Part of the debate – Senedd Cymru am 7:02 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Buffy Williams am gyflwyno'r ddadl heddiw, a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Mae'n bwnc sy'n agos at fy nghalon. Yn wir, un o'r pethau olaf a wneuthum yn y Siambr hon yn y Senedd flaenorol oedd helpu i gyflwyno dadl ar iechyd meddwl amenedigol. Mae'n bwnc sy'n haeddu lle pendant ar frig ein hagenda fel Llywodraeth, ac erioed yn fwy felly nag yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn. Rydym yn parhau i glywed am gynifer o deuluoedd newydd yn dechrau ar eu teithiau ar wahân a heb y gefnogaeth y gallent fod wedi'i disgwyl fel arall.
Rwy'n talu teyrnged i Buffy ac i Laura am rannu eu straeon a'u profiadau. Rwy'n gwybod nad yw'n beth hawdd i'w wneud. Mae rhan enfawr o fynd i'r afael yn briodol ag anhwylder ôl-enedigol ac anhwylder straen wedi trawma yn ymwneud â mynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig â hyd yn oed ei drafod. Felly, bydd yr hyn rydych yn ei wneud heddiw yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Clywn straeon di-rif yn ymwneud â staff meddygol, ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr sy'n llawn bwriadau da wrth iddynt dybio ar unwaith mai llawenydd yn unig a ddaw yn sgil genedigaeth newydd. Mae'n ei gwneud yn anodd, yn amhosibl, i rai ddweud 'na', nad oedd pethau'n iawn, eu bod yn parhau i beidio â bod yn iawn a bod angen help arnynt. Hyd yn oed pan fydd profiad anodd wedi'i gydnabod, fe glywch yn aml, fel y dywedodd Buffy, 'Onid oeddech chi'n lwcus?', pan fyddwch chi, mewn gwirionedd, yn teimlo'n unrhyw beth ond lwcus.
Rhaid imi ddweud, mae hyn yn rhywbeth rwy'n ei adnabod fy hun, ar ôl profi genedigaeth gyntaf drawmatig. Roedd yn brofiad sy'n byw gyda mi hyd y dydd heddiw. Nid yw eglurder a thrawma'r munudau hynny, a'r dyddiau a'r wythnosau a ddilynodd, yn diflannu. Bydd y profiadau hynny a'r lleill y clywsom amdanynt heddiw yn llywio'r gwaith rwy'n ei wneud yn y maes hwn bob dydd, a dyma'r sylfaen y byddaf yn ei defnyddio i fesur y gwasanaethau sydd ar gael i fenywod yng Nghymru.
Fel y dywedodd Buffy, mae'n hanfodol cydnabod a chyfeirio at y cymorth sydd ar gael i unigolion pan fydd angen cymorth arbenigol arnynt. Yn dilyn diagnosis, bydd mamau'n cael cynnig amrywiaeth o ymyriadau yn dibynnu ar ddifrifoldeb eu hanghenion. Mae hyn yn cynnwys therapi gwybyddol ymddygiadol. Mae gwasanaethau'n gweithio gyda'r trydydd sector hefyd a gallant gyfeirio partneriaid at fudiadau gwirfoddol sy'n cynnig cymorth ar gyfer pobl sy'n dioddef yn sgil gweld digwyddiadau trawmatig yn digwydd i eraill. Ac mae'n hanfodol ein bod hefyd yn cydnabod effaith genedigaeth drawmatig ar bartneriaid ac eraill, a diolch, Huw, am eich sylwadau ac am hyrwyddo'r sefydliad yn eich etholaeth.