1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 14 Gorffennaf 2021.
6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r cyfraniad y byddai morlyn llanw bae Abertawe yn ei wneud tuag at gyrraedd targedau amgylcheddol Llywodraeth Cymru? OQ56774
Mae cynhyrchiant adnewyddadwy yng Nghymru eisoes yn darparu hanner ein trydan ar gyfartaledd. Gallai ynni morol, gan gynnwys môr-lynnoedd llanw, chwarae rhan yn y gwaith o gyflawni'r uchelgais ynni a nodir gennym yng nghynllun morol cenedlaethol Cymru.
Diolch am yr ateb.
Mae tair blynedd wedi bod ers i Lywodraeth y DU droi ei chefn ar Gymru unwaith eto drwy wrthod buddsoddi ym morlyn llanw bae Abertawe, ac mae dwy flynedd ers i ddinas-ranbarth bae Abertawe gyflwyno gweledigaeth ddiwygiedig, prosiect Ynys Ynni'r Ddraig, i Lywodraeth Cymru. Er bod yr adroddiad hwnnw wedi awgrymu y gallai'r gwaith adeiladu ddechrau ar y morlyn erbyn mis Gorffennaf 2021, mae'r amser hwnnw wedi cyrraedd ac nid yw bae Abertawe wedi'i gyffwrdd o hyd. Mae pobl yn Abertawe a Gorllewin De Cymru yn awyddus iawn i weld y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth a dechrau cyflawni'r manteision amgylcheddol ac economaidd y gwyddom eu bod yno. Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal rhywfaint o brofion marchnad feddal yn ddiweddar fel rhan o her môr-lynnoedd llanw Cymru, ond a allwch chi amlinellu'r camau nesaf yn y broses honno a phryd y rhagwelwch y gallwch wneud datganiad i'r Siambr hon ar gynnydd? Diolch.
Diolch am y cwestiwn teg iawn hwnnw. Credaf fod Sioned Williams yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod cefnogaeth drawsbleidiol yn y Siambr hon i forlyn llanw yn Abertawe, a bod Llywodraeth y DU, er iddi wneud llawer o synau cadarnhaol, wedi ein siomi. Hefyd, yn adroddiad y pwyllgor dethol ar faterion Cymreig y bore yma, nodais y gefnogaeth drawsbleidiol i drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe, rhywbeth nad ydym wedi ei anghofio, ac rwy'n falch iawn o weld y Ceidwadwyr ar y pwyllgorau hynny'n anghytuno â'u Llywodraeth eu hunain. Hoffwn annog pob plaid i barhau â'u cefnogaeth i sicrhau môr-lynnoedd i Gymru.
Cyfarfûm â'r Is-ysgrifennydd Gwladol yn Swyddfa Cymru cyn yr etholiad i gael sgyrsiau ynglŷn â sut y gallem weithio ar y cyd i gefnogi cais Ynys Ynni'r Ddraig yn Abertawe, ac mae sgyrsiau'n parhau ar lefel swyddogol gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru ynghylch datblygu hwnnw i'r cam nesaf lle gall Llywodraeth y DU ei ystyried, oherwydd rwy'n credu ei fod yn bwysig. Dysgodd y broses honno inni, os yw'r prosiect hwnnw i fynd rhagddo, fod angen ei wneud mewn cydweithrediad rhwng y ddwy Lywodraeth wahanol.
Yn fwy cyffredinol, unwaith eto ar y cyd â Llywodraeth y DU drwy fargen ddinesig bae Abertawe, rydym yn cefnogi pecyn ynni gwyrdd gwerth £60 miliwn sydd ar y gweill ac yn mynd i wneud gwahaniaeth yn sir Benfro. Ac rydym yn awyddus iawn—cafodd Julie James a minnau gyfarfodydd yr wythnos hon—i edrych ar gronfa her ynni morol. Roedd ymrwymiad i hynny yn y maniffesto. Rydym bellach yn gweithio ar hynny ac yn edrych ar yr ystod gyfan o dechnolegau morol, gan gynnwys ynni llanw, oherwydd mae pŵer y môr yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ei ddefnyddio i fynd i'r afael â newid hinsawdd, ac rydym eisiau cynifer â phosibl o wahanol ymyriadau i gyfrannu at hynny.