Cyfoeth Naturiol Cymru

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 14 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:00, 14 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Heledd. Rwyf wedi cyfarfod â thîm arwain Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddiweddar, ochr yn ochr â'r Dirprwy Weinidog, Lee Waters, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio'n agos iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'n holl bartneriaid ledled Cymru i sicrhau y gallwn ymateb yn effeithiol i heriau sylweddol newid hinsawdd, gan gynnwys ymateb i ddigwyddiadau llifogydd difrifol.