Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Diolch, Weinidog. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Bws Caerdydd a Stagecoach eu bod yn ôl-osod 49 o’u bysiau sy'n creu fwyaf o lygredd gyda thechnoleg glanhau egsôst er mwyn lleihau eu hallyriadau nitrogen ocsid 97 y cant, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn Lloegr, maent bellach gam ar y blaen ac wedi dechrau cyflwyno dyfeisiau hidlo aer a all dynnu cymaint â 65g o lygryddion o'r aer dros gyfnod o 100 diwrnod, sy'n cyfateb i lanhau 3.5 miliwn litr o aer—digon i lenwi 1,288 o byllau nofio Olympaidd, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae hyn wedi'i gyflwyno mewn dinasoedd fel Manceinion, Newcastle a Southampton, ac rwy'n awyddus i wybod a fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ariannu mentrau tebyg yng Nghymru.