1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, yn 2019, cyhoeddodd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru adroddiad o'r enw '"Are we there yet?" A Roadmap to Better Infrastructure for Wales'. Roedd yn seiliedig ar arolwg sylweddol o waith yn y sector busnesau bach a chanolig a edrychai ar rôl seilwaith. Canfu'r arolwg fod 86 y cant wedi nodi bod buddsoddi yn y seilwaith ffyrdd yn eithaf pwysig neu'n bwysig iawn, gan olygu mai hon yw'r flaenoriaeth bwysicaf iddynt mewn perthynas â thrafnidiaeth. O gofio bod y rhwydwaith ffyrdd yn fater allweddol i aelodau'r Ffederasiwn Busnesau Bach, ac yn niffyg unrhyw fanylion pellach, mae'r ffaith y bydd prosiectau i adeiladu ffyrdd newydd yn cael eu rhewi wrth i adolygiad gael ei gynnal yn peri pryder. Felly, Ddirprwy Weinidog, a allwch nodi a fydd eich panel adolygu ffyrdd yn cynnwys cynrychiolwyr busnesau yng Nghymru, yn hytrach na dim ond academyddion a chanddynt diddordeb mewn trafnidiaeth a newid hinsawdd? A sut rydych yn ymgysylltu â busnesau bach i sicrhau bod eu llais yn effeithio ar benderfyniadau a wneir yma yng Nghymru? Diolch.
Wel, credaf fod angen system drafnidiaeth integredig effeithiol ar bob busnes, ac mae hynny'n cynnwys trafnidiaeth gynaliadwy yn ogystal â thrafnidiaeth ar y ffyrdd. Rydym wedi dweud yn glir iawn nad yw'r adolygiad ffyrdd hwn yn golygu na fyddwn byth yn adeiladu unrhyw ffyrdd eto. Y neges yw bod yr her sy'n wynebu pob un ohonom, yn enwedig busnesau, o ran yr amgylchedd ansefydlog a'r economi ansefydlog yn sgil yr argyfwng hinsawdd, yn galw am ddull newydd o weithredu. Ac mae angen inni ddeall faint yn union o hyblygrwydd sydd gennym o ran carbon wrth gyflawni cynlluniau ffyrdd, sydd, fel y gwyddom, yn cynhyrchu teithiau ychwanegol a thraffig ychwanegol, a sut yr awn ati gyda'n penderfyniadau buddsoddi yn y blynyddoedd i ddod, a faint yn rhagor y gallwn ei wario ar gynnal a chadw'r ffyrdd sydd gennym a gwella trafnidiaeth gyhoeddus fel bod gan bobl ddewis amgen gwerth chweil. Ac o gofio popeth a ddywedodd ynglŷn â phwysigrwydd bod yn feiddgar a gwneud penderfyniadau i fynd i’r afael â’r her sero-net, byddwn wedi gobeithio y byddai wedi cefnogi hynny yn hytrach na cheisio ennyn gwrthwynebiad pan na ddylai unrhyw wrthwynebiad fodoli.
Diolch, Weinidog, am beidio ag ateb y cwestiwn. Roeddwn yn gofyn mewn gwirionedd ynglŷn â chyfranogiad yn y cynllun sydd ar waith, nid yr hyn a ateboch chi.
Ond beth bynnag, y cwestiwn nesaf: a gaf fi ofyn i'r Gweinidog, os gwelwch yn dda, am fwy o fanylion ynglŷn â mynd i'r afael â phroblemau ansawdd aer a thagfeydd traffig? Sut y bydd problemau tagfeydd traffig ac ansawdd aer yn cael eu hystyried yn yr adolygiad adeiladu ffyrdd? Ac a fydd y panel yn mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth o brofiadau ac astudiaethau o welliannau a phrosiectau o'r fath, fel y ffyrdd osgoi diweddar ar gyfer Llandeilo, Caernarfon a Porthmadog?
