Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Diolch, Llywydd. Weinidog, mae gan ynni cymunedol ran hanfodol i'w chwarae wrth sicrhau ein bod yn cyflawni net sero. Mae ganddo rôl yn helpu i sicrhau caniatâd y cyhoedd, cynyddu cyfranogiad ac ymgorffori newid ymddygiad. Mae adroddiad diweddar sy'n edrych ar gyflwr y sector yn galw ar y Llywodraeth i ddangos cefnogaeth i'r mudiad trwy sicrhau bod polisïau sefydlog gan Lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig, ynghyd â sicrhau mynediad at adnoddau a chyllid, a bod hefyd mwy o gyfleoedd ar gael i helpu grwpiau i werthu eu hynni yn lleol. Gyda hyn oll mewn golwg, a allwch chi, Weinidog, amlinellu sut bydd Llywodraeth Cymru yn anelu at gefnogi'r sector ynni cymunedol yn ystod y chweched Senedd?