1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 14 Gorffennaf 2021.
2. Beth yw cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio technoleg arloesol i wella ansawdd aer yng Nghymru? OQ56760
Diolch. Mae ein cynllun aer glân yn nodi mesurau uchelgeisiol i wella ansawdd aer. Mae hyn yn cynnwys rhoi technolegau newydd a glanach ar waith ar draws ystod o sectorau. Rydym hefyd wedi ymrwymo i wella ein rhwydwaith monitro ansawdd aer ac rydym yn ystyried technolegau newydd a thechnolegau datblygol fel rhan o'r gwaith hwn.
Diolch, Weinidog. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Bws Caerdydd a Stagecoach eu bod yn ôl-osod 49 o’u bysiau sy'n creu fwyaf o lygredd gyda thechnoleg glanhau egsôst er mwyn lleihau eu hallyriadau nitrogen ocsid 97 y cant, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn Lloegr, maent bellach gam ar y blaen ac wedi dechrau cyflwyno dyfeisiau hidlo aer a all dynnu cymaint â 65g o lygryddion o'r aer dros gyfnod o 100 diwrnod, sy'n cyfateb i lanhau 3.5 miliwn litr o aer—digon i lenwi 1,288 o byllau nofio Olympaidd, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Mae hyn wedi'i gyflwyno mewn dinasoedd fel Manceinion, Newcastle a Southampton, ac rwy'n awyddus i wybod a fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ariannu mentrau tebyg yng Nghymru.
Diolch. Nid oes unrhyw amheuaeth fod datgarboneiddio ein stoc bysiau yn her enfawr i ni ar y cyflymder y mae angen inni wneud hynny er mwyn cyrraedd ein targedau allyriadau sero-net. Gwelais yn ddiweddar, a chael eistedd y tu ôl i lyw, mewn gwirionedd—gwireddu breuddwyd plentyn—un o fysiau trydan newydd Casnewydd. Mae'n dechnoleg anhygoel o drawiadol—ac yn ddrytach o lawer na bws petrol, mae'n rhaid dweud. Felly, bydd bwlch i'w lenwi yn y cyfamser. Felly, fel y dywed Joel James yn gwbl gywir, mae rhai ardaloedd ar y blaen i ardaloedd eraill.
O ran Llywodraeth Cymru'n ariannu cynnydd ar raddfa fawr, rydym yn edrych, fel rhan o'n strategaeth fysiau, ar sut y mae angen i'n perthynas â'r diwydiant bysiau newid, a sut y caiff hynny ei ariannu. Ond hoffwn nodi’r hyn a ddywedodd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn gynharach heddiw ynglŷn â'r diffyg yn y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael oherwydd y cyllid canlyniadol ar gyfer trafnidiaeth, oherwydd y ffordd y caiff High Speed 2 ei drin fel prosiect ar gyfer Cymru a Lloegr, er mai'r gwirionedd, fel y noda'r pwyllgor sy'n cynnwys aelodau Ceidwadol yn bennaf, yw ei fod yn brosiect ar gyfer Lloegr yn unig—nid ydym yn cael y cyllid canlyniadol sydd ei angen arnom yng Nghymru i ariannu ein holl uchelgeisiau trafnidiaeth. Felly, mae angen inni grafu ein pennau a darganfod sut y gellir llenwi'r bwlch hwnnw, ac mae'n un rydym am ei lenwi, ond byddai'n ddefnyddiol pe bai'r Llywodraeth Geidwadol yn rhoi ychydig mwy o arian i ni.
Rwy'n croesawu cwestiwn Joel am ei fod yn nodi bod pethau y gallwn fwrw ymlaen â hwy ar unwaith, naill ai gydag atebion technolegol, neu atebion eraill, nad oes angen deddfwriaeth i'w cyflawni. Gallwn fwrw ymlaen â gwelliannau i ansawdd aer ar unwaith, a hoffwn glywed syniadau'r Gweinidog ynglŷn â pha bethau eraill y gallwn eu gwneud.
Ond bydd y Gweinidog yn deall y bu rhywfaint o siom am nad oedd y Bil ansawdd aer yn rhan o raglen gyntaf Llywodraeth y chweched Senedd. Rydym yn deall bod angen gwneud gwaith cydbwyso anodd, ond mae llythyr ar ei ffordd at y Gweinidog, os nad yw wedi cyrraedd yn barod, oddi wrthyf fi, fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y Bil ansawdd aer, a'r is-gadeiryddion hefyd, i ofyn am gyfarfod fel y gallwn drafod sut i fwrw ymlaen gyda mesurau eraill, ond hefyd, sut y gallwn sicrhau, cyn gynted â phosibl yn nhymor y Senedd hon, ar y cyfle nesaf, y Bil aer glân hwnnw hefyd, gan fod cefnogaeth drawsbleidiol enfawr i'w gyflawni.
Wel, rwyf bob amser yn edrych ymlaen at gael llythyrau gan Huw Irranca-Davies ac ni fydd hwn yn eithriad. [Chwerthin.] Rwy'n cytuno ag ef ei fod yn Fil pwysig iawn, ac mae'n un rydym yn awyddus iawn i fwrw ymlaen ag ef cyn gynted ag y gallwn. Cyfeiria at y tensiwn rhwng yr amser sydd ar gael wrth inni ymdrin â'r rheoliadau coronafeirws a rheoliadau Brexit, a'n rhaglen lywodraethu uchelgeisiol, ac rydym yn gweithio drwy hynny.
Mae'n llygad ei le, serch hynny, yn canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud yn y cyfamser, gan y bydd deddfwriaeth o reidrwydd yn cymryd nifer o flynyddoedd i'w chyflwyno, ac nid oes gennym nifer o flynyddoedd i fynd i'r afael â'r argyfwng ansawdd aer. Felly, rwy'n awyddus iawn i weithio gydag ef a'r grŵp trawsbleidiol i nodi'r hyn y gellir ei wneud yn y cyfamser. Ac mae'n rhaid imi ychwanegu, ar ôl dod yma gydag ef yn syth o'r grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol, ac rwy'n ei longyfarch eto am ei gadeirio mor fedrus, mae'r buddsoddiad eleni o £75 miliwn ar gyfer teithio llesol—y buddsoddiad uchaf y pen o bob gwlad yn y DU—yn enghraifft dda iawn o'r hyn y gellir ei wneud i ddod â phobl allan o geir ac ar fathau cynaliadwy o drafnidiaeth, sydd, yn ogystal â gwella eu hiechyd a lleihau tagfeydd, hefyd yn gwella ansawdd aer. Ac mae angen inni edrych ar fwy o bethau y gallwn eu gwneud wrth aros i ddeddfu, a sicrhau bod y ddeddfwriaeth mor uchelgeisiol â phosibl.