Yn sicr, ac i ymddiheuro am beidio ag ateb pob rhan o'i chwestiwn cyntaf yn uniongyrchol, gadewch i mi ei ateb yn awr. Byddwn yn sicr yn edrych ar ansawdd aer a beth i'w wneud mewn sefyllfaoedd lle mae problem wirioneddol gydag ansawdd aer. Nawr, ar hyn o bryd, yr ateb diofyn i hynny yn aml yw adeiladu ffordd osgoi, ac mae parhau i adeiladu ffyrdd osgoi nid yn unig yn dargyfeirio cyllid oddi wrth fathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth, ond hefyd yn ychwanegu yn y pen draw at broblem cymdeithas sy'n ddibynnol ar geir ac yn cylchdroi o gwmpas ceir. Felly, yn y tymor canolig i'r tymor hir, nid yw hynny'n helpu i ddod o hyd i ateb. Yn amlwg, bydd y newid i geir trydan, i geir â phibellau egsôst wedi'u datgarboneiddio o gymorth mewn ardaloedd lle ceir tagfeydd traffig mewn perthynas ag ansawdd aer, ac mae pethau eraill y gallwn edrych arnynt hefyd. Felly, gofynnwyd yn benodol i'r panel edrych ar hynny, ac yn sicr, byddant yn banel o arbenigwyr. Unwaith eto, nid ydym yn ceisio cael corff sy'n cynrychioli pob rhanddeiliad; y bwriad yw cael tîm o arbenigwyr penodol sy'n deall y dystiolaeth, ac sy'n deall yr heriau o ran cyflawni. Felly, er enghraifft, rwy'n mawr obeithio y bydd gennym gynrychiolydd awdurdod lleol yn rhan o'r grŵp hwnnw i ddeall beth sydd angen ei wneud ar lefel leol.
Iawn. Diolch yn fawr iawn. Mae'r neges fod trafnidiaeth gyhoeddus yn flaenoriaeth yn un y dylid ei chroesawu'n ddiffuant. Fodd bynnag, mae'r amserlenni sy'n gysylltiedig â'r strategaeth seilwaith, gan gynnwys gwelliannau trafnidiaeth gyhoeddus, yn hir ac ni allant fynd i'r afael â phroblemau uniongyrchol. Sut y byddwch yn ystyried yr oedi hwn, gan gofio'r angen i sicrhau bod bylchau mewn anghenion seilwaith yn cael eu llenwi yn y cyfamser? A fydd hyn yn rhan o'r broses adolygu? Ac a wnewch chi ymrwymo i fwrw ymlaen ag astudiaethau i brosiectau, fel ffordd osgoi Cas-gwent a chyffordd traffordd ar yr M48, lle roedd tollau pont Hafren yn arfer bod, i leddfu tagfeydd ar yr M4? Diolch.
Nid ydym yn mynd i gytuno ar hyn. Er ymdrechion y naill ohonom i berswadio'r llall, ni chredaf ein bod yn mynd i wneud hynny. Ni chredaf y bydd ffyrdd osgoi diddiwedd ac astudiaethau traffyrdd o gymorth gyda phroblem tagfeydd yn y tymor canolig, ac yn wir, yn enwedig felly gyda materion ansawdd aer neu leihau carbon. Felly, rydym yn anghytuno'n llwyr, fel rydym wedi trafod o'r blaen, ar y ffordd orau o fynd i'r afael â hyn. Nawr, gall yr Aelod barhau i godi hyn ar bob cyfle posibl, a gallwn barhau i gael yr un dadleuon, neu gallwn geisio gweithio ar rai atebion sy'n cyflawni ein nodau cyffredin o wella Cymru. Ond nid yw ailadrodd yr un llinellau ystrydebol yn mynd i fod o lawer o gymorth i ni.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. Weinidog, mae gan ynni cymunedol ran hanfodol i'w chwarae wrth sicrhau ein bod yn cyflawni net sero. Mae ganddo rôl yn helpu i sicrhau caniatâd y cyhoedd, cynyddu cyfranogiad ac ymgorffori newid ymddygiad. Mae adroddiad diweddar sy'n edrych ar gyflwr y sector yn galw ar y Llywodraeth i ddangos cefnogaeth i'r mudiad trwy sicrhau bod polisïau sefydlog gan Lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig, ynghyd â sicrhau mynediad at adnoddau a chyllid, a bod hefyd mwy o gyfleoedd ar gael i helpu grwpiau i werthu eu hynni yn lleol. Gyda hyn oll mewn golwg, a allwch chi, Weinidog, amlinellu sut bydd Llywodraeth Cymru yn anelu at gefnogi'r sector ynni cymunedol yn ystod y chweched Senedd?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Delyth. Mae'n rhywbeth sy'n bwysig iawn i bob un ohonom, yn fy marn i. Un o'r pethau y mae'n rhaid inni allu eu gwneud ledled Cymru yw nid yn unig cynhyrchu llawer iawn o drydan yn adnewyddadwy, ond hefyd mae arnom angen i'r gymuned gymryd rhan a phrosiectau ynni cymunedol sy'n ffynnu ledled Cymru. Byddaf yn cysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch ei chynllun, sydd wedi bod yn tangyflawni, yn anffodus. Mae gennym nifer o rwydweithiau ynni cymunedol lleol wedi'u sefydlu, pob un yn barod i fynd, ac yn anffodus, nid yw rhan y DU o'r gwaith hwnnw wedi bod mor frwdfrydig ag yr hoffem. Rwyf eisoes wedi cael sgyrsiau ynglŷn â sut y gallwn ni, fel Llywodraeth Cymru, adeiladu ar yr egni yn y gymuned—maddeuwch y mwyseirio—i fanteisio ar y cynlluniau hyn, ac i weld a allwn gamu i'r adwy ac adeiladu ar y gwaith a wnaed ar sail gobaith gan Lywodraeth y DU, nad yw, gwaetha'r modd, wedi cael ei wireddu.
