Cyllideb y Taliad Disgresiwn at Gostau Tai

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 14 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:06, 14 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Carolyn. Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i fynegi ein siom fawr ynglŷn â'r toriadau a wnaed i daliadau disgresiwn at gostau tai. Bydd hyn, ynghyd â rhewi cyfraddau lwfans tai lleol, a rhoi diwedd ar y swm o £20 yr wythnos o gredyd cynhwysol ychwanegol ar ôl mis Medi, yn gwthio mwy o bobl a theuluoedd i fwy fyth o galedi.