Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Iawn. Diolch yn fawr iawn. Mae'r neges fod trafnidiaeth gyhoeddus yn flaenoriaeth yn un y dylid ei chroesawu'n ddiffuant. Fodd bynnag, mae'r amserlenni sy'n gysylltiedig â'r strategaeth seilwaith, gan gynnwys gwelliannau trafnidiaeth gyhoeddus, yn hir ac ni allant fynd i'r afael â phroblemau uniongyrchol. Sut y byddwch yn ystyried yr oedi hwn, gan gofio'r angen i sicrhau bod bylchau mewn anghenion seilwaith yn cael eu llenwi yn y cyfamser? A fydd hyn yn rhan o'r broses adolygu? Ac a wnewch chi ymrwymo i fwrw ymlaen ag astudiaethau i brosiectau, fel ffordd osgoi Cas-gwent a chyffordd traffordd ar yr M48, lle roedd tollau pont Hafren yn arfer bod, i leddfu tagfeydd ar yr M4? Diolch.