Mae nifer o bethau eraill rydym yn awyddus i'w gwneud ym maes ynni adnewyddadwy, a heb ddymuno creu llwyth gwaith rhy fawr i fy Nirprwy Weinidog, rydym yn ystyried o ddifrif cynnal ymarfer tebyg ar ynni cymunedol adnewyddadwy, fel y gwnaethom ar goed, i ddarganfod y rhwystrau, yr anawsterau a'r atebion er mwyn sicrhau bod hwn yn sector sy'n ffynnu yng Nghymru. Ac fel bob amser, Delyth, nid gennym ni y mae'r holl syniadau da; gwyddom fod syniadau da eraill i'w cael. Bydd hwn yn ymarfer i sicrhau ein bod yn tynnu'r syniadau da ynghyd ac yn adeiladu ar yr ymdrech fawr a gafwyd eisoes. Fel y dywedaf, byddaf yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU a Swyddfa'r Marchnadoedd Nwy a Thrydan i weld beth y gallwn ei wneud i gynorthwyo'r cynllun y gwn ei fod yn wynebu anawsterau.
Iawn, wel, rwy'n croesawu hynny a diolch, Weinidog, ac rwy'n croesawu eich mwyseirio hefyd.
Gan droi at faes gwahanol mewn perthynas â thargedau natur, pleidleisiodd y Senedd, bythefnos yn ôl, o blaid cynnig Plaid Cymru a datgan argyfwng natur, ac roedd y cynnig hwnnw'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targedau adfer natur sy’n rhwymo mewn cyfraith. Roedd hwn yn gam pwysig ac fel rydym wedi'i drafod gymaint o weithiau, mae'n ymwneud â'r argyfwng hinsawdd hefyd yn ogystal â'r argyfwng natur, gan eu bod yn cydblethu.
Gyda Chynhadledd y Partïon 26 yn cael ei chynnal ym mis Hydref o fewn mis i'r adeg y bydd y Senedd yn dychwelyd ar ôl y toriad, a fframwaith byd-eang i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth ar y ffordd, mae gan Gymru ran bwysig iawn i'w chwarae yn awr wrth ddatblygu'r bensaernïaeth gyfreithiol i fynd i'r afael â'r argyfwng natur. Felly, a gaf fi ofyn a yw Llywodraeth Cymru o ddifrif yn bwriadu datblygu targedau adfer natur, ac os ydych, a allech amlinellu'r amserlen y gallwn ddisgwyl gweld y targedau hynny'n cael eu cyflawni neu gyhoeddi'r fframwaith, os gwelwch yn dda?
Yn sicr, Delyth. Rydym yn rhan o rwydwaith byd-eang o genhedloedd sy'n gweithio ar hyn ac rydym yn gobeithio sicrhau ein bod yn rhan o'r fframwaith byd-eang mewn ffordd uchelgeisiol, ond cyflawnadwy er hynny. Nid ydym am i hwn fod yn gyngor anobaith chwaith. Mae'n gydbwysedd anodd iawn. Felly, yr hyn rydym yn ei wneud yw gweithio gyda'r gymuned fyd-eang. Byddwn yn dysgu rhywfaint drwy Gynhadledd y Partïon 26 hefyd a bydd hynny'n ein galluogi i roi ein targedau ein hunain ar waith yn gyflym. Fel y gwyddoch, ac fel rydym wedi'i ailadrodd ar sawl achlysur, rwy'n awyddus iawn i gael y targedau, ond mae'n rhaid inni fod yn gwbl sicr nad ydynt yn arwain at ganlyniadau anfwriadol lle rydym yn anghofio am bethau heb dargedau penodol yn gysylltiedig â hwy ac ati. Felly, byddwn yn awyddus i weithio'n ofalus iawn ar draws y Senedd a chyda'r sector i sicrhau bod y targedau'n uchelgeisiol, ond hefyd yn realistig ac yn arwain at gyn lleied o ganlyniadau anfwriadol â phosibl. A chredwn mai o fewn yr amgylchedd byd-eang y gellir gwneud hynny yn y ffordd orau. Rydym yn rhan o gynllun, onid ydym? Felly, mae gennym y cynllun byd-eang, mae gennym gynllun y DU a bydd gennym gynllun Cymru, ac rwy'n awyddus iawn i Gymru chwarae rhan fyd-eang yn hynny, fel ein bod yn dangos beth y gall cenhedloedd bach sy'n ymroddedig iawn i hyn ei wneud mewn gwirionedd.
