Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Mi ddylwn i ddatgan fan hyn fy mod i'n gynghorydd yn Rhondda Cynon Taf hefyd. Mi fyddwch chi'n ymwybodol, dwi'n siŵr, bod Llywodraeth Cymru wedi rhoddi arian i nifer o gynghorau lleol, gan gynnwys cyngor Rhondda Cynon Taf, i wario ar amddiffynfeydd dros dro rhag llifogydd ar gyfer tai, megis giatiau atal llifogydd ac ati, ac mae'r cynllun yn cael ei weinyddu gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Er bod yna nifer o dai wedi elwa o hyn, mae yna anghysondeb o ran sut mae'r penderfyniad yn cael ei wneud o ran pa dai sy'n gymwys neu beidio. Er enghraifft, ar un stryd ym Mhontypridd, mi gafodd 30 o dai lifogydd yn Chwefror 2020, ond 13 o dai sy'n cael cynnig giatiau. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud nad yw gweddill y tai ddim efo cymaint o risg o lifogydd. Mae'n anodd iawn i fi egluro i bobl pam eu bod nhw ddim yn gymwys i gael y giatiau yma, a hwythau wedi cael llifogydd ar union yr un pryd. Gaf i ofyn ichi felly, oherwydd dwi wedi methu â chael atebion i hyn: a fedr y Gweinidog ymyrryd yn y mater hwn, os gwelwch yn dda, a gofyn am ddiweddariad o ran sut mae arian y Llywodraeth yn cael ei wario, a sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud o ran pa dai sy'n gymwys neu beidio? Dwi'n siŵr y byddai nifer o bobl yn cytuno y dylai pob cartref a ddioddefodd lifogydd gael yr un cynnig.