Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Mae'n dorcalonnus ein bod yn cael y ddadl hon heddiw, ac nid Llywodraeth Cymru yn unig sydd â llawer i ateb drosto, mae gan Lywodraeth y DU lawer i ateb drosto hefyd. Mae'r syniad o blant llwglyd yng Nghymru a theuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd rhoi bwyd ar y bwrdd yn fethiant. Mae'n fethiant ar ran y Llywodraeth ac mae'n fethiant ar ran systemau cymdeithasol ac economaidd. Flynyddoedd lawer yn ôl, roeddwn yn un o'r plant hynny. Roeddwn yn cael prydau ysgol am ddim am beth amser. Mae fy mhrofiadau wedi fy arwain i'r casgliad y dylai prydau ysgol am ddim fod yno i bawb yn y pen draw. Ar wahân i'r effaith glir y mae prydau ysgol am ddim yn ei chael ar dlodi ac anghydraddoldeb economaidd, yn ogystal â lles disgyblion, mae hefyd yn cael effaith glir ar gyrhaeddiad addysgol. Wedi'r cyfan, sut y gall dysgwr ganolbwyntio yn yr ysgol os yw'n llwglyd?
Mae hawl i bawb gael prydau ysgol am ddim yn gwella cyrhaeddiad i raddau mwy ymhlith disgyblion o deuluoedd llai cefnog nag ymhlith disgyblion o deuluoedd mwy cefnog. Yng Nghymru, hanner cymaint o ddisgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o gymharu â phlant nad oeddent yn gymwys a gyrhaeddodd drothwy cyrhaeddiad addysgol lefel 2 cyfnod allweddol 4, ac maent yn llawer mwy tebygol o gael eu gwahardd o'r ysgol. Yn y tymor byr, mae plant o gartrefi heb gyflenwad diogel o fwyd yn fwy tebygol o ddioddef colledion addysgol, gan lesteirio eu cynnydd a'u datblygiad. Mae hyn yn anochel yn rhoi pwysau a straen ychwanegol ar blant sy'n byw mewn tlodi. Mae plant sy'n llwglyd yn llawer mwy tebygol o ddioddef gorbryder a straen difrifol, ac mae cysylltiad profedig rhwng bod yn llwglyd yn gynnar mewn bywyd ac iselder a phyliau o fod eisiau cyflawni hunanladdiad, yn ogystal â'r tebygolrwydd o ddatblygu afiechydon cronig fel asthma. Yn hollbwysig, er mwyn i'r ymennydd allu tyfu'n iawn mewn plant, rhaid iddynt gael maethynnau penodol. Felly, bydd sicrhau bod ein plant yn cael y maethynnau hyn drwy allu cael prydau maethlon hefyd yn sicrhau lles cenedlaethau'r dyfodol, gan atal afiechydon difrifol a chyflyrau cronig yn ogystal â sicrhau bod yr ymennydd yn datblygu'n iach. Mae'r dystiolaeth yn glir: mae plant nad ydynt yn bwyta deiet iach yn fwy tebygol o ddioddef problemau wrth iddynt heneiddio. Byddant yn fwy tebygol o ddioddef o glefydau fel canser, diabetes, clefyd y galon a gordewdra.
Wrth gwrs, mae pandemig COVID-19 wedi golygu bod llawer o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd bwydo eu plant, ac mae'r newidiadau dramatig mewn addysg wedi golygu bod llawer o blant oed ysgol ar ei hôl hi, gan lyffetheirio plant dosbarth gweithiol sydd eisoes yn ceisio dal i fyny â chyfoedion cefnog. Mae plant sy'n byw mewn tlodi wedi dioddef ergyd ddwbl fan lleiaf i'w llesiant, a byddai darparu prydau ysgol yn caniatáu iddynt wella a ffynnu. Os ydym am i blant a phobl ifanc ffynnu mewn addysg a thyfu i fod yn oedolion iach, mae angen maeth arnynt. Mae'n syml. Bydd goblygiadau cost tlodi a phlant llwglyd, yr effaith ar iechyd, yn gorfforol ac yn feddyliol, yn ogystal ag ar gyrhaeddiad addysgol, o beidio â bwydo plant yn llawer mwy na'r gost o ddarparu prydau ysgol am ddim. Drwy ddarparu prydau maethlon i bob plentyn, yn enwedig pawb sy'n byw mewn tlodi, a thrwy gaffael y prydau hynny'n lleol, gallwn hybu'r economi a sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn gallu ffynnu a thyfu, beth bynnag fo'u cefndir. Byddwn yn gobeithio y byddai Llywodraeth Lafur Cymru yn cytuno. Nid oes diben codi ar ein traed a dweud ein bod yn cynnig y ddarpariaeth orau o brydau ysgol am ddim yn y DU. Yn syml iawn, nid yw'r gorau'n ddigon da. Rydym wedi'i glywed dro ar ôl tro yn y Siambr dros y blynyddoedd—iaith blaenoriaethau yw crefydd sosialaeth. I mi a llawer o bobl eraill, mae hynny'n dal i olygu rhywbeth.