Part of the debate – Senedd Cymru am 7:05 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Gall yr Aelodau fod yn sicr y byddaf yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y gallu i ddarparu'r cymorth hwn, a rhaid iddo fod ar gael mewn modd amserol a chynaliadwy. Gwyddom fod y pandemig wedi ei gwneud yn anos darparu'r cymorth bydwreigiaeth ac ymweliadau iechyd hanfodol gan unigolion penodol ar ôl rhoi genedigaeth. Byddaf yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â sut y mae hynny'n gweithio ar lawr gwlad yn awr, gan ddilyn y canllawiau mwy hyblyg a gyhoeddwyd bellach. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod bod profiadau wedi bod yn anos i gymaint o deuluoedd drwy gydol y pandemig, ac efallai eu bod wedi cynyddu'r risg o drawma geni i rai teuluoedd. Yn fwy nag erioed, mae angen i fenywod gael cyfle i drafod eu profiadau a'u trawma, er mwyn deall yn llawn beth a ddigwyddodd ac atal effaith fwy hirdymor. Mae cyfyngiadau ar ymweld ag unedau mamolaeth yn ystod y pandemig wedi bod mor anodd i rieni newydd, yn enwedig os yw'r enedigaeth wedi bod yn drawmatig. Mae'n ofynnol i fyrddau iechyd barhau i ystyried amgylchiadau unigol, gan gynnwys anghenion iechyd meddwl, ond mae angen inni fod yn siŵr fod hyn yn gweithio fel y dylai, ac felly gofynnwyd i fyrddau iechyd adolygu cyfyngiadau ymweld ar sail barhaus. Mae profion llif unffordd hefyd ar gael bellach mewn unedau mamolaeth i gefnogi gwell mynediad.
Serch hynny, er gwaethaf yr holl newidiadau lliniarol hyn, gwn y bydd profiadau'n anos i ormod o bobl. Byddai'n anghywir peidio â chydnabod hynny, ac mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod y gall effeithiau trawma geni ddigwydd ymhell ar ôl yr enedigaeth, yn bennaf oherwydd na fydd pob menyw yn cael diagnosis o anhwylder straen wedi trawma o fewn y ffrâm amser ar gyfer gwasanaethau amenedigol. Gwn fod pob bwrdd iechyd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i gynorthwyo menywod i drafod profiadau a'u hatyfeirio yn ôl yr angen, ond rwyf am weld hyn yn cael ei ddatblygu er mwyn edrych ar lwybrau ymarfer gorau i fenywod a theuluoedd yng Nghymru. Mae gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol, fel gwasanaethau iechyd meddwl eraill, wedi parhau drwy gydol y pandemig. Ledled Cymru, mae timau amenedigol cymunedol wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod cymorth ar gael er gwaethaf COVID-19, yn ddigidol a dros y ffôn, ond gwyddom fod darparu cymorth wyneb yn wyneb pan fo'i angen yn glinigol yn hanfodol.
Ceir rhai themâu ehangach a datblygiadau mwy hirdymor y credaf y bydd gan Aelodau ddiddordeb ynddynt hefyd. Er enghraifft, rydym yn buddsoddi yn Straen Trawmatig Cymru, menter sy'n anelu at ddiwallu anghenion rhieni sydd wedi profi trawma. Mae rhywfaint o'r gwaith hwn wedi'i gyflymu oherwydd y pandemig. Mae pecyn hyfforddi sefydlogi emosiynol hefyd wedi'i ddatblygu i'w ddefnyddio ar draws sectorau. Nod yr hyfforddiant yw cynorthwyo pobl i deimlo'n fwy hyderus i helpu pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan drawma, ac rwy'n falch o ddweud, fel rhan o'r gwaith hwn, fod ffrwd waith arbenigol yn cael ei datblygu ar iechyd meddwl amenedigol. Bydd hyn yn gwella effeithiolrwydd therapïau seicolegol i bobl sy'n profi trawma ac ofn wrth roi genedigaeth. Mae ymwelwyr iechyd, bydwragedd, staff newyddenedigol a'r trydydd sector i gyd yn cyfrannu at sut y bydd hyn yn gweithio yn y dyfodol, gyda'r nod o ddatblygu llwybr trawma amenedigol. Rydym i gyd am wella'r pontio rhwng gwasanaethau o fewn y llwybr, yn ogystal â chynyddu capasiti gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol ac anarbenigol.
Mae £42 miliwn ychwanegol wedi'i glustnodi ar gyfer cymorth iechyd meddwl eleni, gyda £7 miliwn o'r arian hwnnw wedi'i dargedu at wella meysydd blaenoriaeth allweddol, gan gynnwys iechyd meddwl amenedigol. Fel y soniodd Buffy yn ei haraith, mae agor yr uned arbenigol i famau a babanod ym mae Abertawe yn gam sylweddol ymlaen. Bydd yn helpu mamau newydd i gael y cymorth arbenigol y mae ganddynt hawl i'w ddisgwyl yn nes adref. Mae agor yr uned yn gam sylweddol tuag at ddarparu gwell cymorth iechyd meddwl amenedigol i famau yng Nghymru, a byddwn yn monitro'n ofalus y newid i ddarparu gwasanaeth amenedigol i gleifion mewnol yn ne Cymru er mwyn sicrhau bod yr uned yn cyflawni fel y dylai.
Rwyf wedi ymrwymo'n bersonol i ysgogi'r gwaith pellach sydd ei angen i sicrhau bod y ddarpariaeth hon hefyd ar gael i famau sy'n byw yng ngogledd Cymru. Bu ymgysylltu sylweddol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a GIG Lloegr ynghylch uned ar y cyd i gynnig darpariaeth i fenywod yng ngogledd Cymru. Bydd rhwyddineb mynediad i fenywod o ogledd Cymru ac anghenion y Gymraeg yn allweddol i'r datblygiad hwn.
Rwyf hefyd yn falch o roi gwybod i'r Aelodau fod byrddau iechyd bellach wedi ailddechrau eu gwaith yn gwella cymorth amenedigol cymunedol. Torrodd y pandemig ar draws yr ymdrech i gyrraedd safonau a osodwyd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion, ond mae'r gwaith gwella hanfodol hwnnw bellach yn parhau. Mae gennym hefyd raglen dreigl o archwiliadau gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion i ddeall cydymffurfiaeth ac i ddeall lle mae angen gwneud mwy o waith.
Yn rhy aml, nid yw lleisiau menywod wedi cael eu clywed ar faterion sy'n ganolog i'w bywydau. Ni allwn adael i'r pandemig grebachu'r cynnydd rydym wedi dechrau ei wneud, yn enwedig ym maes iechyd meddwl amenedigol. Rwy'n benderfynol o'n gweld yn dal i fyny ac nad ydym yn gadael unrhyw riant ar ôl yn ein dyletswydd i gefnogi ac amddiffyn teuluoedd pan fyddant yn fwyaf agored i niwed. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i Buffy am gyflwyno'r ddadl hollbwysig hon heddiw. Gwn y bydd mamau dirifedi a theuluoedd cyfan yn ddiolchgar am ei harweiniad yn rhoi hyn ar yr agenda heddiw a chwalu'r rhwystrau i drafod. Yn bersonol, byddaf yn falch iawn o'i gweld yn parhau i roi pwysau arnaf fi a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r mater hwn. Diolch yn fawr.