Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Mae gan bawb ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Yn unol â'n canllaw sector cyhoeddus ar gyfer adrodd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, byddwn yn nodi llinell sylfaen gynhwysfawr, yn mynd i'r afael â'n hallyriadau ein hunain ac yn eu monitro, gan adeiladu ar y cynlluniau rydym eisoes wedi'u gwneud mewn perthynas â'n fflyd, ein defnydd o ystadau a gweithio gartref.