Part of the debate – Senedd Cymru am 6:51 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Mae llawer o grwpiau a sefydliadau ar gael i gefnogi mamau drwy'r cyfnod anodd iawn hwn, ond pan fyddwch yn gadael gofal y gweithwyr meddygol proffesiynol, ac yn ôl yn yr uned deuluol, rydych yn dechrau poeni; poeni eich bod yn fethiant, poeni eich bod yn siomi pobl. Rydych chi'n teimlo na allwch ofyn am help heb gael eich beirniadu ac rydych chi'n dechrau teimlo, lle bynnag y trowch, nad oes neb yn deall mewn gwirionedd. Faint o famau sy'n teimlo felly ar hyn o bryd? Faint o famau a theuluoedd sy'n cael eu gadael i frwydro ar eu pen eu hunain? Faint o blant fydd yn teimlo'r effaith negyddol hon, neu'n tyfu i fyny â pherthynas dan straen yn yr uned deuluol?
Mae gwasanaethau cymorth ar gael i fenywod yng Nghymru sy'n dioddef anhwylder straen wedi trawma ôl-enedigol drwy dimau iechyd meddwl amenedigol a sefydlwyd ym mhob bwrdd iechyd lleol. Mae pob bwrdd iechyd lleol ledled Cymru'n cynnig lefelau amrywiol o gymorth i famau a theuluoedd sydd angen cymorth iechyd meddwl. Mae gofyn cael atgyfeiriad drwy feddyg teulu neu ymwelydd iechyd er mwyn cael mynediad at y gwasanaethau hyn. Yn anffodus, mae rhai mamau'n cael diagnosis anghywir o iselder ôl-enedigol; mae angen inni sicrhau bod ein meddygon teulu, ein bydwragedd a'n hymwelwyr iechyd yn cael yr adnoddau a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i ofalu yn y ffordd orau am y mamau mwyaf agored i niwed ar adeg yn eu bywydau pan ddylent deimlo'n ddiogel, yn fodlon a'u bod yn cael gofal.
Wedi dweud hynny, rwy'n croesawu'r uned newydd i famau a babanod ym mae Abertawe. Mae hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir mewn perthynas ag iechyd a lles mamau cyn ac ar ôl iddynt roi genedigaeth. Hyd yn hyn, byddai mamau sydd wedi bod angen gofal iechyd meddwl dwys yn cael eu derbyn i gyfleusterau iechyd meddwl acíwt heb eu babanod, neu byddai angen iddynt deithio i uned arbenigol y tu allan i Gymru. Rhaid inni wneud mwy i fynd i'r afael â stigma iselder ôl-enedigol ac anhwylder straen wedi trawma ôl-enedigol. Rhaid inni sicrhau bod hyder gan famau i ymddiried yn ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gwych. Credaf fod yr uned i famau a babanod ym mae Abertawe'n gwneud hyn, a dylid cael unedau tebyg iddi ar draws pob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru.
Hoffwn dalu teyrnged i'r holl staff mamolaeth yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod y tîm a ofalodd amdanaf fi wedi mynd y tu hwnt i alwad dyletswydd. Ceir llawer o grwpiau cymorth, fel Mums Matter gan Mind Cymru, a thra'n bod yn dathlu cynnydd mewn gofal arbenigol ym maes iechyd meddwl amenedigol, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud mwy, mae'n hanfodol ein bod yn gwrando'n well, ac mae'n hanfodol ein bod i gyd yn gweithio i gael gwared ar yr holl stigma sy'n gysylltiedig ag unrhyw fathau o salwch meddwl. Rwy'n gobeithio y bydd mamau sy'n dioddef gydag unrhyw fath o anhwylder straen wedi trawma yn cael cryfder o wybod nad ydynt ar eu pen eu hunain. Estynnwch allan os gwelwch yn dda. Gofynnwch am help. Hoffwn annog y Gweinidog i adeiladu ar arferion da uned mamau bae Abertawe, a sicrhau bod mamau sy'n dioddef unrhyw fath o anhwylder straen wedi trawma neu iselder yn cael eu cefnogi'n well yn y dyfodol.