Felly, o ran yr amserlen, bydd hynny'n dibynnu i raddau ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Rydym wedi ailadrodd y problemau sydd gennym gyda chapasiti dro ar ôl tro, ond rydym yn bwriadu rhoi Deddf diogelu'r amgylchedd ar waith hefyd; rydym yn edrych i weld a oes cyfleoedd eraill i ychwanegu'r ddeddfwriaeth ar dargedau ac ati at Fil a allai fod wedi'i raglennu eisoes, ac os nad oes cyfle, i weithio gyda'r Llywydd a staff y Comisiwn i weld lle gallwn ddod o hyd i rywfaint o le yn y rhaglen ar gyfer hyn. Felly, byddwn yn sicrhau bod y drefn ar waith heb y gefnogaeth statudol ar y dechrau os na allwn ddod o hyd i'r rhaglen, ond byddwn yn ei rhoi ar sail statudol cyn gynted ag y gallwn. Rwy'n ceisio peidio ag addo gormod o ran yr elfen statudol, o gofio fy mod yn ymwybodol o'r problemau, ond bydd y drefn ei hun a'r consensws y dylai'r Llywodraeth fod yn gweithredu i sicrhau bod hynny'n digwydd yn bendant yno.
Diolch, Weinidog. A dweud y gwir, mae hynny'n cyd-fynd â'r cwestiwn olaf roeddwn am ei ofyn i chi ynglŷn â'r pryder ynghylch y bylchau sydd wedi'u creu mewn llywodraethu amgylcheddol ers i'r DU adael yr UE. Ar y bwlch llywodraethu, mae pryder gwirioneddol, y gwn eich bod yn ymwybodol ohono, y gallai arwain at barhau niwed amgylcheddol, ac ychydig o gyfle sydd i'w gael i Lywodraethau ac i gyrff cyhoeddus unioni pethau, gan nad yw'r corff gwarchod amgylcheddol, ar hyn o bryd, yn fawr mwy na mewnflwch cwynion.
Felly, fe sonioch yn eich ateb blaenorol am y cyfyngiadau, fel y dywedwch, yn y rhaglen ddeddfwriaethol, Weinidog, ond er bod y Llywodraeth wedi pleidleisio o blaid corff llywodraethu amgylcheddol cadarn ac annibynnol, roedd yna siom nad oedd hynny i'w weld yn y rhaglen lywodraethu, neu ni chafwyd llawer o fanylder yn ei gylch o leiaf, ac nid oedd yn y rhaglen ddeddfwriaethol. Felly, yn ogystal â'r hyn rydych newydd ei ddweud yn eich ateb blaenorol, a allwch gadarnhau y bydd y ddeddfwriaeth honno'n sicr o gael ei blaenoriaethu cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl, os gwelwch yn dda?
Delyth, rwy'n fwy na pharod i gadarnhau hynny. Felly, yn amlwg, mae gennym raglen dros dro ar gyfer pum mlynedd tymor y Senedd yn ein pennau. Nid dyna sy'n cael ei gyflwyno i'r Senedd gan ei fod wedi'i gryfhau ar y pwynt hwnnw. Ond gallaf roi sicrwydd i chi fy mod wedi bod yn gwneud fy ngorau glas i sicrhau bod y Bil diogelu'r amgylchedd yn flaenoriaeth. Yn amlwg, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod mewn sefyllfa i'w gyflwyno i'r Senedd yn y ffordd iawn, ond gallaf roi sicrwydd i chi ein bod yn blaenoriaethu hynny.
Rydym hefyd yn sicrhau bod pedair egwyddor amgylcheddol yr UE, sef unioni yn y tarddiad, y llygrwr sy’n talu, atal a rhagofal, fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, yn egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori'n llwyr yn y broses o ffurfio a chymhwyso polisi yn awr. Penodwyd Dr Nerys Llewelyn Jones, fel y gwyddoch, i fy nghynghori ar bryderon perthnasol sy'n codi o'i rôl dros dro, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cael cymaint â phosibl o'r hyn a fydd yn drefn statudol ar waith cyn y statud. Mae dwy fantais i hynny: yn gyntaf oll, nid yw'n aros am y statud, ac yn ail, mae'n caniatáu inni brofi amryw bethau y gallwn eu hadlewyrchu wedyn yn y statud pan fyddwn wedi deall sut y byddant yn gweithio'n ymarferol. Ond gallaf roi sicrwydd i chi ein bod yr un mor awyddus â chithau i gael hyn ar y llyfr statud, a bod Brexit a COVID, gwaetha'r modd, yn dal i fynd drwy'r system gan dagu adnoddau. Ond gyda lwc, rydym yn dod at ddiwedd hynny yn awr a gallwn ddechrau cyflymu'n ôl tuag at weithgarwch arferol y Senedd.