tai ar ochr y galw sy'n chwyddo prisiau tai. Rydym wedi rhoi cefnogaeth sylweddol i gynlluniau economaidd na allent byth weithio. Nid ein bod wedi buddsoddi ynddynt a'u bod yn bosibl, a'n bod ychydig yn anlwcus. Ni wnaf eu henwi yn awr ond gallaf enwi rhai na allent byth weithio; nid oedd yn bosibl iddynt weithio.
Felly, nid wyf wedi fy argyhoeddi'n llwyr o hyd nad yw hyn yn fforddiadwy. Yn wir, rydym newydd sôn am £75 miliwn ar gyfer teithio llesol. Nawr, dyma lle daw'n fater o flaenoriaethau. A fyddai'n well gennych weld yr arian hwnnw'n cael ei wario ar deithio llesol neu ar fwydo plant ysgol? Rwy'n ffafrio bwydo plant ysgol, a chredaf mai dyna pryd y daw'n fater o beth yw eich blaenoriaethau. Felly, nid wyf wedi fy argyhoeddi nad yw hyn yn fforddiadwy.
Un o'r prif resymau pam y mae cynifer yn ein cymdeithas yn byw mewn caledi a pham na all cynifer o bobl fforddio bwyd yw oherwydd ein bod yn byw mewn system sydd wedi'i gwreiddio mewn anghydraddoldeb strwythurol. A gadewch i ni fod yn deg, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn feirniadol iawn o doriadau credyd cynhwysol, a hynny'n gwbl briodol, ac maent wedi beio'r Ceidwadwyr yn weddol reolaidd, os nad yn rheolaidd iawn, am dorri £20 oddi ar y credyd cynhwysol, ac mae hynny'n anghywir. Ond mae hi'r un mor anghywir peidio â bwydo plant sydd ar gredyd cynhwysol, hyd yn oed yn fwy felly yn awr pan fo'r credyd cynhwysol £20 yn llai. Ac mae gennym system fudd-daliadau gosbol, sancsiynau ar y rhai sy'n dibynnu ar fudd-daliadau, a gorfod aros am bum wythnos am gredyd cynhwysol. Dyna pam fod llawer o blant a theuluoedd heb gyllid cyhoeddus ar gael iddynt; maent yn aros am bum wythnos i gael eu credyd cynhwysol. Nid oes ganddynt arian yn dod i mewn o unrhyw le. Sut y maent i fod i oroesi, nid wyf yn hollol siŵr.
Roedd yr isafswm cyflog i fod i ddarparu digon i deulu fyw arno. Yn anffodus, nid dyma'r cyflog byw gwirioneddol, ac rwyf wedi eich diflasu yma fwy nag unwaith yn siarad am ba mor bwysig yw'r cyflog byw gwirioneddol, felly ni wnaf hynny yn awr. A wnaethoch chi ym Mhlaid Cymru ychwanegu'r drydedd eitem honno am ddarparu prydau ysgol am ddim sy'n cynnwys plant mewn ysgolion preifat er mwyn atal unrhyw Aelodau Llafur rhag pleidleisio drosto? Os mai dyna oedd y nod, mae'n debygol eich bod wedi llwyddo. Ond mae darparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion y mae eu rhieni ar gredyd cynhwysol ac nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt yn un o'r pethau y crëwyd y Blaid Lafur i'w gwneud. Os na allwn wneud hynny, pam ein bod yn bodoli?