Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Diolch, Llywydd. Mae prydau ysgol am ddim yn parhau i fod yn elfen bwysig o'n hagenda ar gyfer trechu tlodi. Rŷn ni wedi gweld eu pwysigrwydd yn glir yn ystod y 15 mis heriol diwethaf. Yn anffodus, mae nifer y dysgwyr sy'n cael prydau ysgol am ddim wedi cynyddu drwy gydol y pandemig. Mae data dros dro diweddaraf y cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion 2021 yn dangos bod 108,203 o ddisgyblion yn gymwys ar hyn o bryd. Mae hyn yn gynnydd o bron i 18,000 o ddisgyblion mewn blwyddyn yn unig. Does dim modd anwybyddu realiti hynny.
Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i ymateb i'r cynnydd yn y galw am brydau ysgol am ddim yn sgil y pandemig ac i adolygu'r meini prawf cymhwystra, gan ymestyn yr hawl mor bell ag y mae'n hadnoddau ni'n caniatáu. Rydw i wedi dwyn dechrau'r gwaith yma ymlaen yn seiliedig ar ddata dros dro, nid data wedi ei gadarnhau, felly rydym ni eisoes wedi cychwyn ar y gwaith, gan osod strwythur a chwmpas yr adolygiad. Bydd gwaith ar draws y Llywodraeth i weld beth yw'r goblygiadau o ran polisi a chost ar gyfer mentrau a grantiau eraill sy'n defnyddio gwybodaeth am gymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim.
Rŷn ni hefyd yn edrych ar ymchwil a thystiolaeth, fel y gwaith a gomisiynwyd gan Sefydliad Bevan a Chynghrair Gwrth-dlodi Cymru. Mae Sefydliad Bevan wedi cynnal eu hamcangyfrif eu hunain o'r gost o ymestyn y ddarpariaeth, sydd ar hyn o bryd o leiaf yn gryn bellter o'n hamcangyfrifon ni, ond rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd clir i fy swyddogion fod yn rhaid iddynt weithio'n agos ag ymchwilwyr Policy in Practice, a wnaeth y gwaith dadansoddi, i gael gwell dealltwriaeth o'u methodoleg a'u prisiad fel rhan o'n hadolygiad ni. Rwy'n disgwyl i'r adolygiad gael ei gwblhau yn yr hydref, ac fe fyddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ddechrau tymor newydd y Senedd ym mis Medi.