Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Diolch, Lywydd. Diolch i Blaid Cymru am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr heddiw, gan ei bod yn tynnu sylw at yr angen dybryd—yr angen gwirioneddol—i fynd i'r afael â thlodi yma yng Nghymru, a'r angen i amddiffyn a gofalu am blant mewn angen. Mae'n anodd iawn canolbwyntio a chael addysg dda pan fydd eich stumog yn wag, a dyna pam rwy'n credu bod cefnogaeth gyffredinol bellach i brydau ysgol am ddim i'n disgyblion tlotaf. Ond Lywydd, byddwn yn dadlau nad budd i bawb yw'r ateb. Wrth gwrs, mae gan y wladwriaeth ddyletswydd foesol i ddiogelu'r rhai sy'n syrthio islaw'r llinell dlodi, ond nid cyfrifoldeb y wladwriaeth yw bwydo plant pawb. Byddai prydau am ddim i bawb yn arwain at sefyllfa lle mae pobl ar incwm cymharol isel yn talu treth ychwanegol i ariannu prydau am ddim i deuluoedd sy'n gallu fforddio cyfrannu at y system. Mae'r system les yn rhwyd ddiogelwch i ddal y rhai sy'n agored i niwed cyn iddynt ddisgyn. Dylai ein dinasyddion gael urddas a rhyddid i ddewis sut y maent yn gwario eu harian a sut i fagu eu plant eu hunain. Os gall teulu fforddio bwydo eu plant, dylent gael rhyddid i wneud hynny.
Mae'r 16 mis diwethaf wedi gweld cyfradd eithriadol o gyfyngiadau ar y rhyddid a'r hawliau rydym i gyd yn eu cymryd yn ganiataol; mae llawer wedi bod am resymau da, i gadw pobl yn ddiogel, ond rhaid inni beidio â meddwl y bydd y cyhoedd yn goddef gorofal maldodus o'r fath yn hirdymor. Nid rôl y Llywodraeth yw dweud wrth deuluoedd sut y dylent fagu eu plant. Mae angen i'r Llywodraeth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon a dibynadwy, gwneud y mwyaf o fuddsoddiad i greu swyddi, a dyna sut mae codi teuluoedd allan o dlodi, nid drwy ymyriadau biwrocrataidd maldodus. Mae gwelliant y Ceidwadwyr yn dileu'r cyfeiriad at brydau ysgol am ddim i bawb, ond nid wyf am dynnu o weddill y cynnig i ymestyn prydau ysgol am ddim i'r aelwydydd sydd ar gredyd cynhwysol—bydd 16,400 yn fwy o aelwydydd yn gymwys, sy'n golygu y gallai'r plant hynny fod mewn sefyllfa well i ddysgu. Ond dylem ofalu rhag goreuro budd-daliadau fel credyd cynhwysol fel hyn yn rhy aml, gan ei fod yn creu ymyl clogwyn a'r risg y byddant yn well eu byd yn byw ar y rhwyd ddiogelwch yn hytrach na chael yr urddas a'r fantais y mae swydd a chyflog misol yn eu cynnig.
Gan ein bod yn trafod prydau ysgol am ddim, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i wella'r ffordd y maent yn prosesu data derbyniadau i ysgolion fel bod ysgolion yn cael eu hariannu ar sail nifer y disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim, nid y nifer a oedd ganddynt ddwy flynedd yn ôl. Mae gan Lywodraeth Cymru system ariannu hurt o fiwrocrataidd, sy'n amddifadu disgyblion o'r cymorth a'r ymyrraeth wedi'u targedu y maent eu hangen. Rydym yn byw yn yr unfed ganrif ar hugain, Lywydd; dylai system o'r fath fod wedi gadael ein hystafelloedd dosbarth gyda'r cyfrifiadur BBC BASIC.
Lywydd, ni allaf adael i'r ddadl hon basio heb sôn, ochr yn ochr â phrydau ysgol am ddim, am fanteision academaidd chwaraeon a gweithgarwch corfforol, pethau eraill y profwyd eu bod yn gwella cyrhaeddiad academaidd ac yn gwella gallu disgyblion i ganolbwyntio yn yr ystafell ddosbarth. Gall hyd yn oed cymryd rhan mewn rhaglenni fel y filltir ddyddiol, gweithgaredd y soniwyd amdano'n gynharach, gael effaith fawr, a gwn hynny o ysgol gynradd fy mab fy hun. Felly, os ydym o ddifrif am y manteision y clywsom amdanynt yn y Siambr heddiw, dylai Llywodraeth Cymru neilltuo amser a darparu cymorth ariannol priodol i alluogi ein hysgolion i annog chwaraeon a ffyrdd egnïol o fyw ymhlith ein pobl ifanc ochr yn ochr â phrydau ysgol am ddim. Ac roeddwn yn falch fod y Gweinidog wedi dweud rhywbeth am hynny yn gynharach, ond byddwn yn eich annog i fynd ati'n gyflym, Weinidog, gan fod hyd yn oed mwy o fanteision i weithgarwch corfforol ar ôl y pandemig na'r hyn a amlinellwyd gennym heddiw.
Ond y peth gorau y gallwn ei wneud i blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw mynd i'r afael â thlodi drwy ddenu mwy o fuddsoddiad sy'n creu swyddi gweddus sy'n talu'n dda—cyfleoedd i deuluoedd gamu ymlaen mewn bywyd. Nododd adolygiad o'r dystiolaeth ar dlodi plant a gyflawnwyd gan Lywodraeth y DU mai un o'r ffactorau pwysicaf sy'n cyfrannu at dlodi plant yw bod heb waith yn hirdymor ac enillion isel yng nghartref y plentyn. Mae 38 y cant o blant sy'n profi tlodi parhaus yn byw ar aelwydydd heb waith, ac er bod bwriadau da i'r ddadl hon, Lywydd, dyna pam y mae prydau ysgol am ddim yn bolisi i drin y symptom. Mae arnom angen ymyrraeth feiddgar i fynd i'r afael ag achosion dwfn tlodi, fel y gall pobl ifanc wneud yn dda yn yr ysgol a mynd ymlaen i gael swyddi sy'n talu'n dda. Mewn 22 mlynedd o reolaeth Lafur rydym wedi gweld economi Cymru'n aros yn ei hunfan, ac er gwaethaf adroddiadau sy'n llawn bwriadau da a pholisïau tymor byr, ni fu gwelliant o ran symudedd cymdeithasol. Weinidog, dyma'r adeg i weithredu ac adeiladu'r economi ddeinamig a fydd yn helpu teuluoedd tlotach i gamu ymlaen mewn bywyd.