Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Diolch, Weinidog. A symudaf ymlaen yn awr at bryder mwy dybryd sydd gennyf cyn toriad yr haf, sef yr wythnos diwethaf—. Fel y nodwyd gennych yn garedig yr wythnos diwethaf, rydym yn cytuno bod hon wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i athrawon a phenaethiaid a'n bod am iddynt gael gwyliau haf llawn. Ac i'r perwyl hwn rwy'n dal i bryderu am olrhain cysylltiadau, Weinidog. Oherwydd nid ydym am gael sefyllfa lle mae'n rhaid i benaethiaid ac athrawon dreulio chwe diwrnod cyntaf eu gwyliau yn olrhain cysylltiadau. Felly, pwy sy'n mynd i ymgymryd â'r gwaith hwn os oes angen ei wneud? Ni ddylai penaethiaid orfod ei wneud, Weinidog. Felly, a ydych yn rhoi mesurau ar waith, efallai, fel bod awdurdodau lleol yn ymgymryd â'r gwaith o ddydd Gwener neu ddiwedd y tymor ymlaen fel y gall penaethiaid a staff gael gwyliau haf llawn?