Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Weinidog, mae'r rhaglen lywodraethu yn glir yn ei bwriad i fynd i'r afael â'r her amgylcheddol a llawer o feysydd polisi'r Llywodraeth y mae angen ymateb arnynt. Gwn y byddwch yn ymwneud yn helaeth â'r trafodaethau ynglŷn â sut rydym yn cyflawni'r targedau datgarboneiddio hynny, sydd, wrth gwrs, yn gymhleth iawn. Bydd llawer o sefydliadau eisoes yn asesu eu hallbwn carbon, ac mae'r Ymddiriedolaeth Garbon wedi cymryd rhan yn y gwaith hwn. Os ydych yn disgwyl i eraill weithredu, mae'n bwysig i Lywodraeth Cymru arwain fel sefydliad sydd â dealltwriaeth a chyhoeddi ei hôl troed carbon ei hun. A wnewch chi ymrwymo i hyn?